Gamblo: 'O'n i'n colli bob dim, bob tro'
- Cyhoeddwyd
Fe allai gamblwyr ifanc wynebu cyfyngiadau ar faint maen nhw gallu ei wario ar beiriannau hapchwarae ar-lein, yn ôl cynigion newydd gan lywodraeth San Steffan.
Mae'r papur gwyn ar gamblo, gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau, yn cyflwyno'r newidadau mwyaf ers bron i 20 mlynedd i drio rheoleiddio'r sector.
Yn ôl un dyn o Wynedd fu'n gaeth i gamblo, fe ddylai'r newidiadau fod wedi eu cyflwyno'n gynt.
Mae'r cynigion yn cynnwys rhoi cyfyngiad o £2 ar faint y gall pobl ifanc ei wario ar beiriannau gamblo.
Mae Harri Kyle yn 27 oed ac yn wreiddiol o Benisarwaun ger Caernarfon yng Ngwynedd.
Fe gollodd gyfanswm o hyd at £100,000 oedd yn cynnwys enillion gamblo hefyd.
Mewn ymateb i'r newidiadau sydd wedi eu cynnig, dywedodd ar raglen Post Prynhawn: "Dw i'n meddwl bod o'n long time coming go iawn.
"Dylsa' petha' 'di dod mewn lot hirach yn ôl, ond mae'n edrych yn dda bod nhw'n dechra' 'neud change 'wan a yndw dw i'n hapus efo y petha' sy' di ca'l eu newid heddiw.
"Pan o'n i'n 'neud o, o'n i'n gallu cerddad mewn i siop a 'neud spin o £150 bob 15 i 20 seconds, hyd yn oed gwaeth online 'swn ni'n gallu 'neud tua £1,000 a lot mwy 'na hynna.
"Felly hwnna 'di un o'r petha' 'dw i fwya' hapus hefo bo' nhw wedi newid y stakes i bobl ifanc 18-24."
Mae'r papur gwyn yn nodi'r cynigion cyntaf i reoleiddio'r diwydiant ers i ffonau symudol gael eu creu - sydd wedi trawsnewid y sector gamblo yn llwyr.
Pan gafodd Deddf Gamblo 2005 ei chyflwyno, roedd yn digwydd gan amlaf mewn siopau, casinos a chaeau ras.
Erbyn hyn, mae'r diwydiant yn ennill dau draean o'u refeniw o gamblo ar-lein.
'Colli bob dim, bob tro'
Fe wnaeth Harri esbonio mai dechrau gamblo mewn siopau wnaeth e fel dyn ifanc cyn troi at wefannau.
"'Nes i ddechra', jyst 'neud bet bach ar bêl-droed, 'nes i droi'n 18 oed neshi jyst 'neud bet bach, gemau premier league, a do'dd hwnna ddim yn broblem i ddechra'.
"Wedyn es i mewn i siops, chwara' roulette a 'swn i'n d'eud 'naeth gael fi'n addicted tro gynta i fi chwara' fo... y machines yn y siop.
"Wedyn dros amser o'n i'n dechra' mynd ar online casino ac oedd bets yn fwy a wedyn odd bob dim yn dechra' mynd yn waeth o fan 'na.
"O'n i'n gamblo ar betha' fatha baseball, pêl-fasged trwy'r nos a jyst 'wbath rili.
Roedd Harri yn y coleg ar y pryd, a dywedodd: "O'n i'n colli bob dim, bob tro."
"Pan o'n i'n 18 ella' y bet mwya' 'swn i'n 'neud oedd £50 i £100.
"Wedyn pan o'n i'n gweithio full time o'n i'n mynd fyny at £1,000 ar gemau pêl-droed.
"O'n i'n gweld o fath â pres hawdd... o'n i'n cael buzz i gychwyn wedyn oedd o'n mynd."
'Trio bob dim i stopio'
Dywedodd fod hynny'n golygu ei fod yn gamblo mwy o arian ac yn y pendraw, fe gollodd hyd at £100,000.
Erbyn hyn, dydy Harri ddim wedi gamblo ers dwy flynedd ond dywedodd ei fod yn dal i'w chael hi'n anodd, serch hynny.
"Dw i 'di trio bob dim i stopio, a 'dio ddim yn hawdd, 'nes i drio bob dim cyn iddo fo weithio i fi."
Mae'r rheoliadau newydd hefyd yn golygu y gallai pobl sy'n colli symiau mawr o arian drwy gamblo wynebu cael eu gwirio.
Fe fyddai rhain yn dechrau pan fo gamblwyr yn colli £1,000 o fewn 24 awr neu £2,000 yn ystod 90 o ddiwrnodau.
Dydy hi ddim yn glir eto sut fyddai hynny'n cael ei weithredu.
Does dim newidiadau i sut y mae gamblo'n cael ei hysbysebu. Dywedodd y llywodraeth fod mesurau'n bodoli eisoes i warchod y bobl mwyaf bregus.
Un sydd wedi croesawu'r cynigion yw Carolyn Harris, aelod seneddol dwyrain Abertawe.
Ar ôl bod yn ymgyrchu dros reolau llymach, dywedodd: "Mae heddiw yn ddigwyddiad nodedig y gwnaeth nifer feddwl na fyddai fyth yn digwydd.
"Ond mae angen i'r ymrwymiadau gael eu cyflawni nawr. Does dim angen mwy o ymgynghori - ry'n ni 'di cael dwy flynedd a hanner ers yr adolygiad."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Ry'n ni'n benderfynol o warchod y rheiny sy'n wynebu'r risg mwyaf o niwed o ganlyniad i gamblo, gan gynnwys pobl ifanc a bregus."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ynglŷn â gamblo ar wefan Action Line y BBC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2022