Dim Theatr y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Theatr y MaesFfynhonnell y llun, Theatr Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ciw i weld Genod y Calendr gan Theatr Fach Llangefni yn Theatr y Maes yn 2013

Fydd yna ddim Theatr y Maes yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd eleni.

Dywedodd llefarydd ar ran y Brifwyl y byddan nhw'n cynnal perfformiadau theatrig ar draws y maes yn hytrach nag mewn un adeilad.

Roedd Theatr Genedlaethol Cymru wedi bod yn cynnig cefnogaeth dechnegol ar gyfer Theatr y Maes ond mae'r bartneriaeth wedi dod i ben.

Mae'r Eisteddfod wedi diolch iddyn nhw am eu cydweithrediad ar hyd y blynyddoedd.

Ychwanegodd prif weithredwr y Brifwyl, Betsan Moses y bydd "arlwy sylweddol" yn y Steddfod eleni a bod "cwmnïau yn dymuno cael gofodau gwahanol".

"Bydd y ddrama yn meddiannu'r maes yn ei gyfanrwydd," meddai ar Dros Frecwast, gan ddweud fod y trefnwyr wedi ymgynghori cyn dod i'r penderfyniad.

Wrth sôn am berfformiad diweddaraf Cwmni Theatr Arad Goch dros y penwythnos, dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig ei bod hi'n "anffodus" na fydd hi'n bosib iddyn nhw orffen y daith yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

"Fel arfer byddai Arad Goch yn gorffen y daith yma yn yr Eisteddfod," meddai Jeremy Turner ar raglen Ffion Dafis ddydd Sul.

"Yn anffodus eleni, mae'n debyg, nad oes theatr yn mynd i fod yn yr Eisteddfod - felly yn anffodus iawn fyddwn ni ddim yn cael perfformio Jemima yn yr Eisteddfod - mae hynna'n siom."

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r nifer o berfformiadau theatr stryd ar y Maes yn Eisteddfod Tregaron y llynedd

Ond cadarnhaodd llefarydd ar ran y Brifwyl y "bydd arlwy theatrig ar draws y maes eleni".

"Mae'r Eisteddfod eisoes wedi arbrofi gydag lleoli perfformiadau ar draws y Maes dros y blynyddoedd diwethaf, gyda datblygiad amlwg y rhaglen Theatr Stryd, a'r defnydd o bafiliynau fel Caffi Maes B a'r Babell Lên.

"Mae'r rhaglen eleni'n gyfle i ddatblygu hyn ymhellach, ac rydyn ni a'r rheini sy'n rhan o'r trafodaethau'n croesawu'r cyfle yma i roi pwyslais ar yr arlwy yn hytrach na'r adeilad yn 2023."

"Un datblygiad cyffrous eleni," ychwanegodd llefarydd, "yw Popeth ar y Ddaear, partneriaeth gyda Frân Wen, sy'n sioe awyr agored raddfa fawr i gynulleidfa Maes B nos Wener, a hynny'n mynd â pherfformiad theatrig i Faes B am y tro cyntaf.

"Bydd ein rhaglen, sy'n cynnwys tair sioe newydd sbon gan rai o brif gwmnïau Cymru, wyth comisiwn partneriaeth newydd, sbectacl fawreddog ar y Maes a llawer iawn mwy, yn cael ei chyhoeddi ym mis Mehefin."