Gêm gyfartal arall i Forgannwg yng Nghaerlŷr
- Cyhoeddwyd
Gêm gyfartal gafodd Morgannwg wedi pedwar diwrnod o chwarae yn Sir Caerlŷr - eu trydedd yn olynol ar ddechrau'r tymor ym Mhencampwriaeth y Siroedd.
Ar ôl i'r ymwelwyr alw'n gywir a phenderfynu maesu gyntaf, fe sgoriodd Sir Caerlŷr 407 gyda'r bowliwr Timm van der Gugten yn cipio chwech o'r wicedi.
Erbyn diwedd y trydydd diwrnod, roedd Morgannwg wedi sgorio 446 gyda dwy wiced yn weddill.
Roedd y batiad wedi edrych yn sigledig nes partneriaeth rhwng Chris Cooke a Michael Neser am yr wythfed wiced a ychwanegodd 211 o rediadau, gan dorri record flaenorol Morgannwg oedd yn dyddio'n ôl i 1928.
Fe dorrodd Neser (90) ei record bersonol hefyd mewn gêm sirol. Roedd Cooke yn dal wrth y llain ar 121 o rediadau pan fu'n rhaid dod â'r chwarae i ben wrth i'r golau bylu nos Sadwrn.
Ychwanegodd Cooke 11 at ei sgôr ddydd Sul cyn colli ei wiced, wrth i Forgannwg gofnodi cyfanswm o 465 - mantais o 58.
Ond oherwydd glaw ar y diwrnod cyntaf a'r ffaith fod y batiad cyntaf wedi cymryd dros dridiau i'w gwblhau, roedd hi'n edrych ers peth amser fel mai gêm gyfartal oedd yn debygol.
Daeth y gêm i ben gyda Sir Caerlŷr ar sgôr o 252-3 yn eu hail fatiad, gyda Rishi Patel ar 134 heb fod allan, gan olygu nad oedd cyfle i Forgannwg ddechrau ar eu hail fatiad nhw.