50 mlynedd ers agor Llyn Brianne yn 1973

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Diwrnod allan yn Llyn Brianne

Agorwyd safle cronfa ddŵr Llyn Brianne 50 mlynedd yn ôl ar 15 Mai 1973 gan y Dywysoges Alexandra er mwyn rheoli llif Afon Tywi a darparu dŵr i drigolion Abertawe a'r ardal gyfagos. Flwyddyn yn ddiweddarach roedd gweld y gwaith dŵr newydd a'r golygfeydd godidog o Ddyffryn Tywi a Cheredigion wedi dod yn ddiwrnod allan poblogaidd.

Yn ystod gwanwyn a haf 1974 roedd miloedd yn gadael traethau'r gorllewin yn wag a Llyn Brianne yn llawn wrth i dyrrau o bobl o bob cwr o Gymru ymweld â chronfa ddŵr Llyn Brianne ger Rhandirmwyn.

Ond pam hynny? Deryk Williams, gohebydd rhaglen Heddiw, aeth i holi ymwelwyr Llyn Brianne ym mis Ebrill 1974.

Mae'r deunydd wedi ei ryddhau fel rhan o brosiect archif BBC Rewind, dolen allanol. Er mwyn dathlu canmlwyddiant y BBC, mae miloedd o ffilmiau sy'n adlewyrchu bywyd yng Nghymru a gweddill Prydain ers yr 1940au nawr ar gael i'r cyhoedd.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig