Llai yn aros am driniaeth ond pwysau'r GIG yn parhau

  • Cyhoeddwyd
ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images

Wrth i'r ffigyrau diweddaraf ddangos bod y rhai sy'n aros am driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd wedi gostwng rhywfaint mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn rhybuddio "nad yw'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd wedi lleddfu".

Ym mis Chwefror, roedd yna ostyngiad o 734,000 i 731,000 yn nifer y llwybrau cleifion (gall yr un claf fod yn aros ma fwy nag un triniaeth) sy'n aros i ddechrau triniaeth sef y pumed gostyngiad yn olynol.

"Rwy'n falch ein bod wedi gweld peth cynnydd mewn gofal a gynlluniwyd," meddai Eluned Morgan AS.

Mae 574,000 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaeth yng Nghymru ar hyn o bryd, sy'n lleihad o 1,700 o gleifion.

Roedd yna welliant hefyd yn y ffigyrau ar gyfer triniaethau canser ond roedd amseroedd ymateb galwadau ambiwlans yr ail waethaf ers cofnod a gwaethygu hefyd wnaeth amseroedd aros mewn adrannau brys.

Dywed y Ceidwadwyr bod y nifer sy'n disgwyl mwy na dwy flynedd am driniaeth - sef 37,500 - yn "annynol".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Noda'r ffigyrau diweddaraf hefyd bod nifer y cleifion sy'n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf wedi lleihau i oddeutu 63,000, sy'n ostyngiad o 39% ers yr uchafswm fis Awst y llynedd.

Mae nifer y llwybrau cleifion sydd wedi aros mwy na 36 wythnos wedi gostwng i ychydig dros 237,600, sef yr isaf ers mis Mehefin 2021.

Dadansoddiad ein gohebydd iechyd, Owain Clarke:

Er fod maint y rhestrau aros wedi gostwng yn raddol maen nhw'n dal i fod 58% yn uwch o'u cymharu â dechrau 2020 gyda degau o filoedd o gleifion yn aros yn llawer iawn hirach nag y dylen nhw.

Er mai targed y llywodraeth yw bod neb yn aros dros ddwy flynedd, ym mis Chwefror roedd dros 37,500 o achosion lle roedd rhywun wedi aros o leiaf cymaint â hynny - sefyllfa sy'n "greulon" yn ôl y Ceidwadwyr.

Mae'r ystadegau hefyd yn dangos y pwysau mawr parhaol ar ofal brys.

Yn mis Mawrth fe wnaeth y gwasanaeth ambiwlans gofnodi'r perfformiad misol gwaethaf ond un o ran ymateb i'r galwadau 999 mwyaf difrifol, ac fe wnaeth dros 10,000 o unigolion dreulio mwy na 12 awr mewn unedau brys yn ystod yr un cyfnod.

Yn ôl y targedau, ddylai neb aros cymaint â hynny.

Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn mynnu bod perfformiad unedau brys mawr yng Nghymru wedi bod yn well nag yn Lloegr yn ystod y misoedd diwethaf.

Falle fod hynny'n wir, ond mae Coleg Brenhinol y Meddygon Brys yn mynnu fod y straen ar eu haelodau yn peri gofid mawr iddyn nhw.

Yn gwella ond yn is na'r targed

Mae arhosiad mwy na dwy flynedd wedi bod am 37,500 triniaeth (y nifer o ran pobl yn is gan bod rhai cleifion yn disgwyl am fwy nag un driniaeth) - mae hyn 47% yn is na'r uchafswm ym mis Mawrth 2022.

"Rwy'n disgwyl gweld y tueddiadau positif hyn yn parhau wrth i gamau gweithredu, gan gynnwys ein buddsoddiad mewn gwelyau cymunedol ychwanegol i wella llif cleifion drwy ysbytai, gael eu gwireddu," ychwanega'r gweinidog iechyd.

"Rwy hefyd yn falch bod 12,724 o gleifion yng Nghymru wedi cael gwybod nad oedd canser arnynt ym mis Chwefror.

