Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023

  • Cyhoeddwyd
Nofel 'Mori' a Ffion DafisFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer
Disgrifiad o’r llun,

Ffion Dafis oedd enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn y llynedd am ei nofel, Mori

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi datgelu enwau'r cyfrolau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023.

Datgelwyd y rhestr Cymraeg, sy'n cynnwys 12 o lyfrau mewn pedwar categori, ar raglen Ffion Dafis ar BBC Radio Cymru brynhawn Sul.

Am y tro cyntaf ers 2019 bydd seremoni fyw yn cael ei chynnal i gyhoeddi'r enillydd eleni, a hynny yn y Tramshed yng Nghaerdydd nos Iau, 13 Gorffennaf.

Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £1,000, tra bod enillydd y brif wobr yn derbyn £3,000 yn ychwanegol a thlws Llyfr y Flwyddyn, wedi'i ddylunio gan yr artist a gof Angharad Pearce Jones.

'Dangos mor fyw yw'r Gymraeg'

Ar y panel beirniadu Cymraeg eleni mae'r bardd a Meuryn Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru Ceri Wyn Jones, yr awdur ac enillydd Llyfr y Flwyddyn 2021 Megan Angharad Hunter, y cyn-gomisiynydd comedi, awdur a chynhyrchydd Sioned Wiliam, ac ymddiriedolwr Mudiad Meithrin a'r hyrwyddwr amrywiaeth a chynhwysiant Savanna Jones.

Dywedodd Ceri Wyn Jones ar ran y panel: "Wedi misoedd o ddarllen a phwyso a mesur, mae mor braf medru rhannu'r rhestr hon o lyfrau â'r cyhoedd.

"Rhestr sy'n dangos unwaith eto mor fyw yw'r Gymraeg fel iaith greadigol ac mor barod yw hi, yn ei hamrywiol ffurfiau, i fentro i fannau newydd, yn ogystal ag ailymweld â'r mannau oesol."

Rhestr Fer Gymraeg 2023

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru

Y Wobr Farddoniaeth

  • Tosturi, Menna Elfyn (Cyhoeddiadau Barddas)

  • Y Lôn Hir Iawn, Osian Wyn Owen (Cyhoeddiadau Barddas)

  • Anwyddoldeb, Elinor Wyn Reynolds (Cyhoeddiadau Barddas)

Gwobr Ffeithiol Greadigol

  • Sgen i'm Syniad - Snogs, Secs, Sens, Gwenllian Ellis (Y Lolfa)

  • Cylchu Cymru, Gareth Evans Jones (Y Lolfa) 

  • Cerdded y Caeau, Rhian Parry (Y Lolfa)

Gwobr Ffuglen

  • Pumed Gainc y Mabinogi, Peredur Glyn (Y Lolfa)

  • Rhyngom, Sioned Erin Hughes (Y Lolfa)

  • Pridd, Llŷr Titus (Gwasg y Bwthyn)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc 

  • Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor, Luned Aaron a Huw Aaron (Atebol) 

  • Byd Bach Dy Hun, Sioned Medi Evans (Y Lolfa)

  • Powell, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

Cyhoeddwyd y rhestr fer Saesneg ddydd Sul hefyd, a hynny ar raglen Lynn Bowles ar BBC Radio Wales.

Ar y panel beirniadu Saesneg mae'r awdur, actores ac enillydd gwobr BAFTA Emily Burnett, yr awdur a'r athro Emma Smith-Barton, y bardd a'r golygydd Kristian Evans, a chyn-enillydd categori Llyfr y Flwyddyn Mike Parker.

Rhestr Fer Saesneg 2023

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru

Y Wobr Farddoniaeth

  • As If To Sing, Paul Henry (Seren Poetry Wales Press Ltd)  

  • The language of bees, Rae Howells (Parthian Books) 

  • A Marginal Sea, Zoë Skoulding (Carcanet Press)  

Gwobr Ffeithiol Greadigol 

  • And… a memoir of my mother, Isabel Adonis (Black Bee Books)  

  • The Sound of Being Human: How Music Shapes Our Lives, Jude Rogers (Weidenfeld and Nicolson)  

  • Original Sins, Matt Rowland-Hill (Chatto & Windus)  

Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies

  • This Is Not Who We Are, Sophie Buchaillard (Seren Poetry Wales Press Ltd)

  • Fannie, Rebecca F. John (Honno Ltd.)  

  • Drift, Caryl Lewis (Doubleday - Transworld, Penguin Random House)  

Gwobr Plant a Phobl Ifanc 

  • The Mab, Various Authors (Unbound)  

  • The Last Firefox, Lee Newbery (Penguin Random House Children's)  

  • When the War Came Home, Lesley Parr (Bloomsbury Children's Books)

Mae Llenyddiaeth Cymru - y cwmni cenedlaethol â chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth - wedi cynnal Gwobr Llyfr y Flwyddyn ers 2004.

Yn ogystal â chyhoeddi enillwyr ym mhob categori a prif enillydd, cyhoeddir pa lyfrau sydd wedi mynd â bryd y cyhoedd trwy ddatgelu enillwyr Barn y Bobl Golwg360 a Wales Arts Review.

Yn ôl cyfarwyddwr gweithredol Llenyddiaeth Cymru, Claire Furlong: "Fel un o uchafbwyntiau'r calendr llenyddol yng Nghymru, pleser o'r mwyaf yw cael cyhoeddi Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn a dathlu amrywiaeth a chyfoeth ein llên.

"Mae rhai wythnosau tan y cawn glywed pwy sy'n cipio'r prif wobrau eleni, felly os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, ewch ati i ddarllen y cyfrolau arbennig hyn, a lle bynnag y byddwch chi - mewn llyfrgell, yn y swyddfa, wrth giatiau'r ysgol - trafodwch nhw, dathlwch nhw, ac anogwch eraill i wneud yr un peth."

Pynciau cysylltiedig