Galw am sicrhau gweithgareddau plant am ddim

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Deuluol Y Tymbl
Disgrifiad o’r llun,

Dywed rhieni grŵp chwarae Canolfan Deuluol Y Tymbl bod hi'n hynod bwysig cael grwpiau fel hyn am ddim

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn dweud fod angen sicrhau fod pawb yn cael yr un gweithgareddau chwarae y tu fas i'r ysgol, a hynny am ddim.

Wrth i gostau byw gynyddu ac yn sgil pryderon am effaith y pandemig ar les plant mae'r comisiynydd yn dweud fod angen sicrhau gweithgareddau fel hyn ar gyfer plant.

Mae hefyd yn galw am fwy o gynllunio ymlaen llaw er mwyn rhoi sicrwydd tymor hir bod gweithgareddau a threfniadau yn eu lle mewn da bryd yn hytrach nag ar y funud olaf.

Dywedodd fod "gweithgareddau chwarae i blant tu fas i'r ysgol yn bwysig iawn ar gyfer eu datblygiad ac ar gyfer eu sgiliau cymdeithasu" a bod hi'n bwysig eu bod yn cael mwynhau.

Ond mae'r Athro Sally Holland yn poeni nad yw pob plentyn yn cael yr un cyfle.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Comisiynydd Plant, Sally Holland, yn poeni nad yw pawb yn cael yr un cyfle

"Wrth gwrs does dim yr un cyfle gyda phob plentyn i gymryd rhan mewn pethau fel hyn achos maen nhw'n costio lot," meddai.

"Mae'n bwysig bod cyfleon ar gael i blant gymryd rhan am ddim. Mae angen i bawb gael yr un cyfle.

"Dros y pandemig ry'n ni wedi gweld rhai grwpiau o blant yn colli mwy nag eraill, ac wrth i ni ddod mas o'r pandemig mae'n fwy pwysig nag erioed cynnig cynlluniau fel hyn i blant.

"Rwy' wedi gweld data Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n dangos fod 42% o rieni yn poeni lot am les eu plant.

"Mae pawb yn teimlo bod yn rhaid i ni eleni weithio'n galed i sicrhau fod plant yn cael cyfleon i gael y profiadau maen nhw wedi colli dros y pandemig."

Galw am ariannu hirdymor

Wrth gynllunio i'r dyfodol mae'n galw am fwy o drefniadau hirdymor.

"Ry ni wedi gweld rhaglenni da gan Lywodraeth Cymru fel 'Haf o hwyl' a nawr rhaglen 'Gaeaf llawn lles' ond mae awdurdodau lleol a'r trydydd sector wedi cael yr arian ar y funud ola' ac roedd rhaid ymateb yn gyflym i sicrhau staff a chynllunio y gweithgareddau.

"Dyw hyn ddim yn dda i staff na chwaith i blant.

"Byddai'n well petai'r arian yn dod am dair blynedd neu gyfnod tebyg a byddai pawb wedyn yn gallu cynllunio gweithgareddau gwych ar gyfer plant, ac maen nhw angen nhw."

Mae rhieni sy'n mynychu grŵp chwarae Canolfan Deuluol Y Tymbl yng Nghwm Gwendraeth, lle mae'r holl weithgareddau am ddim, yn dweud bod cael lle i fynd a phethau i'w gwneud yn allweddol bwysig i'r teulu a'r plant.

Ond maen nhw hefyd yn cytuno bod cost yn ffactor bwysig ar adeg pan fo costau byw yn codi a bod cynnig gweithgareddau am ddim yn help enfawr.

'Cyfle i ddod mas o'r tŷ'

Mae Meleri Griffiths yn aelod o'r grŵp Mam a'i Babis ac yn mynd yno gyda'i phlentyn Mari.

"Mae cynlluniau fel hyn holl bwysig," meddai, "gan ei fod yn gyfle i ddod mas o'r tŷ a chwrdd â phobl er'ill... ac mae e'n dda hefyd i'r babis i gwrdd â phobl er'ill.

"Ges i fabi cyn y cyfnod clo cynta', a gyda phlentyn sy' nawr yn ddwy oed 'nes i golli y cyfle y tro cynta' - felly fi yn gweld budd pendant i gynlluniau fel hyn.

"Mae hefyd yn bwysig fod popeth am ddim, ac mae'n gyfle i bawb ddod yma beth bynnag yw eu cefndir i gael cymdeithasu a chwarae heb orfod poeni am gostau.

"Mae magu plant yn ddrud. Mae lot o weithgareddau yn cael eu cynnig ond ma' lot yn costio lot o arian hefyd a dyw hynna ddim o fewn gafael pawb. Mae hwn yn gefnogaeth i'r ardal."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae mor neis siarad â phobl na sy'n byw o fewn yr un pedair wal â ti," medd rhieni yn Y Tymbl

Un arall sy yn mynychu'r grŵp yw Nia Davies gyda'i mab bach Milano.

"Mae'r cynllun yma yn rili bwysig i'r babis a'r mamau. Fi'n credu bod e'n bwysig bo' ni yn gw'bod bod e mlân bob w'thnos a bod e am ddim," meddai.

"Mae costau bywyd yn mynd lan a lan dyddie 'ma. Dyw pawb ddim yn gallu fforddio cynlluniau chwarae a dyle fe ddim bod bo' pobl ffaelu mynd achos bo' nhw ffaelu fforddio fe."

Un arall sydd yn gwerthfawrogi y cyfle i gael sgwrs a thrafod profiadau yn y grŵp yw Alanna Kirkbride a'i mab Harri.

"Ma' fe jyst yn neis i gael sgwrs gyda mamau eraill sy' mynd trwyddo yr un peth â ti ar yr un amser - jyst yn neis i siarad â rhywun sy ddim yn byw o fewn yr un pedair wal â ti.

"Dyle fod pawb sy' â babi yn cael cyfle i fynd i rywle fel hyn heb orfod becso am dalu neu faint o arian sy' gyda nhw, jyst i gael awr fach mas o'r tŷ gan wybod nad oes rhaid becso bo' nhw ffaelu fforddio fe."

Pynciau cysylltiedig