'Dim ffydd gan bobl Cymru yn y gwasanaeth iechyd'
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd yr undeb sy'n cynrychioli meddygon yn dweud fod pobl Cymru wedi colli ffydd yn y gwasanaeth iechyd.
Bu Dr Iona Collins yn siarad â rhaglen Politics Wales BBC Cymru, ar ôl i'r gyfres ddiweddaraf o ffigyrau rhestrau aros ddangos fod canran y bobl yng Nghymru sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth lawer uwch nag yn Lloegr.
Dywedodd un fenyw o Aberdâr mai'r unig ateb oedd teithio dramor am lawdriniaeth a thalu £10,000.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gwario mwy er mwyn gwella'r GIG wedi'r pandemig a'u bod yn ceisio torri amseroedd aros.
Un o'r rhai sydd wedi rhoi'r gorau i aros yw Nicky Morris o Aberaman ger Aberdâr. Mae angen clun newydd ar Ms Morris, ond bu'n rhaid iddi hi aros am 18 mis cyn hyd yn oed gweld arbenigwr.
Ac nid yw amser o blaid Ms Morris, gan fod ganddi gyflwr sy'n golygu bod ei chyhyrau hi'n dirywio, felly fe allai gohirio'r llawdriniaeth olygu na fyddai'n gallu cerdded eto.
Mae hi felly'n mynd i Lithwania ddydd Llun i gael y llawdriniaeth yn breifat, a hynny wedi costio £10,000 iddi.
"Mae'n llawer iawn o arian. Mae fy mhartner wedi gorfod mynd i gael benthyciad ar ei dŷ i'm galluogi i deithio i Lithuania.
"Mae'n mynd i gymryd pum mlynedd i mi dalu am y glun newydd, ac eto dwi wedi talu Yswiriant Gwladol ers 35 o flynyddoedd, rwyf wedi talu fy nhrethi.
"Dydw i erioed wedi bod allan o waith, ac erioed angen y GIG yn fwy nag ydw i nawr," ychwanegodd.
"Os na alla' i gael llawdriniaeth, dyna ni! Bydd fy mywyd i drosodd yn 52 oed.
"Gadewch i ni obeithio y bydd y llawdriniaeth yn llwyddiannus, a galla' i fynd yn ôl i'r gwaith, oherwydd os na allai, mae'n bosib y byddai'n colli'r tŷ, bydd fy mhartner yn colli ei dŷ, fy swydd, galla' i ddim talu biliau...".
37,000 yn aros mwy na dwy flynedd
Mae ffigyrau o fis Chwefror yn dangos bod mwy na 37,000 o bobl yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth yng Nghymru, tua 5% o'r rhai sy'n aros.
Mae hynny i lawr o tua 60,000 fis Gorffennaf diwethaf, neu 8% o'r cyfanswm. Ond mae'r ffigyrau ar gyfer Lloegr yn llawer is.
Mae pennaeth Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yng Nghymru, Dr Iona Collins yn dweud er gwaethaf y cwymp yn y niferoedd, bod achos Nicky Morris yn "symptom o fethiant".
"Does gennym ni ddim wasanaeth gweithredol nawr. Does gan bobl ddim ffydd yn y gwasanaeth," dywedodd.
"Os oes gennych chi boen yn y frest dy'ch chi ddim hyd yn oed yn gwybod os yw ambiwlans o reidrwydd yn mynd i ddod. Rydyn ni'n gweld adroddiadau trasig iawn yn y wasg lle mae pobl yn cyrraedd yn rhy hwyr."
Ond mae Mark Dayan o'r felin drafod iechyd, Ymddiriedolaeth Nuffield, yn dweud bod rhywfaint o welliant wedi bod.
Dywedodd: "Os edrychwch chi ar ffigyrau o'r ychydig fisoedd diwethaf, ar y naill law mae rhywfaint o gynnydd wedi bod o ran amseroedd aros yng Nghymru.
"Maent mewn gwirionedd wedi gwella ar gyfer gofal brys, ac ar yr un pryd mae'r bwlch ar gyfer y person cyffredin ar y rhestr aros wedi crebachu gyda Lloegr.
