Angen rheoli gamblo ar-lein sydd 'mor beryglus'

  • Cyhoeddwyd
gambloFfynhonnell y llun, Getty Images

"Mae'n gasino go iawn ar eich ffôn. Os nad ydych chi'n hoffi'r un yna gallwch symud yn hawdd i un arall.

"Allech chi ddim gwneud hynny yn y byd go iawn, byddai'n rhaid i chi deithio. Mae ar-lein mor beryglus."

Dyna eiriau Emma, o Gaerdydd, oedd yn gaeth i gamblo ar un adeg.

Roedd slotiau a casinos ar-lein - a oedd ar gael iddi ar ei ffôn - yn bwydo ei dibyniaeth, meddai.

Mae Emma ar hyn o bryd yn gwella o'r cyflwr ac er mwyn ei gwarchod, mae ei henw wedi cael ei newid.

"Os oedd gen i arian, roedd angen i mi gamblo - nes bod y cyfan yn effeithio'n fawr ar fy iechyd meddwl."

Mae Emma bellach wedi cofrestru gyda GAMBAN - ap sy'n blocio gwefannau gamblo, ond mae hysbysebion ac anogaeth i gamblo ym mhobman, meddai.

"Mae gemau ar-lein ar wefannau cymdeithasol a chynnig o ostyngiad os ydych yn chwarae gêm ar-lein - mae rhain i gyd yn annog rhywun," meddai.

"Ro'n i'n chwarae'r gêm yma sydd fel peiriant slot ac ro'n i wrth fy modd. Dwi ddim yn ystyried fy hun yn gamblwr bellach ond ro'n i'n compulsively yn chwarae'r gêm yma."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Emma wedi rhannu ei phrofiad wrth i ASau o Gymru ac elusennau gwrth-gamblo annog Llywodraeth y DU i gyhoeddi deddfwriaeth ar gamblo.

Dywed Alex Davies-Jones, llefarydd Llafur dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) bod "yr aros am y papur gwyn ar gamblo wedi bod yn llawer rhy hir ac yn y cyfamser bod teuluoedd a'r rhai sy'n fwyaf tueddol o gamblo yn dioddef".

Mae astudiaeth ddiweddar gan y Comisiwn Gamblo yn dweud bod 0.9% o blant mor ifanc ag 11 oed yn y DU yn perthyn i gategori lle mae gamblo yn tarfu neu'n niweidiol iddyn nhw neu eu teuluoedd.

Roedd 31% o'r rhai a holwyd ar gyfer yr arolwg wedi gwario arian eu hunain ar gamblo yn y 12 mis diwethaf.

Dywed Llywodraeth y DU eu bod yn benderfynol o amddiffyn y rhai sy'n fwyaf tebygol o ddioddef niwed cysylltiedig â gamblo yn fuan.

'Angen deddfau ar gyfer yr oes ddigidol'

Mae AS Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris, yn credu bod gamblo ar-lein wedi ei gwneud hi'n haws i blant ac oedolion gael eu denu.

"Mae'n un o'r dibyniaethau cudd yna nad yw pobl eisiau siarad amdano, ac nid yw rhieni eisiau cyfaddef. Fydd llawer o'r rhieni hynny ddim yn gwybod," meddai.

"Rydyn ni'n gwybod bod tua 60,000 o blant yn gamblo ond mae yna lawer mwy."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn llawer rhy hen, medd Carolyn Harris AS

Mae'r AS Llafur yn dadlau bod angen diweddaru y ddeddfwriaeth ar gyfer yr oes ddigidol bresennol.

"Mae'n broblem enfawr. Roedd y ddeddf gamblo ddiwethaf yn 2005. Dyfeisiwyd yr iPhone cyntaf yn 2007.

"Bellach wrth i dechnoleg ddatblygu mae modd gamblo 24/7 ar eich ffôn. Mae plant yn cael eu bombardio gan hysbysebion am gamblo a ffyrdd o wneud arian."

"Yr hyn sydd ei angen arnom yw ardoll statudol y mae cwmnïau gamblo yn gorfod ei thalu fel rhan o'u ffi cofrestru a thrwyddedu - byddai hynny yn cyfrannu tuag at atal, addysgu, a thriniaeth."

Dywed y Cyngor Betio a Hapchwarae mai'r "mathau mwyaf poblogaidd o fetio gan blant yw gemau arcêd fel peiriannau gwthio ceiniog, betiau rhwng ffrindiau a pheiriannau ffrwythau".

Mae'r aelodau, medd llefarydd, yn arddel polisi dim goddefgarwch tuag at fetio gan blant a nod y diwydiant betio a hapchwarae sydd wedi'i reoleiddio yw hyrwyddo hapchwarae mwy diogel - "yn wahanol i'r farchnad ddu anniogel".

