Cynnydd 132% mewn menywod yn gamblo wrth i gwmnïau eu targedu

  • Cyhoeddwyd
Hysbyseb gamblo

Mae elusen wedi rhybuddio bod mwy a mwy o ferched yn mynd yn gaeth i gamblo, a hynny wrth i gwmnïau a gwefannau eu targedu nhw'n fwriadol.

Dangosodd ffigyrau diweddar bod cynnydd o 132% mewn blwyddyn yn nifer y menywod sydd yn gamblo, gydag elusennau'n dweud bod ei fod yn bwnc tabŵ o hyd.

Yn ôl eu hymchwil nhw mae merched yn fwy tebygol o gamblo drwy blatfformau fel bingo a gemau ffôn symudol, sydd wedi dod yn fwy cyffredin yn ystod y pandemig.

Mae un cwnselydd profiadol wedi disgrifio'r niwed sy'n cael ei achosi fel un all fod "llawer iawn gwaeth" na dibyniaethau fel alcohol a chyffuriau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lisa yn credu iddi fynd i ddyledion o £36,000 drwy gamblo

Fe wnaeth arferiad Lisa o Gaerdydd ddilyn patrwm sy'n un cyfarwydd i lawer o fenywod, wrth i nosweithiau bingo cymdeithasol gyda theulu a ffrindiau droi'n arfer o chwarae gemau slot rheolaidd ar ei ffôn.

"Nes i fynd drwy gyfnodau anodd mewn bywyd, ac er nad ydw i'n beio'r pethau hynny ar y ddibyniaeth gamblo, nes i droi at gamblo fel ffordd o ymdopi," meddai.

"Fe wnaeth e gymryd drosto fy mywyd i'n llwyr, ro'n i'n gamblo ym mhob man.

"Ar y tŷ bach, wrth fynd â'r plant i'r ysgol, ar y bws - yr unig adeg doeddwn i ddim yn gamblo oedd tra mod i'n cysgu."

Erbyn iddi droi am help gan elusen Stafell Fyw Caerdydd, mae'n amcangyfrif ei bod wedi mynd i ddyledion o tua £36,000.

"Pan 'dych chi'n meddwl am gamblo 'dych chi fel arfer yn meddwl am ddynion yn mynd i'r bwcis," meddai.

"Ond dyw gamblo ddim yn gwahaniaethu. 'Dyn ni ferched yn tueddu i gadw'r peth tu ôl i ddrysau caeedig, ond dyna'r peth peryglus."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd 'Meena' bod gamblo yn cael ei weld fel rhywbeth traddodiadol adeg gwyliau, yn ei chymuned hi

Mae 'Meena', sydd ddim am i ni ddefnyddio ei henw iawn, yn un arall wnaeth geisio cuddio ei phroblem gamblo.

Mae'n dod o dras de ddwyrain Asiaidd, ac yn dweud bod diwylliant o gamblo diniwed yn ystod gwyliau fel Diwali wedi datblygu'n rhywbeth mwy difrifol yn ei sefyllfa hi.

"O'r wlad dwi'n dod mae 'na draddodiad bron o gamblo, mae'n rhywbeth normal dim ond bod chi'n gwneud hynny'n gall," meddai.

"Ond doeddwn i ddim wrth gwrs - bydden i'n gofyn i ffrindiau am fenthyg arian gan feddwl bydden i'n eu talu nhw'n ôl mewn deuddydd, ond byddai misoedd yn pasio a doeddwn i dal heb.

"Fydden nhw ddim yn dod ar fy ôl i am yr arian achos roeddwn i wedi adeiladu enw da yn y gymuned, bydden i wastad yn gwneud pethau i helpu.

"Roedd o bron fel petawn i'n gwneud hyn i guddio'r broblem oedd yn gwaethygu."

Dim ond 3% yn gofyn am help

Mae GambleAware wedi amcangyfrif bod hyd at filiwn o fenywod ym Mhrydain yn wynebu risg o niwed oherwydd gamblo.

Ond yn ôl elusen gamblo Gordon Moody, dim ond tua 3% o fenywod sy'n gaeth i'r arfer sy'n troi at wasanaethau am help.

Disgrifiad o’r llun,

Mae hysbysebion yn aml yn targedu menywod gyda chynigion i chwaraewyr newydd

Un o'r canolfannau adfer sy'n helpu pobl a dibyniaethau ydy Parkland Place ym Mae Colwyn, ac yn ôl y rheolwr cyffredinol Cheryl Williams maen nhw'n gweld gamblo ymhlith merched yn dod yn fwy o broblem.

"Maen nhw'n fwy debygol o fynd ar-lein, gemau slot a casino, ac os 'dych chi'n edrych ar hysbysebion bingo er enghraifft, mae popeth am gael noson allan dda," meddai.

"Mae merched yn fwy cyfforddus i wneud wedyn - ac os oes gennych chi rywun sydd wedi diflasu, neu'n unig, neu eisiau ychydig o amser i'w hunain.

"Mae cymaint o apiau ar ffonau clyfar hefyd dyddiau yma, mae'n gwneud y peth mor sydyn a hawdd i ferched."

