Lluniau: Dathliadau yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Roedd 'na olygfeydd arbennig yn ninas Wrecsam nos Fawrth wrth i'r tîm pêl-droed lleol ddathlu ennill y Gynghrair Genedlaethol.
Bydd y clwb yn chwarae yn Adran Dau cynghreiriau Lloegr y tymor nesaf, ac roedd y perchenogion, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, yno i ddathlu gyda'r chwaraewyr.
Hefyd ar un o'r bysus oedd tîm merched Wrecsam, a enillodd ddyrchafiad i haen uchaf pêl-droed Cymru.
Dyma rywfaint o olygfeydd y dathlu.

Y perchenogion, Rob McElhenney a Ryan Reynolds yn teithio ar fws tîm y merched

Un o sêr y garfan, Paul Mullin, â'i freichiau'n uchel yn yr awyr

Yr amddiffynwyr Max Cleworth a Ryan Barnett gyda'r tlws

Rheolwr Wrecsam, Phil Parkinson

Yr olygfa o'r awyr wrth i'r bws basio stadiwm y Cae Ras

Cefnogwyr yn dathlu o flaen tafarn enwog y Turf, ble sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 1876

Yn y mwg rhywle mae pencampwyr y Gynghrair Genedlaethol

Rob yn 'nabod rhywun yn y dorf...

Mae amcangyfrif bod dros 20,000 o bobl wedi sefyll ar y strydoedd i longyfarch y garfan

Mae Ryan Reynolds wrthi'n ffilmio Deadpool 3 ar hyn o bryd

'Super' Paul Mullin ac Elliot Lee ar flaen y bws

Un o arwyr diwedd tymor Wrecsam - y bytholwyrdd Ben Foster

Ben Tozer ac Ollie Palmer yn gafael yn dynn ar y tlws

Y bws yn mynd lawr Ffordd yr Wyddgrug

O gefn y bws; golygfa arbennig o'r dathliadau