Profi negeseuon argyfwng newydd ar ffonau symudol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

System Rhybuddion Argyfwng

Fe gafodd negeseuon argyfwng gan lywodraeth y DU eu profi brynhawn Sul, 23 Ebrill.

Fe wnaeth y negeseuon ymddangos yn awtomatig ar ffonau symudol am 15:00, ac roedd sŵn seiren i'w glywed.

Roedd yn brawf ar gyfer negeseuon fyddai'n cael eu hanfon mewn argyfwng go iawn.

Ond fe wnaeth grwpiau sy'n gweithio gyda dioddefwyr trais yn y cartref rybuddio pobl i ddiffodd ffonau symudol cudd sydd ganddyn nhw, fel nad yw troseddwyr yn gallu dod o hyd iddyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd y neges yn dweud ei fod yn brawf o wasanaeth newydd gan lywodraeth y DU yn rhybuddio pobl os oes argyfwng gerllaw allai beryglu bywyd.

Mewn argyfwng go iawn, fe fydd pobl yn cael eu cynghori i ddilyn cyfarwyddiadau yn y neges.

Yn wreiddiol, roedd y neges yn mynd i gael ei hanfon yn hwyrach brynhawn Sul, ond penderfynodd y llywodraeth osgoi rownd derfynol Cwpan yr FA sydd yn Wembley am 1630.

Roedd disgwyl i'r neges gael ei hanfon ar rwydweithiau 4G a 5G ledled y DU ac ymddangos yn awtomatig ar:

  • ffonau iPhone sydd ag iOS 14.5 neu uwch

  • ffonau Android 11 neu uwch

Nid oedd y neges i fod i ymddangos ar ffonau hŷn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y neges ymddangos ar ffonau symudol am 15:00, ac fe fydd sŵn seiren i'w glywed

Roedd y seiren i'w glywed os yw'r ffôn wedi'i osod yn dawel, ond doedd dim disgwyl i'r neges ymddangos ar ffonau sydd wedi'u diffodd neu ar 'aeroplane mode'.

Fe wnaeth swyddfa'r cabinet amcangyfrif y byddai'r neges brawf yn cyrraedd tua 90% o'r holl ffonau symudol yn y DU.

Mae'r llywodraeth yn annog pobl i sicrhau eu bod yn derbyn y neges, ond mae modd addasu eich ffôn i beidio â'i dderbyn trwy chwilio am 'emergency alerts' a diffodd 'severe alerts' ac 'extreme alerts'.

Annog dioddefwyr trais i ddiffodd ffonau

Mae mudiadau sy'n gweithio gyda dioddefwyr trais yn y cartref wedi bod yn annog pobl i wneud yn siŵr bod ffonau cudd sy'n cael eu cadw rhag troseddwyr yn cael eu diffodd, fel na fydden nhw'n derbyn y neges ac yn gwneud sŵn.

Dywedodd Rhian Bowen Davies, ymgynghorydd trais yn y cartref: "Mewn perthynas lle mae 'na reolaeth a gorfodaeth, gall y troseddwyr fonitro galwadau neu negeseuon ar y ffon, felly mae rhai dioddefwyr yn cadw'r ffôn cudd 'ma fel yr unig ffordd gallen nhw gysylltu â theulu, ffrindiau neu wasanaethau cymorth.

"Os yw'r rhybudd brys yma yn swnio, gall y troseddwr ddod o hyd i'r ffôn yma.

"Fy neges i, os ydych chi yn y sefyllfa 'ma lle ma' ffôn cudd gyda chi, neu os ych chi'n ffrind neu aelod o deulu a chi'n gwybod bod ganddyn nhw ffôn cudd, plîs anogwch nhw i edrych ar-lein i ddiffodd y rhybuddion yma, neu i droi'r ffôn off ddydd Sul fel y gallen nhw gadw'u hunain yn ddiogel pan fo'r rhybudd yma'n swnio."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth mudiadau sy'n gweithio gyda dioddefwyr trais yn y cartref annog pobl i wneud yn siŵr bod ffonau cudd wedi'u diffodd

Mae'r elusen Refuge wedi cyhoeddi fideo yn dangos sut i ddiffodd y neges argyfwng, dolen allanol gan y llywodraeth.

Fe fydd y negeseuon yn cael eu hanfon go iawn pan fydd y llywodraeth neu wasanaethau brys eisiau rhybuddio am sefyllfa argyfwng lle bod bywyd mewn perygl, fel llifogydd difrifol, tanau neu dywydd eithafol.

Mae'n bosib na fydd rhai yn derbyn neges am fisoedd neu flynyddoedd.

Mae Swyddfa'r Cabinet yn pwysleisio na fydd gwybodaeth bersonol am unigolion na'u lleoliad yn cael eu casglu wrth anfon y neges.

Pynciau cysylltiedig