Disgrifiad o’r llun,

Delio gyda'r emosiynau sy'n arwain at gamblo sy'n hollbwysig wrth drin dibyniaeth, meddai Eleri Farrow

Yn ôl Eleri Farrow, sy'n ymarferydd dibyniaeth ac adferiad gyda'r ganolfan, mae menywod yn tueddu i ddechrau gamblo "yn hwyrach yn eu bywyd", ond mae hynny hefyd yn golygu bod ganddyn nhw fwy i'w golli.

"Un o'r rhesymau am hyn ydy bod nhw'n chwarae ar-lein, gemau fatha bingo a slot machines, a beth sy'n digwydd 'efo rheina ydy bod y stakes yn uwch, felly maen nhw'n colli mwy o bres yn fwy sydyn," meddai.

"Dy'n nhw'm yn gorfod mynd i'r bwcis, maen nhw'n gallu 'neud hynna yn eu tai eu hunain."

Wrth geisio taclo'r broblem gyda phobl, meddai Eleri, mae'n rhaid mynd at wraidd y broblem ac nid dim ond dod o hyd o ffyrdd i atal y gamblo.

"'Dan ni'n edrych efallai ar y rhesymau 'dach chi'n mynd at gamblo, a delio efo'r person ei hun, dod i 'nabod y person," meddai.

"Cael strategaethau i helpu efo emosiynau a [thaclo] teimladau annifyr, pethau sy'n dod i fyny, a 'dan ni'n helpu efo sut 'dach chi am gael bywyd gwell i chi."

Yn ôl Wynford Elis Owen, sylfaenydd Stafell Fyw sydd bellach yn ymgynghorydd cwnsela arbenigol i elusen Adferiad, mae gamblo yn gallu bod yn broblem anoddach ei gweld na dibyniaethau eraill, yn enwedig ymhlith menywod.

"Mae'n broblem gynyddol ac yn broblem gudd," meddai.

"'Dan ni'n ymwybodol bod y diwydiant gamblo wedi bod yn targedu merched, yn arbennig yn eu cartrefi tra bod gweddill y teulu allan ac maen nhw yn unig adra.

"Y gamp ydy temtio nhw mewn i'r arferiad - bingo a phethau fel hyn, pethau sy'n ymddangosiadol ddiniwed ond sy'n medru caethiwo yn gyflym iawn."

Ychwanegodd ei fod yn credu mai gamblo yw'r "ddibyniaeth waethaf posib", o flaen pethau fel alcohol neu gyffuriau hyd yn oed.

"O ran arian, cymaint a chymaint allwch chi wario mewn noson ar ddiod, ond mi allwch chi golli'r tŷ 'dach chi'n eistedd ynddo fo ar amrant yn gamblo.

"Felly mae'r niwed sydd yn dilyn gamblo yn llawer iawn gwaeth, ac amlwg, a sydyn, nac unrhyw ddibyniaeth arall y gwn i amdano."

'Mwy o niwed bob dydd'

Mae gan Lywodraeth y DU gynlluniau ar y gweill i ddiwygio deddfau gamblo, ond does dim disgwyl i'r manylion hynny gael eu cyhoeddi nawr tan ddiwedd y gwanwyn.

Dywedodd Carolyn Harris, AS Llafur Dwyrain Abertawe sy'n cadeirio grŵp trawsbleidiol ar niwed gamblo, fod angen gweithredu'n gynt na hynny.

"Mae pob diwrnod o oedi yn arwain at ragor o niwed yn ymwneud â gamblo, tra bod y diwydiant yn gwneud elw mawr," meddai.

"Ddylai'r llywodraeth ddim gadael i'w problemau mewnol eu hunain fod yn rhwystr i ddiwygiadau sydd wir eu hangen yn y wlad yma - mae'n bryd gweithredu."

Mae gweinidog gamblo Llywodraeth y DU wedi croesawu ymgyrch GambleAware i gyrraedd menywod all fod yn agored i niwed drwy fetio.

Dywedodd Chris Philp ei bod yn "hollbwysig ein bod yn parhau i wneud popeth y gallwn" i amddiffyn y bobl yma.

"Mae'r byd gamblo wedi esblygu yn y 15 mlynedd diwethaf ac fe fydd ein hadolygiad llawn o'r mesur gamblo yn sicrhau bod ein deddfau gamblo yn cynnig balans o amddiffynfeydd yn yr oes ddigidol."

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Gamblo bod Llywodraeth y DU yn cynnal adolygiad ac y byddan nhw'n "cefnogi unrhyw newidiadau sy'n digwydd o ganlyniad i'r adolygiad".

"Mae gan yr Awdurdod Safonau Hysbysebu reolau llym a chlir i atal hysbysebion gamblo sy'n gymdeithasol anghyfrifol neu a allai arwain at niwed ariannol, cymdeithasol neu emosiynol.

"Os bydd cwmnïau gamblo yn torri'r rheolau hynny, gallwn gymryd camau llym, gan gynnwys dirwyo'r cwmni sy'n troseddu."

Os ydych chi wedi eich effeithio gan y pynciau dan sylw yn yr erthygl, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.

Pynciau cysylltiedig