Ateb y Galw: Geraint Criddle
- Cyhoeddwyd
Y cyfieithydd Geraint Criddle sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl cael ei enwebu gan Meirion Roberts.
Daw Geraint yn wreiddiol o Bontllanfraith yn Sir Gwent ac mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers 20 mlynedd.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Fel un o'r rhai gafodd eu geni tua dechrau S4C (roedd bron i fi gael fy ngeni mewn carchar gan fod Mam yn gwrthod talu'r drwydded fel protest!), fy atgof cyntaf yw rhedeg gartre o'r bws ysgol i wylio Superted.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Melin Gelligroes yng Nghwm Sirhywi. Mae pawb yn meddwl am gymoedd y de fel lle llwydaidd, ôl-ddiwydiannol, ond mae'n gornel fach o hen hanes gwledig yr ardal. Dyma'r lle hefyd y clywyd neges SOS y Titanic am y tro cyntaf, gan rywun oedd wedi adeiladu ei radio ei hun!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Rhy anodd heb swnio'n hunanbwysig!
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Gwylio gêm Cymru a Lloegr yng Nghlwb Cymry Llundain pan sgoriodd Scott Williams y cais buddugol. Aeth y lle yn wallgof, gyda môr o gwrw ym mhobman. Unwaith i bopeth dawelu eto, roedd yr olwg ar wynebau'r Saeson wrth ein hochr yn bictiwr!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Y noson i fi droi'n 30, a chael noson feddwol yn Nos Da a Dempsey's yng Nghaerdydd (heddwch i'w llwch). Y peth doniol yw meddwl mor hen oeddwn i bryd hynny - byddai'n hyfryd cael bod mor ifanc eto.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Mewn ymgais i fod yn wahanol, un flwyddyn fe wnaeth Mam fy anfon i'r ysgol gynradd ar Ddydd Gŵyl Dewi fel un o Ferched Beca, yn gwisgo sgert gyda gravy browning ar fy ngwyneb. Roedd y bechgyn eraill i gyd yn gwisgo crys rygbi Cymru!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Fel tad i blentyn ag awtistiaeth, mae llawer o bethau sy'n ddigon cyffredin i lawer o bobl yn bethau anhygoel i ni. Felly roedd clywed y mab hynaf yn cyfri o un i gant yn Gymraeg yn emosiynol i fi, fel arwydd o'i gynnydd yn yr ysgol.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Sai'n siŵr os yw hyn yn cyfri fel arfer drwg neu fel diffyg arfer da, ond fe ddylwn i ddarllen llawer mwy nag ydw i. Rhywbeth i'w wneud eto pan fydd y plant yn hŷn!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Fy hoff ffilm yw Withnail & I. Mae pawb yn ei chofio am y goryfed enwog, ond mae'n astudiaeth hyfryd o gyfeillgarwch agos, a phan fydd hynny'n dod i ben wrth i un person symud ymlaen.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Ches i byth cwrdd â fy hen ewythr a symudodd o Lerpwl i Georgia yn UDA yn y 30au. Byddwn i wrth fy modd yn cael eistedd gyda fe a gweld sut brofiad oedd hynny.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fe ges i lwyfan dair gwaith yn Eisteddfod yr Urdd yn dawnsio gwerin. Je ne regrette rien.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Yn anffodus, fe fu Mam a Dad farw yn rhy ifanc i adnabod fy mhlant, ond fe gafodd Dad dri mis o adnabod y mab hynaf. Mae'r llun yma, hyd yn oed gyda Dad yn sâl gyda chanser, yn un emosiynol iawn i fi.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Gwneud popeth sy'n codi ofn arna' i. Abseilio lawr ochr skyscraper, deifio oddi ar graig fawr i mewn i'r môr, ralïo rownd y canolbarth ar 80 milltir yr awr.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Fy mab ag awtistiaeth i weld sut mae'r byd yn ymddangos iddo fe.
Hefyd o ddiddordeb: