Wrecsam: Nerfusrwydd nos Fawrth ar y Cae Ras
- Cyhoeddwyd
"Dydd Sadwrn fydd y gêm bwysicaf y clwb ers dros 15 mlynedd."
Dyna ymateb un o hoelion wyth Clwb Pêl-droed Wrecsam, Cledwyn Ashford, y tu allan i'r Cae Ras nos Fawrth.
Ennill oedd hanes Wrecsam, a hynny'n gyfforddus wedi ail hanner cryf, ond beth am nerfau'r cefnogwyr cyn y gêm enfawr hon?
Roedd 19 Ebrill yn ddyddiad oedd wastad wedi'i farcio yn nyddiadur pob cefnogwr Wrecsam, dyma'r gêm wrth gefn holl bwysig yn erbyn Yeovil.
Gyda'r Dreigiau un pwynt ar y blaen i Notts County ar frig Cynghrair Cenedlaethol Lloegr, roedd yn rhaid peidio colli'r gêm hon.
Wrth gerdded tuag at stadiwm y Cae Ras ar noson hyfryd o wanwyn, tua awr a hanner cyn y gic gyntaf, roedd golwg nerfus iawn ar wynebau'r cefnogwyr.
Roedd hyd yn oed y stiwardiaid, rhai wedi bod yn gwirfoddoli gyda'r clwb ers blynyddoedd yn gwerthfawrogi mawredd y gêm.
'Legend'
"Mae rhaid ennill hon, allwn ni ddim dibynnu ar y gemau sydd ar ôl," meddai stiward oedd yn gwarchod drws yn y prif eisteddle.
Roedd golwg bryderus ar wynebau rhai o'r rheiny oedd yn gwisgo sgarffiau gwyrdd a gwyn Yeovil hefyd; colli ac roedden nhw'n disgyn o'r gynghrair, felly roedd cymaint yn y fantol dros y 90 munud.
Wrth gamu i mewn i'r stadiwm tua awr cyn y gic gyntaf, roedd 'na awyrgylch hapus. Ar y cae yn sgwrsio gyda'i gilydd yn eu tracwisgoedd gwyrdd oedd aelodau o garfan merched Wrecsam.
Nhw oedd gwesteion arbennig y noson ar ôl iddyn nhw sicrhau dyrchafiad fel pencampwyr i'r brif adran yng Nghymru ar gyfer y tymor nesaf.
Roedd popeth wedi'i drefnu, fod y tîm yn cael eu cyflwyno i'r dorf hanner amser gyda'r tlws. Roedd hynny yn arwydd pendant o ba mor unedig yw'r clwb y dyddiau hyn.
Un sydd wedi bod yn ymwneud â datblygu talent ifanc o fewn y clwb a'r ers degawdau yw Cledwyn Ashford.
Mae'n cael ei ddisgrifio ar wefan CPD Wrecsam fel "legend" a dim ond pobl o'r disgrifiad yno sy'n cael troedio ar wair y Cae Ras cyn y gêm heb i'r tirmon waeddi arnyn nhw.
Mae Cledwyn wedi gweld y cyfan y dyddiau da a'r dyddiau gwyn, llawenydd a'r dagrau. Roedd yn bresennol pan ddisgynnodd y clwb o'r Gynghrair Bêl-droed yn 2007 ac yn cymharu cyflwr y clwb heddiw a'r un 15 mlynedd yn ôl.
"Mae'n deimlad rhyfedd mynd fewn i'r dair gêm olaf 'ma yn gwybod ein bod angen chwe phwynt," meddai Cledwyn.
"Mi fase hi'n fendigedig cael tri phwynt heno, ac yn well fyth curo dydd Sadwrn a chael mynd i Torquay yn hapus."
Mae enwau Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn rhan o eirfa ddyddiol cefnogwyr Wrecsam y dyddiau hyn.
Ers i sêr Hollywood brynu'r clwb yn 2020, mae'r holl ddinas wedi eu croesawu, ac mae eu presenoldeb wedi rhoi hwb sylweddol i ysbryd cefnogwyr y clwb.
Roedd Cledwyn yn sydyn iawn i enwi'r ddau fel rhan enfawr o lwyddiant diweddar y clwb, er gwaethaf ei bryder cychwynnol pan ddaeth y newyddion allan.
"Fedrwch chi ddim disgrifio beth fyddai dyrchafiad yn ei olygu, rydan ni wedi disgwyl mor hir ac i fod yn deg pan ddaru'r ddau ddod yma ar y cychwyn o'n i'n bryderus.
