900 o bobl Caerdydd heb ddŵr wedi i bibell fyrstio
- Cyhoeddwyd
Mae bron i 1,000 o bobl yng ngogledd Caerdydd heb ddŵr neu â phwysedd isel wedi i brif bibell ddŵr fyrstio fore Iau.
Bu'n rhaid i naw ysgol gau ac fe gafodd sawl busnes eu heffeithio wrth i beirianwyr Dŵr Cymru wneud gwaith adfer brys yn ardal Trelái.
O'r 3,000 eiddo yn Nhrelái, Y Tyllgoed a Danescourt oedd wedi eu heffeithio yn wreiddiol, mae cyflenwad dŵr wedi ei adfer yn achos 2,000 ohonyn nhw.
Yn ôl un o drigolion ardal Y Tyllgoed roedd rhai o erddi Heol y Bwlch dan bum troedfedd o ddŵr.
'Anodd i'w gyrraedd yn ddiogel'
Brynhawn Iau fe ymddiheurodd Dŵr Cymru i'r 900 o gwsmeriaid sy'n dal heb gyflenwad neu â phwysedd dŵr isel.
"Mae'r brif bibell sydd wedi byrstio mewn lleoliad anodd i'w gyrraedd yn ddiogel," dywedodd llefarydd.
"Rydym yn parhau i gloddio er mwyn gosod pibell newydd ac yn gwneud popeth posib i adfer cyflenwadau i'r cwsmeriaid eraill yma cyn gynted â phosib."
Mewn datganiad pellach ddiwedd y prynhawn, dywedodd y cwmni bod y gwaith yn parhau "gyda'r nos a thros nos", a bod amhariad yn bosib i gyflenwadau rhai adeiladau "dros yr ychydig oriau nesaf".
Ychwanegodd mai'r gobaith yw y bydd pawb wedi cael eu dŵr yn ôl "yn diweddarach" nos Iau.
Roedd caffi K2 Coffee House, ar Stryd Fawr Llandaf, ymhlith y busnesau a gafodd eu heffeithio.
Mewn datganiad i'w cwsmeriaid, fe ddywedodd y perchnogion bod "rhaid aros ar gau, yn anffodus, nes y bydd hyn wedi ei ddatrys oherwydd ni allwn ymolchi na defnyddio'r tŷ bach".
Maen nhw'n dweud eu bod wedi cael awgrym y bydd y broblem wedi ei datrys yn fuan.
Dŵr potel ar gyfer cwsmeriaid bregus
Dywedodd Cadeirlan Llandaf bod eu hadnoddau nhw ar gael i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y sefyllfa.
Mae gweithwyr Dŵr Cymru wedi bod yn darparu dŵr potel, sydd ar gael i gwsmeriaid bregus yng Nghanolfan Hamdden Y Tyllgoed.
Fe gafodd rhieni wybod tua 08:30 ddydd Iau bod sawl ysgol ar gau:
Ysgol Plasmawr
Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog
Ysgol y Tyllgoed
Ysgol Gynradd Pentrebaen
Ysgol Gynradd Gatholig Sant Francis
Ysgol Gynradd Danescourt
Ysgol Howell
Ysgol y Gadeirlan Llandaf, ac
Ysgol Gynradd Windsor Clive, a ddywedodd eu bod wedi gorfod canslo trip ysgol.