"Fodd bynnag, pan fyddwch yn cymharu Cymru â'r Alban a Lloegr, mae'r amser absoliwt y mae pobl yn aros yn hirach o lawer, yn enwedig y bobl sy' wedi bod yn disgwyl am yr amser hiraf.
"Mae'n debyg ei bod hi'n wir fod y gwasanaethau iechyd yn Lloegr a'r Alban wedi rhoi pwyslais arbennig ar dorri'r rai sy wedi bod yn aros yn hirach i ffwrdd yn gyntaf, ac wedi cael peth llwyddiant wrth wneud hynny.
"Ond... mewn gwirionedd mae dewis moesol anodd iawn i'w wneud rhwng y person sydd wedi bod ar y rhestr am yr amser hiraf a'r person sydd angen gofal fwyaf."
Dywedodd pennaeth polisi Age Cymru Heather Ferguson: "Mae llawer y gellir ei wneud i leihau effeithiau amseroedd aros hir, megis clinigwyr yn rhoi cyngor i'w cleifion ar aros yn iach i helpu i atal cyflyrau rhag gwaethygu."
"Rydym yn poeni os bydd pobl hŷn yn cael eu gorfodi i aros yn rhy hir am eu triniaeth, y bydd eu cyflwr yn gwaethygu, gan arwain at golli hunanhyder, a thynnu'n ôl yn raddol o fywyd."
'Ffordd bell i fynd'
Bu'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn siarad â rhaglen Politics Wales hefyd.
Dywedodd: "Os y'ch chi'n edrych ar ostyngiad y canrannau, yn benodol, ar gyfer yr amseroedd aros hiraf, ry'n ni nawr i lawr 47% ar yr adeg hyn y llynedd.
"Nawr, mae gennym ni ffordd bell i fynd a'r hyn ry'n ni'n ei wybod yw ein bod hi'n cyfri'n rhestrau aros yn wahanol iawn i Loegr."
Yn Ebrill 2022, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth newydd i leihau niferoedd y bobl ar restr aros GIG am lawdriniaeth.
Pan ofynnwydd i Ms Morgan a oes angen ail-ymweld â'r strategaeth, dywedodd: "Dw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n gosod targedau eang i'n byrddau iechyd.
"Dyw nhw ddim wedi mynd i lawr mor gyflym ag y bydden ni wedi hoffi, efallai nad ydyn nhw wedi eu blaenoriaethu yn y ffordd y bydden ni wedi gobeithio yn nhermau yr amseroedd aros hiraf."
Ychwanegodd bod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal.
Wrth gyfeirio at amseroedd ambiwlans, dywedodd: "Dyw hi'n dal ddim yn ddigon da ac mae angen i ni wella a dyna pam ry'n ni'n rhoi arian i mewn i wasanaeth ambiwlans Cymru."
Ond fe ychwanegodd fod y galw am wasanaethau brys ar gyfer achosion difrifol hefyd wedi cynyddu ers 2019.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cyfrif mwy o atgyfeiriadau yn ein hystadegau amseroedd aros nag yn Lloegr - megis atgyfeiriadau am driniaeth heb arbenigwr syn cael eu gwneud gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, amseroedd aros diagnostig a therapi ac arosiadau awdioleg.
"Rydym yn torri'n amseroedd aros yng Nghymru. Gostyngodd cyfanswm yr amseroedd aros o dros 2 flynedd 47% ym mis Chwefror 2023 o gymharu â'u huchafbwynt ym mis Mawrth 2022, a'r isaf ers mis Hydref 2021."
Yn ymateb i sylwadau Dr Collins, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn falch o'n GIG, y system iechyd gyntaf o'i fath.
"Mae'r GIG yn delio â thua dwy filiwn o gysylltiadau bob mis yng Nghymru, perfformiad anhygoel mewn poblogaeth o 3.1 miliwn o bobl.
"Rydym wedi clustnodi mwy na £1bn yn ychwanegol yn ystod tymor y Senedd hon i helpu'r GIG i wella ar ôl y pandemig a lleihau amseroedd aros.
"Rydym yn gweithio gyda byrddau iechyd ac wedi gosod targedau uchelgeisiol ond realistig i fynd i'r afael â'r her wedi'r pandemig ar gyfer gofal wedi'i gynllunio, gyda chefnogaeth cyllid hirdymor ychwanegol sylweddol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2023