Hanner plant Cymru ddim yn gwneud digon o ymarfer corff
- Cyhoeddwyd
Mae plant a phobl ifanc Cymru ymhlith y lleiaf gweithgar yn gorfforol yn y byd, yn ôl astudiaeth newydd.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn dweud mai dim ond hanner y rhai rhwng 3 a 17 oed sy'n gwneud unrhyw fath o weithgaredd am o leiaf awr bob dydd, sef faint y dylid ei wneud yn ôl arbenigwyr.
Ymhlith plant rhwng 11 ac 16 oed mae'r ffigwr yn is eto - mae llai nag un o bob pump yn ymarfer corff am o leiaf 60 munud.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn ariannu nifer o weithgareddau chwaraeon i bobl ifanc, ac y bydd iechyd a lles yn rhan hanfodol o'r cwricwlwm newydd mewn ysgolion.
Bu'r arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn gweithio gydag ymchwilwyr mewn 60 o wledydd gwahanol yn asesu faint o ymarfer corff y mae plant yn ei wneud.
Fe lunion nhw "adroddiad ysgol" gan roi graddau i'r gwledydd, ac fe gafodd Cymru radd 'F' ar y cyfan.
Mae'r adroddiad yn seiliedig ar waith ymchwil cyn y pandemig, ond mae'r awduron yn dweud bod y dystiolaeth yn awgrymu fod plant yn gwneud llai fyth o ymarfer corff ers y cyfnodau clo.
Cafodd Cymru radd 'B+' am y ddarpariaeth chwaraeon ac ymarfer corff mewn ysgolion.
Ond fe roddodd yr ymchwilwyr radd 'F' yn gyffredinol, oherwydd bod cynifer o blant yn segur ac yn aml yn chwarae gemau fideo neu'n defnyddio ffonau symudol.
Un o awduron yr adroddiad yw Dylan Blain sy'n gyfarwyddwr academaidd iechyd a chwaraeon gyda Phrifysgol Y Drindod Dewi Sant.
Dywedodd fod canlyniadau'r adroddiad yn "bryderus".
"Mae digon o waith i ni 'neud o ran trio cynyddu'r niferoedd o blant sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol," dywedodd.
"Rydyn ni'n gwybod fod plant sydd yn active pan maen nhw'n ifanc, hefyd yn fwy tueddol o fod yn active pan maen nhw'n tyfu fyny - mae 'na dueddiad o gadw fynd gyda'r gweithgareddau 'ma.
"Mae'r data ry'n ni wedi bod yn edrych arno cyn Covid, ond beth ry'n ni'n gweld o'r ymchwil yw bod 'na dueddiad bod plant wedi bod yn llai active eto yn ystod y pandemig, ac felly mae'n hollbwysig nawr bod 'na ymdrechion i gynyddu ar y cyfleodd i bobl ifanc i fyw bywyd active."
'Hawl gan bob plentyn i chwarae'
Cafodd yr adroddiad ei lunio gan arbenigwyr ledled Cymru drwy anfon arolygon at bobl, ond hefyd drwy gasglu gwybodaeth gan fudiadau fel Chwarae Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Chwaraeon Cymru.
Yn Sir Conwy, mae'r cyngor wedi bod yn cynnal rhaglen o weithgareddau i annog plant i chwarae y tu allan ac i fod yn fwy gweithgar.
Mae dros 50 o sesiynau wedi bod yn digwydd bob wythnos yn ystod y gwyliau haf mewn dros 30 o leoliadau fel parciau lleol a llefydd agored.
Yn ôl y trefnydd Nat Minard, "mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae."
"Os ydyn ni eisiau i blant fod yn weithgar a chwarae y tu allan, mae'n rhaid cynnig y cyfleoedd iddyn nhw," dywedodd.
"Pan rydyn ni'n siarad â phlant, maen nhw'n dweud eu bod nhw'n mwynhau chwarae gemau fideo, ond os oes na gyfle i fynd y tu allan a gwneud rhywbeth, yna fe wnewn nhw hynny."
Datblygu a buddsoddi
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, eu bod, trwy Chwaraeon Cymru, yn "ariannu amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon a hamdden i blant a phobl ifanc".
Ychwanegodd bod awdurdodau lleol, clybiau chwaraeon a phartneriaid yn trefnu gweithgareddau ac y byddan nhw'n buddsoddi £24m dros y tair blynedd nesaf i "ddatblygu cyfleusterau chwaraeon mewn cymunedau".
"Mae Iechyd a Lles yn rhan orfodol o'r Cwricwlwm newydd i Gymru, fydd yn dechrau cael ei gyflwyno ym mis Medi.
"Mae ein strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach hefyd yn datblygu rhaglen i gynnwys rhagor o weithgaredd corfforol o fewn y diwrnod ysgol, yn ogystal â gwersi Addysg Gorfforol," ychwanegodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2022
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2020