Betws-y-Coed: Beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
A470Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr wrthdrawiad ar yr A470 rhwng Llanrwst a Betws-y-Coed yn fuan wedi 13:00

Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470 ger Betws-y-Coed ddydd Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr heol rhwng Betws-y-Coed a Llanrwst yn fuan wedi 13:00.

Roedd beic modur a Citroën Berlingo arian yn rhan o'r gwrthdrawiad.

Bu farw'r beiciwr modur yn y fan a'r lle. Mae ei deulu a'r crwner wedi cael eu hysbysu am y farwolaeth.

Dywedodd Sarjant Jason Diamond: "Rydym yn annog unrhywun a oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad, neu unrhywun a oedd yn teithio ar hyd yr A470 ger Betws-y-Coed sydd efo lluniau dashcam i gysylltu â ni."

Pynciau cysylltiedig