Megan Hunter yw Prif Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Megan Angharad Hunter yw Prif Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021, gyda'i nofel 'Tu ôl i'r awyr'.
Yn cipio Gwobr Barn y Bobl mae Hazel Walford Davies gyda'i chyfrol 'O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards'.
Yn gynharach yn yr wythnos fe enillodd nofel Megan Angharad Hunter y categori ffuglen ac fe enillodd y cofiant i O.M. y categori ffeithiol greadigol.
Wrth ddisgrifio gwaith Megan Angharad Hunter dywedodd Manon Steffan Ros, cyn-enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn ei hun, mai dyma "y nofel orau, fwyaf pwerus i mi ei darllen ers blynyddoedd. Mae'n ysgytwol".
Daw Megan Angharad Hunter o Ddyffryn Nantlle ac mae'n astudio Cymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn Y Stamp ac O'r Pedwar Gwynt, ac yn 2020 enillodd Ysgoloriaeth Awdur Newydd Llenyddiaeth Cymru.'Tu ôl i'r awyr' yw ei nofel gyntaf.
Mae Megan yn ennill gwobr o £4,000 a thlws wedi'i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones.
Bydd Hazel Walford Davies yn derbyn darlun arbennig gan Alys Shutt o Nelson, Caerffili, sydd yn fyfyriwr darlunio yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant - mae'r wobr yn rhodd gan Golwg360, noddwyr Gwobr Barn y Bobl eleni.
Mae gwobrau Llyfr y Flwyddyn yn cael eu beirniadu gan banel annibynnol a benodir yn flynyddol.
Yn beirniadu'r llyfrau Cymraeg eleni roedd y bardd a'r awdur Guto Dafydd; yr awdur, cyflwynydd a chyn Fardd Plant Cymru, Anni Llŷn; yr awdur, academydd a'r darlithydd Tomos Owen; a'r comedïwr a'r awdur, Esyllt Sears.
'Cael fy herio a fy swyno'
Ar ran y panel beirniadu, dywedodd Anni Llŷn: "Roedd hi wir yn fraint cael darllen cynnyrch y casgliad arbennig yma o awduron. Mae'r rhestrau byr yn ddathliad o'r meddyliau craff, treiddgar a chreadigol sydd ganddynt.
"Mae gan pob un o'r rhain rhywbeth o werth i'w ddweud ac maent yn gyfrolau y byddwn yn annog pawb i'w darllen.
"Cefais daith emosiynol yn eu cwmni, o'r torcalonnus i ryfeddu a chwerthin. Cefais fy herio a fy swyno. Cawsom drafodaethau hynod ddiddorol a bywiog wrth feirniadu.
"Doedd hi ddim yn hawdd dewis o blith cyhoeddiadau gwirioneddol wych ddaeth i fodolaeth yn 2020. Ond dylem i gyd ymfalchïo yng nghampau aruthrol yr awduron hyn. Llongyfarchiadau mawr iddynt."
Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Ar ran Llenyddiaeth Cymru, hoffwn longyfarch holl enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021, a diolch i chi am ysbrydoli ein darllenwyr yn ystod blwyddyn ble mae grym llenyddiaeth wedi bod yn bwysicach nag erioed.
"Argymhellaf yn fawr ymweliad â'ch siop lyfrau neu lyfrgell lleol, er mwyn darllen y llyfrau gwych yma gan ein hawduron talentog o Gymru."
Enillwyr y Categorïau
Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn dathlu llyfrau mewn pedwar categori yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Yn Gymraeg enillydd y Wobr Farddoniaeth yw Marged Tudur gyda'i chyfrol gyntaf 'Mynd' (Gwasg Carreg Gwalch).
Y llyfr a ddaeth i'r brig yn y categori Plant a Phobl Ifanc yw '#helynt' (Gwasg Carreg Gwalch) gan Rebecca Roberts.
Enillydd y Wobr Ffeithiol Greadigol yw Hazel Walford Davies gyda'i chyfrol 'O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards' (Gwasg Gomer).
Cyn ennill y brif wobr roedd nofel Megan Angharad Hunter wedi ennill y Wobr Ffuglen.
Roedd y categori Plant a Phobl Ifanc yn newydd y llynedd a'r nod, medd Llenyddiaeth Cymru, yw "annog cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr ac awduron creadigol ac atgyfnerthu'r neges bod llenyddiaeth ar gyfer plant o'r un safon ag unrhyw lenyddiaeth ar gyfer oedolion hefyd".
Cafodd enwau'r enillwyr eu cyhoeddi ar BBC Radio Cymru.
Dywedodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: "Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi dod yn gyfle blynyddol pwysig i arddangos awduron Cymru ar lwyfan byd-eang.
"Mae'r detholiad o lenyddiaeth a gynigir ymhlith rhestr fer 2021, ac yn enwedig ymhlith yr enillwyr, yn rhagorol, ac yn adlewyrchu gwir gyfoeth diwylliant llenyddol Cymru ar ei orau.
"Gobeithiaf y bydd darllenwyr yng Nghymru a thu hwnt yn parhau i fwynhau'r gweithiau eithriadol hyn, a dymunaf longyfarch yr holl awduron buddugol, ynghyd a'u cyhoeddwyr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2021
- Cyhoeddwyd3 Awst 2021
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2021