"Y pethe maen nhw wedi neud dros y clwb, dros y ddinas a phobl y gymdeithas, mae o'n anhygoel ac maen nhw'n haeddu i ni fynd fyny," meddai.
'Wrecsam, Wrecsam, Wrecsam'
Wrth i'r chwiban nesáu, roedd y stadiwm dan ei sang. Roedd pob tocyn wedi'i werthu. "Get behind the lads" oedd neges y rheolwr Phil Parkinson cyn y gêm.
Roedd yr hanner cyntaf yn un nerfus, ac roedd hi'n anodd iawn gwahaniaethu rhwng y ddau dîm o ran eu safleoedd yn y tabl.
Yeovil yn brwydro i aros yn y gynghrair, a Wrecsam yn ymladd i geisio camu i fyny.
Cyfartal ar yr hanner a'r nerfusrwydd a phwysau gwaed y cefnogwyr yn dechrau cynyddu.
Cyfle'r tîm merched oedd hi nawr i dderbyn cymeradwyaeth y 10 mil o gefnogwyr wrth iddyn nhw arddangos y tlws am eu llwyddiant diweddar.
Wrth i'r ail hanner ddechrau, roedd y cefnogwyr yn parhau i floeddio, "Wrecsam, Wrecsam, Wrecsam" wrth i'r tîm cartref ddechrau rheoli'r meddiant.
Daeth y gôl gyntaf wedi awr, Anthony Ford gyda'i ergyd. Yn fuan wedyn daeth yr ail diolch i James Jones, a Paul Mullin yn sgorio gôl rhif 45 am y tymor i'w gwneud hi'n dair.
Mewn cyfnod o 17 munud, roedd ochneidiad o ryddhad. Dyna oedd ei angen, buddugoliaeth oedd yn golygu fod y cyfan nawr yn nwylo Wrecsam.
Roedd y cefnogwyr ar eu traed pan gyhoeddwyd fod 10,106 o gefngwyr yn bresennol - pob tocyn wedi'u gwerthu, a rhai eraill yn brin fel aur. Peth cyffredin y dyddiau hyn.
Daeth cymeradwyaeth barchus hefyd tuag at y 240 o gefnogwyr Yeovil a deithiodd o Wlad yr Haf ar nos Fawrth i weld eu tîm yn disgyn o'r gynghrair o ganlyniad i'r golled.
Roedd y rheolwr Phil Parkinson wrth ei fodd gyda'r canlyniad gan dalu teyrnged i'w chwaraewyr a'u hymdrech anhygoel nhw o dorri record o'r nifer uchaf o bwyntiau gan unrhyw glwb yn hanes Cynghrair Cenedlaethol Lloegr, gyda Wrecsam nawr ar 107.
Cyfle felly i bawb edrych ymlaen at nos Sadwrn. Gêm gartref olaf Wrecsam o'r tymor yn erbyn Boreham Wood sy'n chweched yn y tabl, ac mae'r cyfan yn syml. Tri phwynt yn unig sydd ei hangen ar Wrecsam i ennill dyrchafiad.
'Bendigedig'
Ar ddiwedd y gêm nos Fawrth wrth i'r Rob Macelhenny a'i gyfeillion o America drafod y gêm ar y cae o flaen eu criw camera, roedd y chwaraewyr yn ymlwybro'n ôl i'w ceir gan stopio pob tri cham i dynnu lluniau gyda'r cefnogwyr oedd ar ôl.
Cledwyn oedd y nesaf allan o ddrws y prif eisteddle, gyda'r wên ar ei wyneb ychydig mwy llydan na'r un oedd ganddo cyn y gêm.
"Bendigedig, unwaith ddaru ni gael y gôl gyntaf nafo ni setlo. Roedd yr awyrgylch heno yn wych. Ond dydd Sadwrn fyd y gêm bwysicaf y clwb ers dros 15 mlynedd.
"Daeth Rob McElhenney i mewn i'w swyddfa ar ôl y gêm ac roedd o'n hynod o hapus, a dwi'n gobeithio ar ôl y gêm nos Sadwrn y bydd o'n fwy na hynod o hapus," meddai.
Ymlaen at nos Sadwrn felly. Dilyn y sgript ac ennill ac fe fydd 'na barti mwy na unrhyw beth welodd Hollywood erioed ar y Cae Ras ar ddiwedd y gêm.
Colli neu gêm gyfartal, yna mae'r cyfan yn disgyn ar y gêm olaf un oddi cartref yn Torquay, a does neb eisiau i hynny ddigwydd.
Pob Lwc Wrecsam!