Merch, 15, wedi ei lladd gan gar wrth iddi groesi'r ffordd
- Cyhoeddwyd
Bu farw merch ar ôl cael ei tharo gan gar ar groesfan sebra wrth iddi gerdded am adref, mae agoriad cwest wedi clywed.
Fe dreuliodd Keely Morgan, 15, ddydd Llun Gŵyl y Banc gyda'i theulu yn Y Barri ac fe aeth am dro ar ôl cyrraedd adref.
Bu farw Keely, o Gaerau yng Nghaerdydd, mewn gwrthdrawiad ar Heol Trelái y brifddinas am tua 21:30 ar 1 Mai.
Clywodd cwest ddydd Gwener fod y ferch wedi marw yn y fan a'r lle ar ôl cael ei tharo gan gerbyd.
Mae dyn 40 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Cafodd y gwrandawiad ei agor a'i ohirio wrth i'r heddlu barhau gyda'u hymchwiliadau. Bydd gwrandawiad arall ymhen pedwar mis.
Clywodd y cwest fod archwiliad post mortem wedi dod i'r casgliad fod Keely wedi marw o ganlyniad i nifer o anafiadau.
Dywedodd y crwner Graeme Hughes fod ganddo reswm i amau fod y farwolaeth yn un "annaturiol neu dreisgar" a bod angen cwest llawn.
Mewn teyrnged yn dilyn ei marwolaeth, dywedodd rhieni Keely bod ganddi "wên hardd" a fyddai'n goleuo pob ystafell ac fe ddisgrifiodd ei hathrawon hi fel "disgybl eithriadol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2023