Disgrifiad o’r llun,

Wynford Ellis Owen yn agor canolfan dibyniaeth yr Ystafell Fyw yn 2011

Yn ôl Wynford Ellis Owen, sy'n gweithio gydag Adferiad yng Nghaerdydd, "normaleiddio gamblo ydy'r drwg".

"O ganlyniad i'r ffordd 'dan ni'n byw ar-lein mae mor hawdd cael gafael ar y pethau yma. Yr argaeledd sydd wedi gwneud gwahaniaeth.

"Dwi ddim yn credu bod y llywodraeth yn gwneud digon i reoli a bod posib gosod mwy o reolau ynglŷn ag oedran.

"Mae angen mwy o reolaeth dros y cwmnïau gamblo a chwmnïau cymdeithasol o ran oedran pobl sy'n gallu mynd ar y gwefannau yma. Yn hynny o beth dwi'n meddwl gall y llywodraeth wneud mwy i reoli'r gwenwyn yma."

Pryderon am flychau loot

Roedd Nick Phillips, o Abertawe, yn gamblwr ar un adeg. Mae e nawr yn helpu eraill sy'n dioddef.

Mae wedi bod yn gweithio gyda pherson ifanc sydd wedi dechrau gamblo ar ôl gweld hysbysebion mewn stadiwm pêl-droed.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nick Phillips yn gaeth i gamblo ar un adeg ond mae e bellach yn helpu diioddefwyr eraill

"Mae'r bachgen yma druan wedi mynd adre awr ar ôl y gêm ac wedi agor cyfrif yn enw ei dad.

"Mae wedi mynd a gamblo miloedd ar filoedd o bunnau mewn wythnosau. Roedd yn 16 oed.

"Nawr dyw'r teulu ddim yn mynd i'r gêm bellach am nad ydyn nhw eisiau peryglu eu mab."

Pryder arall i Nick yw blychau loot mewn gemau fideo - sef blychau y gellir eu prynu i wella perfformiad chwaraewyr gemau, ond nid oes modd gwybod beth yw cynnwys y blwch cyn ei brynu.

"Mae fy mab yn gamer a dwi'n meddwl bod y bocsys loot yma yn gateway i gamblo - lle gall plant brynu cynnyrch a phethau felly fel rhan o'r gêm.

"Maen nhw'n creu effaith dopamin. Mae'n creu cynnwrf - y disgwyl am dalu'r arian ac agor pecyn. Mae'n broses seicolegol sydd bron yn ailhyfforddi'r ymennydd.

"Plant yw'r rhain ar ddiwedd y dydd ac maen nhw'n fregus."

Does dim disgwyl i focsys loot gael eu cynnwys yn y papur gwyn gamblo hirddisgwyliedig.

Ffynhonnell y llun, Magnum Photos
Disgrifiad o’r llun,

Mae blychau loot yn cynnig amrywiaeth o wobrau sy'n gallu gwella sgiliau chwaraewyr mewn gemau

Mae Llywodraeth y DU yn cydweithio â chorff masnach ar gyfer gemau a diwydiant adloniant rhyngweithiol y DU - UKIE.

Y disgwyl yw y bydd cyhoeddiad y flwyddyn nesaf yn nodi bod rhaid i chwaraewyr iau gael caniatâd rhieni cyn prynu bocsys loot.

Yn ôl Andy Robertson, arbenigwr ar gemau, mae modd i rieni sicrhau bod eu plant yn chwarae gemau fideo yn ddiogel.

Dywed hefyd bod gemau o'r fath yn addysgu am arian rhithwir ac yn creu dealltwriaeth bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i wneud pryniant.

"Mae'n bwysig dweud nad yw blychau loot mewn gêm yn cael eu hystyried yn gamblo gan nad oes gwerth ariannol i'r hyn rydych chi'n ei ennill.

"Symleiddio pethau yw dweud bod blychau loot yn ddrwg a'u bod yn arwain at gamblo," ychwanega.

'Mae e dal yn gamblo'

Ond i Emma mae yna debygrwydd.

"Dwi'n dyfalu os nad ydych chi wedi cael problem gamblo fyddech chi ddim yn ei weld," meddai.

"Ond mae'n frawychus faint o hwyl mae pobl yn cael o'r gemau yma. Dyw e ddim am arian ond mae e dal yn gamblo."

I lawer o bobl ifanc dyw chwarae gemau ar-lein ddim yn arwain at ddibyniaeth. Ond mae rhieni sy'n credu mai gamblo sydd wedi bod yn gyfrifol am farwolaeth eu plant yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu ar frys.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn benderfynol o amddiffyn y rhai sy'n fwyaf tebygol o ddioddef niwed cysylltiedig â gamblo, gan gynnwys pobl ifanc, a bod gweinidogion yn gweithio'n gyflym i ddiweddaru deddfwriaeth er mwyn sicrhau ei bod yn addas ar gyfer yr oes ddigidol.

Pynciau cysylltiedig