Cyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth gyrrwr parseli
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Aberdâr wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth gyrrwr parseli yng Nghaerdydd.
Bu farw Mark Lang yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar 15 Ebrill, dros bythefnos wedi digwyddiad ar Ffordd y Gogledd yn y brifddinas.
Clywodd cwest i farwolaeth Mr Lang, 54, ei fod wedi marw o anafiadau i'w ymennydd ac ataliad trawmatig ar y galon ar ôl iddo gael ei lusgo o dan ei fan cludo parseli.
Yn ogystal â hynny roedd Mr Lang, o ardal Cyncoed yng Nghaerdydd, hefyd wedi dioddef anafiadau difrifol i'w gorff yn y digwyddiad ar 28 Mawrth.
Yn ystod y cyfnod pan oedd Mr Lang yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth, cafodd Christopher Elgafari, 31, ei gyhuddo o geisio llofruddio.
Yn dilyn marwolaeth Mark Lang, mae Christopher Elgafari nawr wedi cael ail-arestio a'i gyhuddo o lofruddio.
Mae wedi ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar 5 Mai.