Giro d’Italia: Geraint Thomas yn colli ei le ar y blaen
- Cyhoeddwyd
![Geraint Thomas](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/6611/production/_129792162_geraintthomas.jpg)
Roedd Geraint Thomas wedi bod yn arwain y Giro d'Italia ac yn ddeilydd crys pinc y Maglia Rosa
Mae Geraint Thomas wedi colli ei le fel ceffyl blaen y Giro d'Italia yn dilyn cymal 14.
Gorffennodd Thomas, yn y peloton, 21 munud y tu ôl y prif grŵp wrth ildio'r awenau i Bruno Armirail o Ffrainc.
Serch hynny does dim disgwyl i Armirail, 29, fod yn fygythiad wrth i Thomas a'r peloton ddewis arbed ynni.
Nico Denz o'r Almaen oedd enillydd 14eg cymal y ras ddydd Sadwrn, dros 193 cilomedr rhwng Sierre yn y Swistir a Cassano Magnago yn yr Eidal.
Mae Giro eleni wedi ei effeithio'n ddrwg gan dywydd ofnadwy, gyda glaw trwm yn achosi problemau sylweddol gyda salwch a damweiniau i'r beicwyr.
Oherwydd hynny mae timau wedi cymryd agwedd fwy gofalus at rasio, gyda'r gobaith fod y tywydd yn gwella.
Dyw Thomas, 36, y Cymro cyntaf i ennill y Tour de France yn 2018, erioed wedi ennill y Giro.
Mae 21 cymal i gyd, gyda'r ras yn gorffen yn Rhufain ddydd Sul, 28 Mai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2023