'A dau fab, dau enaid fydd, Am ennyd yn Uwchmynydd'
- Cyhoeddwyd
Nos Sadwrn 29 Ebrill 2023, tua 550 o filltiroedd i'r gogledd o Ynysoedd Cape Verde oddi ar arfordir gorllewinol Affrica, roedd y capten llong, Llŷr Williams o Aberdaron ar yr un darn o fôr lle boddwyd ei hen ewyrth ar 21 Ebrill 1941.
Rhannodd ei dad, y pysgotwr a'r bardd Huw Erith Williams, yr hanes rhyfeddol ar raglen Aled Hughes, BBC Radio Cymru.
23.50N 27,00W
Mae'r môr wedi bod yn ffordd o fyw i deulu Huw Erith ers cenedlaethau. Dyna ei fara menyn yntau a'i feibion hyd heddiw, ond mae'r môr hefyd wedi dod â'i drallodion.
Collodd ei ewyrth, Hugh Erith Williams o Fryn Chwilog, Uwchmynydd ger Aberdaron ei fywyd yn 1941, pan gafodd llong y Blue Funnel vessel Calchas ei suddo gan ymosodiad torpido oddi ar arfordir Gorllewin Affrica wrth deithio adref o Awstralia.
Eglura Huw: "Roedd fy ewyrth Hugh, brawd fy nhad, ar ei ffordd adra a fynta ar ei fordaith gyntaf yn llanc 19 oed. Ar ei ôl o y ces i fy enw.
"Cyfeirnod y llong pan darwyd hi gan dorpido oedd 23 degrees, 50 minutes north, 27 degrees west.
"Mi oedd Llŷr, y mab acw, yn cymryd capteiniaeth llong o'r enw y Voltaire o Durban, De Affrica ddechrau Ebrill, llong jack-up fwya'r byd, mae hi'n newydd sbon, a'i gapteiniaeth gynta fo.
"Wrth iddo fodrwyo'r ffordd oeddan nhw am ddod adra, mi welodd Llŷr fod yna ddarn o fôr oedd o wedi clwad sôn amdano fo o'r blaen a'r cyfeirnod oedd 23 degrees, 50 minutes north, 27 degrees west.
"Yr union fan lle y boddwyd brawd ei daid ar 21 o Ebrill 1941."
Cyfle i goffáu ei hen ewyrth o'r diwedd
Ar ôl i Llŷr ddeall y byddai'n mordwyo'r llong dros yr un darn o fôr â lle boddwyd ei hen ewyrth yn greulon o ifanc, bendraw'r byd o'i deulu a'i gartref yn Uwchmynydd, meddyliodd y byddai'n gyfle i goffáu ei hen ewyrth o'r diwedd.
Meddai Huw: "Cyn iddo adael am Affrica mi ofynnodd i mi be fasa'n medru mynd efo fo er mwyn coffadwriaeth a pharch. Doedd gen i'm syniad.
"Ond ymhen rhyw ddiwrnod neu ddau mi gofiais 'mod i wedi cymryd rhan mewn rhyw wasanaeth Dydd y Cofio yn Eglwys Hywyn Sant yn Aberdaron tua dwy flynedd yn ôl mae'n siŵr.
"Y diwrnod hwnnw, ar y gofgolofn yn y fynwant roedd yna groesau pren syml iawn efo enwau'r dynion a gollwyd o'r fro a phabi arnyn nhw.
"Ar y ffordd allan o'r fynwant mi afaelais i yn y groes oedd â'r enw Hugh Erith Williams arni hi a mynd â hi adra efo fi.
"Thrannoeth, mi es i â hi at fy modryb Bet, sef chwaer y dywededig Hugh Erith Williams, ac sydd dal i fyw yng nghartra'r teulu yn Uwchmynydd. Mi oedd fy modryb Bet yn bum mlwydd oed pan ddigwyddodd y suddo.
"Mi es i at Bet eto cyn i Llŷr fynd i ffwrdd i ofyn os oedd hi'n cytuno bod Llŷr yn mynd â'r groes efo fo. Mi gytunodd hi a mi es i â'r groes i Llŷr a phwt o englyn fel bod ganddo fo rwbath i ddeud wrth roi y groes yn y dŵr.
'Y peth mwyaf emosiynol wnaeth o erioed'
"Felly i ffwrdd â Llyr am Durban, De Affrica, i gychwyn y siwrna o ddod â'r Voltaire i Seaton ger Middlesbrough, ac o fan'no i weithio ar y fferm wynt anfarth ar fanc Dogger.
"Mi gychwynnodd o Durban yn ddeheuig a finna'n cadw llygad arno fo o'r Marine Traffic ar y we.
"Ymhen rhyw ddeuddydd, mi sylwais fod y llong wedi arafu yn arw. Yn wir, ro'n i'n tybio nad oedd hi'n symud o gwbl ac o edrych ar yr app mi oedd hwnnw yn deud not under command, o'n i'n poeni 'wan do'n.
"A felly bu hi am dridia cyn dychwelyd i'r underway using engine arferol.
"Pan ges i negas gan Llŷr ymhen ychydig ddiwrnoda - mi ddywedodd eu bod nhw wedi cael tywydd mawr, tywydd enbyd oddi ar arfordir gwaelod Affrica ac y bu'n rhaid dal y llong a'i phen i'r gwynt am dridiau a'u bod wedi cael eu chwythu yn ôl 42 milltir, a'u bod nhw o fewn dim i orfod galw gwasanaethau argyfwng.
"Oedd o'n ddipyn o fedydd tân i'r captan newydd doedd. Ond mi ddaeth gwaredigaeth ac ymlaen â'r daith.
"Mi ddilyniais i nhw ar y map heibio Namibia, Angola, Gweriniaeth y Congo cyn croesi am Guinea a Mauritius.
"Mi oeddan nhw wedi meddwl cael bod yn y fan lle suddodd y Calchas yn agos iawn i 21 o Ebrill, y dyddiad y suddodd hi, ond efo'r tywydd hegar oeddan nhw wedi colli diwrnodau.
"Beth bynnag cyrhaeddwyd 23 degrees, 50 minutes north, 27 degrees west ar nos Sadwrn 29 Ebrill; 82 o flynyddoedd ac wyth niwrnod wedi'r drychineb a rhoddwyd y groes yn y môr, y peth mwya' emosiynol wnaeth o erioed, medda fo.
"Wrth roi y groes ar wyneb y dŵr mi ddarllenodd o'r pwt o englyn mi o'n i 'di sgwennu i nodi'r achlysur trist yma."
Digalon fôr aflonydd,- a'i ferw,
Dau forwr,'run defnydd,
A dau fab,dau enaid fydd,
Am ennyd, yn Uwchmynydd.
"Wedyn aeth y Voltaire ymlaen i Las Palmas, llwytho bwyd a disel ac mae hi ar ei ffordd i Denmark lle bydd Llŷr o fewn deugain milltir i'w frawd Cai, sy'n gweithio ar longau sy'n adeiladu melinau gwynt ym Môr y Gogledd ar hyn o bryd.
"Bydd y Voltaire yn cyrraedd terfyn ei thaith am y tro yn Seaton erbyn diwadd y mis."
Hefyd o ddiddordeb: