Llwynhendy: 'Siom' am gyfraniad cyngor tuag at brosiect pobl ifanc

  • Cyhoeddwyd
Llwynhendy
Disgrifiad o’r llun,

Pan nad oes gweithgareddau ar gael, mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gwaethygu, medd trigolion Llwynhendy

Mae pobl yn Llwynhendy ger Llanelli yn galw am fwy o gyfleusterau i bobl ifanc yr ardal, gan honni fod yna broblem gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dros y 10 mlynedd diwethaf mae cynghorwyr lleol a'r grŵp Ein Llwynhendy wedi bod yn cynllunio ar gyfer trawsnewid y llyfrgell leol yn hwb cymunedol.

Fe fyddai'n cynnwys neuadd chwaraeon a maes chwarae i bobl ifanc y pentref.

Wedi i gais am grant gan y Loteri Genedlaethol gael ei wrthod, fe gyhoeddodd Cyngor Gwledig Llanelli y bydd eu cyfraniad yn newid o £600,000 i £200,000.

Mae'r gost ar gyfer y prosiect yn cynnwys cyfraniadau gan Gyngor Gwledig Llanelli, Ein Llwynhendy a Chyngor Sir Gâr.

Ond roedd disgwyl i ran helaeth o'r cyfraniad ddod gan y Cyngor Gwledig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd Alex Evans yn anfodlon bod cyfraniad Cyngor Gwledig Llanelli at yr hwb cymunedol wedi gostwng

Yn ôl y cynghorydd Alex Evans mae'r newid mewn buddsoddiad yn un annerbyniol.

"Dwi'n siomi jest fel bod yn aelod. Fel gall yr arweinydd edrych at unrhyw un yn y gymuned yn Llwynhendy a dweud 'nes i'r peth iawn'. So nhw'n gallu."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwledig Llanelli bod y cyngor wedi gorfod cymryd "agwedd bragmatig at ddiogelu'r prosiect i'w wneud yn fwy cynaliadwy a fforddiadwy".

'Hwb cymunedol yn datrys y problemau'

Roedd y gymuned leol eisoes wedi gweld y cynlluniau ar gyfer ymestyn y llyfrgell.

Yn ôl y cynghorydd sir a chymunedol dros Lwynhendy, Jason Hart, mae yna adroddiadau wedi bod o daflu wyau at dai, cnocio drysau, defnydd peryglus o e-sgwteri, beiciau a thân gwyllt.

Dywed Alex Evans byddai cael hwb cymunedol i Lwynhendy yn fodd o ddatrys y problemau hynny.

"Mae'n broblem fawr iawn. Mae'r heddlu'n dweud yr un peth. Mae'r lefel o ASB (Anti-Social Behaviour), yn enwedig ar ôl i'r prosiect Kicks orffen am y gaeaf aeth ASB reit lan."

Mae prosiect Premier League Kicks yn digwydd yn wythnosol y tu allan i'r llyfrgell.

Bwriad y fenter gan Sefydliad Tîm Pêl-Droed Abertawe yw denu pobl ifanc oddi ar y strydoedd yn eu hamser hamdden.

Y llynedd roedd rhaid gohirio sesiynau trwy'r gaeaf oherwydd problemau goleuo.

Disgrifiad o’r llun,

'Mae angen sicrhau bod yna gyfleusterau ar gael i bobl ifanc yn y gymuned,' medd Delyth Burroughes

Mae gan Delyth Burroughes ddwy o ferched sy'n gwirfoddoli gyda PL Kicks, ac mae ei mab hefyd yn chwarae i'r tîm.

"Pan oedd y sesiynau ddim yn rhedeg roeddech chi'n gweld plant yn cael ASBOs, roedd lot o gwynion yn mynd i fyny ar Facebook am ymddygiad gwrthgymdeithasol, tanau, y fath 'na o beth."

Dywed y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn bod toriadau ariannol ar draws awdurdodau yn golygu fod cyflwr cyfleusterau cymunedol wedi dirywio.

"Mae Llwynhendy yn ardal mae'r heddlu yn cael eu galw iddi'n weddol reolaidd.

"Wrth gwrs mae pobl ifanc yr ardal yn chwilio am bethau i'w wneud. Mae angen sicrhau bod yna gyfleusterau ar gael i bobl ifanc yn y gymuned.

"Wrth gwrs fydden i bob tro yn datgan fod angen mwy o gyfleusterau ond dwi hefyd yn deall yr her ariannol."

'Angen mwy o arian'

Yn ôl y cynghorydd sir dros Lwynhendy, Sharen Davies, dyw'r etholaeth ddim yn cael digon o arian gan Gyngor Gwledig Llanelli o gymharu ag ardaloedd eraill y sir.

Disgrifiad o’r llun,

Mae etholaeth Llwynhendy angen mwy o arian, medd Sharen Davies

"Ni dim ond wedi derbyn £195,000 [dros y 10 mlynedd ddiwethaf] o gymharu ag etholaethau eraill wnaeth dderbyn £400,000- £500,000.

"Maen nhw'n ardaloedd mwy cefnog, a ni'n amlwg yn ardal ddifreintiedig. 'Dyw e jest ddim yn gwneud synnwyr."

Mae Cyngor Gwledig Llanelli yn addo £200,000 tuag at adnewyddu'r adeilad. Yn ôl Alex Evans dyw hyn ddim yn ddigon.

"Mae real opportunity yma i ddod â'r gwasanaethau i'r gymuned. Ond ti ffili 'neud hwnna tu mewn i adeilad y seis hyn.

"Bydd y Cyngor Gwledig yn dweud 'chi dal yn cael prosiect'- sai'n cytuno gyda hwnna."

Prosiect mwy fforddiadwy

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Gwledig Llanelli: "Mae prosiect Hwb Llwynhendy yn mynd rhagddo er ei fod ar ffurf fwy fforddiadwy. Y bwriad yw dylunio'r prosiect fel y gall y cyngor ychwanegu ato yn y dyfodol pe bai'n dewis gwneud hyn.

"Mae cyflwr yr economi yn gyffredinol wedi cael effaith fawr ar y prosiect gyda phrisiau'n codi ar gyfer cyflenwad llafur, cyflenwadau a deunyddiau.

"Roedd hyn yn rhwystredig iawn i bawb dan sylw ac felly mae'r cyngor wedi gorfod cymryd agwedd bragmatig at ddiogelu'r prosiect i'w wneud yn fwy cynaliadwy a fforddiadwy."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Cyngor Gwledig Llanelli fod prosiect Hwb Llwynhendy yn mynd rhagddo ond ar ffurf fwy fforddiadwy

Dywedodd llefarydd ar ran Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Rhoesom adborth i'r sefydliad i'w helpu i gryfhau eu cais a'u gwahodd i ailymgeisio am gyllid yn y dyfodol.

"Mae lefel uchel o alw am ein cyllid ac mae'r galw hwn yn llawer uwch na'r arian sydd gennym i'w ddosbarthu.

"Yn 2022/23 dyfarnodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol dros £50m o arian y Loteri Genedlaethol i gannoedd o brosiectau cymunedol ledled Cymru."

Pynciau cysylltiedig