Cofio cyfraniad gweithwyr ffatri Cooke's Penrhyndeudraeth
- Cyhoeddwyd
Mae cofeb i weithwyr ffatri ffrwydron yng Ngwynedd wedi cael ei dadorchuddio.
Mae safle Gwaith Powdwr ym Mhenrhyndeudraeth bellach yn warchodfa natur dawel, ond am dros ganrif bu gwaith Cooke's Explosives yn cyflogi cannoedd i gynhyrchu ffrwydron i'r diwydiant glo a llechi.
Fe gaeodd y gwaith ym 1995 ond yn ddiweddar daeth galw am gofio'r rhan y chwaraeodd y cyn-safle diwydiannol yn hanes cymuned Penrhyndeudraeth.
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, ynghyd â Ramblers Cymru ac elusen ieuenctid Gwerin y Coed Ardal Penrhyn, wedi comisiynu'r artist lleol Howard Bowcott i greu'r gofeb.
Dywedodd y Cynghorydd Meryl Roberts, arweinydd Gwerin y Coed: "Rydym wedi bod eisiau cofeb barhaol yma ers dros chwe blynedd ac rwyf wrth fy modd bod y prosiect wedi'i gwblhau.
"Mae'n hynod o bwysig i gofio'r rhan chwaraeodd Cooke's yn ein bywydau yma ym Mhenrhyn.
"Nhw oedd y prif gyflogwr am dros ganrif, ond nid dim ond lle i weithio oedd o chwaith, ond yn un teulu mawr gyda chlwb cymdeithasu a thîm pêl-droed.
"Roedd gan y rhan fwyaf o deuluoedd rywun oedd yn gweithio yn y ffatri.
"Rwyf hefyd yn arwain y Gwerin y Coed lleol ac mae plant y grŵp a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Natur, wedi cefnogi'r cerflunydd hynod dalentog, Howard, i greu'r dail sydd wedi eu dyblygu ar y gofeb i gynrychioli dychweliad y safle yn ôl at natur."
Fe agorodd y gwaith ym 1865, gan gyflogi 500 o bobl yn ei anterth.
Collodd rhai o'r gweithwyr eu bywydau yno mewn ffrwydradau - y diwethaf ym 1988 pan gafodd dau o weithwyr eu lladd ac wyth arall eu hanafu.
Mae'r gofeb gron gan Howard Bowcott wedi ei hysbrydoli gan beirianwaith sied gymysgu nitroglycerin yng ngwaith ffrwydron Cooke's.
Dywedodd yr artist: "Mae Cooke's yn safle cyfarwydd iawn i mi.
"Rwy'n ei gofio pan oedd yn ffatri - dim ond hanner milltir i ffwrdd rwyf yn byw, ac rwy'n cofio sŵn y corn yn rhybuddio am brawf ffrwydro."
Ychwanegodd: "Ro'n i'n 'nabod pobl oedd yn gweithio yno, a'r rheolwr ar y pryd a oedd yn gefnogol iawn o artistiaid lleol, ac yn hael iawn. Rhoddodd gelfi ac offer i ni pan gaewyd y safle.
"Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o'r hyn mae'r lle yn ei olygu i'r gymuned yma ym Mhenrhyndeudraeth.
"Pan ddaeth yr amser i ddylunio cofeb addas, gwnes y gwaith ymchwil o'r hyn oedd yn gyfarwydd i mi ac ymchwil hanesyddol trwyadl.
"Mae gen i gysylltiad gyda'r safle fel gwarchodfa natur hefyd."
Ychwanegodd Mr Bowcott: "Daeth y testun ysgrifenedig ar y gofeb i mi o nunlle.
"Mae'n crynhoi dau beth - cofeb i bawb fu'n gweithio yno a dathlu bywyd newydd heddiw.
"Mae'n braf cofio am y gorffennol ond hefyd yn bwysig dathlu bywyd newydd Gwaith Powdwr."
'Gofod gwyrdd hardd'
Cafodd y safle ei ddatgomisiynu a'i roi yng ngofal Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn 1998.
Mae'r warchodfa 24 hectar bellach yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn hafan i ystlumod pedol leiaf.
Dywedodd Luke Jones, swyddog gwarchodfeydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru: "Mae'r gofeb hon wedi ei chreu er mwyn cofio cyn-weithwyr y safle.
"Mae'n atgof o bwysigrwydd gwaith ffrwydron Cooke's i'r ardal leol a'i hanes, tra hefyd yn croesawu'r trawsffurfiad yn ôl at natur.
"Mae Ramblers Cymru wedi gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Natur fel rhan o'n prosiect Llwybrau I Lesiant."
Dywedodd Amanda Hill o'r mudiad: "Rydym wedi gweithio gyda 18 cymuned ledled Cymru i wella cerdded o fewn y cymunedau [ac] mae Penrhyndeudraeth yn un.
"Mae Gwaith Powdwr yn bwysig iawn i'r gymuned leol ac yn cynnig gofod gwyrdd hardd i ni, un o'r wyth llwybr trwy'r safle."
Cafodd y gofeb ei dadorchuddio gan Aelod Plaid Cymru o'r Senedd, Mabon ap Gwynfor, yn dilyn taith gerdded pum cilomedr o'r warchodfa.
Dywedodd: "Mae'n addas i ni rŵan gofio am fywyd a bywoliaeth cenedlaethau o ddynion a merched a fu'n gweithio yn Cooke's, a llawer o'r rheiny hyd heddiw yn rhan o'n cymuned ac ond newydd gyrraedd oed ymddeol."
Dywedodd bod "y seremoni gysegru yn rhoi'r cyfle i gofio'r rhai wnaeth, yn drist iawn, golli eu bywydau ar y safle dros y blynyddoedd.
"Pan roedd cynhyrchu yn ei anterth, roedd tua 500 o bobl yn gweithio yn y ffatri cyn iddo gau yn 1995 fel y dirywiodd y galw am ffrwydron mwyngloddio.
"Rwyf yn talu teyrnged i bawb a oedd yn rhan o ddod â'r gofeb hon yn fyw a gobeithio y bydd yn atgof parchus o'r rheini fu'n gweithio yng Ngwaith Powdwr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2015