"Roedd perfformiad wedi gwella o ran nifer y bobl sy'n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i 52.5%, o'i gymharu â 50.1% yn y mis blaenorol.

"Fodd bynnag, mae hyn yn parhau i fod yn is na'n targed o 75% ac mewn uwchgynhadledd genedlaethol ar gyfer arweinwyr gwasanaethau canser fis diwethaf, gwnaethom gytuno bod angen canolbwyntio ymhellach ar yr ymdrech i barhau i gynyddu nifer y bobl sy'n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod."

Pwysau ar y GIG yn parhau

Dyw'r pwysau ar ein iechyd ddim wedi lleddfu, medd Ms Morgan.

"Gwasanaethau gofal mewn argyfwng sydd wedi dwyn baich y pwysau, a gwelwyd cynnydd mewn galwadau am ambiwlansiau a chynnydd mewn cleifion yn ymweld ag adrannau argyfwng ym mis Mawrth.

"Gwasanaethau gofal brys sydd wedi ysgwyddo baich y pwysau diweddar, gyda chynnydd yn nifer y galwadau ambiwlans a chyflwyniadau mewn adrannau brys," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio bod perfformiad mewn adrannau brys mawr yng Nghymru wedi bod yn well na pherfformiad Lloegr dros y saith mis diwethaf ac wedi aros yn sefydlog o gymharu â holl rannau eraill y Deyrnas Unedig.

Nodir bod nifer y cleifion 'lle mae bywyd yn y fantol' sy'n defnyddio'r gwasanaeth ambiwlans yn parhau i fod yn uchel iawn - 93% yn uwch ym mis Mawrth 2023 nag ym mis Mawrth 2019.

Roedd cynnydd o 18% mewn derbyniadau mewn argyfwng o'i gymharu â'r un mis y llynedd.

Amser ymateb ambiwlans yn her

Cafodd 15,000 o gleifion eu trosglwyddo i ysbyty wedi iddynt fynd i adran argyfwng mawr ym mis Mawrth 2023 - mae hyn 7% yn uwch nag ym mis Mawrth 2022.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"O ran amseroedd ymateb ambiwlansiau, er y gwelwyd gwelliannau yn erbyn y targedau pedair awr a deuddeg awr o'i gymharu â mis Mawrth 2022, mae amseroedd ymateb ar gyfer y galwadau mwyaf brys yn parhau i fod yn her fawr ac rydym yn disgwyl gweld gwelliannau o ran trosglwyddo cleifion o ambiwlansiau yn ystod y misoedd nesaf i sicrhau gwell perfformiad," meddai'r Gweinidog Iechyd.

"Rydym wedi gosod targedau uchelgeisiol iawn ar gyfer ein GIG ac wedi gweld gwelliannau mewn sawl maes wrth i'n GIG barhau i ddiwallu'r galw cynyddol am ofal yn dilyn y pandemig.

"Mae'n amlwg bod mwy o waith i'w wneud mewn rhai meysydd, ac rwy'n disgwyl gweld cynnydd yn dilyn y gwelliannau a wnaed a'n buddsoddiad ychwanegol."

Yr ymateb

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Russell George, nad oes fawr o gynnydd wedi bod yn y ffigyrau a bod pobl Cymru yn haeddu gwell na "50-50 siawns bod ambiwlans yn cyrraedd".

Ychwanegodd: "Er bod y profiad annynol o ddisgwyl dwy flynedd am driniaeth wedi diflannu mewn llefydd eraill ym Mhrydain i bob pwrpas, mae degau o filoedd yn parhau i aros am gyfnodau llawer rhy hir yng Nghymru."

Mae'r ffigyrau yn dangos "anallu parhaus Llywodraeth Cymru i ddelio ag amseroedd aros annerbyniol", medd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru ac ychwanegodd bod y darlun yn codi "cwestiynau difrifol am allu Llafur i redeg y Gwasanaeth Iechyd".

Pynciau cysylltiedig