'Dylai ceiswyr lloches gael gweithio i osgoi tlodi'
- Cyhoeddwyd
Mae prisiau cynyddol yn gyrru rhai ceiswyr lloches i dlodi enbyd, medd Cyngor Ffoaduriaid Cymru, ac mae nhw'n galw am iddynt gael caniatâd i weithio er mwyn iddyn nhw gael mwy o incwm.
Yn ôl y pennaeth cyfathrebu Harriet Protheroe-Soltani, maen nhw'n gorfod cefnogi mwy o bobl gyda'u cronfa caledi yn ogystal â rhoi dillad a bwyd.
Dywed y Swyddfa Gartref eu bod yn rhoi llety a lwfans wythnosol i geiswyr lloches.
Caiff ceiswyr lloches lety a £40.85 yr wythnos i dalu am fwyd, nwyddau hanfodol a chostau teithio. Yng Nghymru, mae ffoaduriaid yn cael teithio ar drafnidiaeth cyhoeddus am ddim, dolen allanol.
'Mynd i dlodi enbyd'
O'u swyddfeydd yn Sblot, Caerdydd mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn cynnig cymorth i geiswyr lloches.
Mae hyn yn cynnwys cyngor ar wneud cais am loches a chynrychiolaeth gyfreithiol, yn ogystal â chymorth mwy ymarferol i greu bywyd i'w hunain yng Nghymru - ar ôl dianc o ryfel er enghraifft yn Wcráin, neu orthrwm yng ngogledd Affrica.
Dylai ceiswyr lloches gael gweithio wrth aros am ganiatâd i aros yn ôl Ms Protheroe-Soltani.
"Dyw ceiswyr lloches ddim yn cael gweithio ym Mhrydain," meddai, "felly ychydig bach iawn o arian sydd ganddyn nhw i fyw arno a does dim ffordd o gynyddu'r incwm.
"Mae ganddom ni bobl o'n prosiect chwarae sy'n dod mewn, sy'n famau ac yn methu fforddio talu am wisg ysgol i'w plant.
"Mae pobl yn wynebu tlodi enbyd - dydyn nhw ddim yn goroesi, mae'n anodd iawn."
Dihangodd Frezgi Meles, 38 oed, o ryfel cartref yn Tigray yng ngogledd Ethiopia a dod i Gaerdydd.
"Mae hil-laddiad yn digwydd yn Tigray, mae llawer o bobl yn cael eu lladd, mae menywod yn cael eu treisio ac mae adeiladau'n cael eu dinistrio," meddai. "Allwn ni ddim byw yn ein gwlad oherwydd yr unbeniaid."
Mae'r ymladd yn Tigray wedi arwain at ddinistrio cartrefi, ysgolion ac ysbytai.
Mae sefydliad rhyngwladol Human Rights Watchyn credubod mwy dwy filiwn o bobl yn Tigray wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi. Bu farw dau frawd Frezgi yn y gwrthdaro.
Erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd ac yn gwirfoddoli gyda'r Groes Goch a Chyngor Ffoaduriaid Cymru, mae Frezgi'n ei chael hi'n anodd talu am hanfodion bywyd ar ei lwfans o £40. Byddai'n well ganddo weithio.
"Fe fyddai'n dda cael caniatâd i weithio, fel y gallwn ni gael swyddi," meddai. "Nid y £40 yw'r ateb gorau."
Mae Harriet Protheroe-Saltani o'r farn bod ceiswyr lloches rhwng dau fyd, "yn cael y swm bach iawn yma o arian ac yn methu gweithio".
Byddai nifer o geiswyr lloches "wrth eu bodd yn gweithio", meddai.
"Gofiwch chi'r argyfwng gyrwyr lori? Roedd llawer o'n cleients ni fyddai wedi bod yn barod i lenwi'r galw yno ond gawn nhw ddim, felly maen nhw mewn sefyllfa anodd iawn."
'Adolygu lwfansau'
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Fe fydd y Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau yn trwsio'r system lloches doredig trwy brosesu ceisiadau'n gynt a chanolbwyntio ar y rhai sydd wir yn dianc oddi wrth erledigaeth.
"Rydym ni'n cynnig llety a lwfans wythnosol am fwyd, dillad, trafnidiaeth a manion i geiswyr lloches fyddai fel arall heb ddim.
"Mae'r Swyddfa Gartref yn craffu ar bob gwariant i wneud yn siŵr bod arian trethdalwyr yn cael ei wario yn y ffordd mwyaf effeithlon.
"Rydyn ni'n adolygu cyfradd lwfansau yn flynyddol ac rydym wedi dechrau ar adolygiad blynyddol eleni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd14 Awst 2022
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2022