Llanelli: Bwriad i gartrefu 300 o geiswyr lloches yn achosi pryder

  • Cyhoeddwyd
Gwesty Parc y Strade
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor yn poeni am gynlluniau i gartrefu dros 300 o ymgeiswyr loches mewn gwesty yn Llanelli

Mae Cyngor Sir Gâr wedi dweud eu bod yn bryderus iawn ynglŷn â chynlluniau gan y Swyddfa Gartref i leoli dros 300 o geiswyr lloches mewn gwesty yn Llanelli.

Mewn datganiad ar y cyd gyda Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys a'r bwrdd iechyd lleol, dywedodd yr awdurdod lleol eu bod wedi cael gwybod gan y Swyddfa Gartref am eu bwriad i ddefnyddio Gwesty Parc y Strade yn ardal Ffwrnes y dref fel "llety wrth gefn".

Ond mae'r cyngor wedi ychwanegu eu bod nhw'n poeni am effaith hyn "ar y gymuned leol", a hefyd sut mae modd cynnig gwasanaethau i'r safle.

Mae'r datganiad hefyd yn nodi fod gan yr awdurdodau "bryder mawr" ynglŷn â'r bwriad i gartrefu dros 300 o bobl ar un safle, gan gynnwys pa mor addas yw'r safle ar gyfer y ceiswyr lloches eu hunain.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref bod nifer y bobl sydd angen lloches yn y Deyrnas Unedig wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed a bod y "system lloches o dan straen aruthrol".

"Rydym wedi bod yn glir nad yw'r defnydd o westai i gartrefu ymgeiswyr lloches yn dderbyniol," meddai.

"Ar hyn o bryd mae dros 51,000 o ymgeiswyr lloches mewn gwestai yn y DU ac yn golygu cost o £6m y dydd i drethdalwyr.

"Mae'r Swyddfa Gartref wedi ymroi i wneud pob ymdrech i leihau'r defnydd o westai ac felly hefyd y gost i'r trethdalwyr."