Eisteddfod yr Urdd: Yr aros ar ben i Lanymddyfri a Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae'r aros ar ben wrth i Sir Gaerfyrddin gynnal Eisteddfod yr Urdd wedi dwy flynedd hir o aros.
Gyda Covid yn golygu gohirio ac ail-amserlennu'r ŵyl yn Llanymddyfri o 2021 i eleni, gall ymwelwyr ddisgwyl hwyl ym mhobman ar hyd a lled y sir.
Dyma'r wythfed tro i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Sir Gâr, gyda'r ymweliad cyntaf yn 1935 a'r mwyaf diweddar yn 2007.
Ond mae'n ymweld â Llanymddyfri am y tro cyntaf erioed - ardal wledig ar hyd glannau Afon Tywi a thref hanesyddol y porthmyn.
Bydd Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin yn cael ei chynnal rhwng 29 Mai a 3 Mehefin.
Yn ôl cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, Carys Edwards, mae'n braf cael ailgydio yn y cyffro unwaith eto.
"Ry'n ni bron yna a dwi wir yn teimlo'n hollol gyffrous ynghyd â phawb o Lanymddyfri i Lanelli, drwy Sir Gâr," meddai.
"Gychwynnon ni'n dda ac wedyn fe ddaeth y pandemig ac fe ddaeth popeth i stop.
"Nawr, 'dyn ni wedi ailgydio a fyswn i'n dweud ar ôl dechrau Ionawr, mae pobl wir wedi dechrau dod yn ôl."
Gyda tharged ariannol o £300,000 wedi ei osod gan y pwyllgor apêl, mae llu o ddigwyddiadau wedi cael eu cynnnal ar hyd y sir, o ginio mawreddog, sioe ffasiwn, noson chwist i noson gyri.
Mae Gethin Thomas, cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi'i syfrdanu gyda haelioni pobl.
"O'n i yn poeni na fydden ni yn cyrraedd y targed," meddai.
"O'dd gyda ni darged bo' ni'n croesi £300,000, ac mae'n braf dweud ein bod ni wedi croesi'r hynny erbyn heddi'.
"Mae'n hynod o heriol ac mae'n anodd iawn ar bobl i gael dau ben llinyn ynghyd, ond mae'n rhaid i ni 'weud, ry'n ni'n hynod, hynod ddiolchgar i drigolion Sir Gâr am gyfrannu."
Dim trenau ychwanegol
Wrth deithio i'r maes eleni, y cyngor yw i ddilyn arwyddion y digwyddiad.
Yn ôl y trefnwyr, mae meysydd parcio ar gyfer yr ŵyl wedi'i gynllunio ar gyfer traffig sy'n dod drwy'r holl brif lwybrau i'r dref.
Gallwch hefyd deithio ar drên i'r Eisteddfod ar reilffordd Calon Cymru, sy'n rhedeg drwy Lanymddyfri.
Serch hynny, does dim teithiau trên ychwanegol wedi'u hamserlennu ar gyfer yr ŵyl, ac mae gwaith peirianyddol hefyd wedi'i drefnu yn gynnar yn y boreau o ddydd Mawrth i ddydd Gwener.
Yn ôl Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, mae Trafnidiaeth Cymru a'r llywodraeth wedi colli cyfle.
"Ni'n gwybod amser mae e'n dod i'r Sioe Frenhinol mae ymdrech yn cael ei wneud fan 'na i gael mwy o wasanaethau," meddai.
"Y cwestiwn mawr wedyn yw, pam nad yw'r un peth yn digwydd gyda Eisteddfod yr Urdd?
"Bron bob diwrnod mae rhyw fath o broblem. Pa mor ddibynadwy bydd y gwasanaethau?
"Fi'n credu gyda'r Eisteddfod yn dod i Lanymddyfri bydde fe 'di bod yn gyfle delfrydol i'r rheiny sy'n gyfrifol am y system drafnidiaeth i edrych ar beth ry'n ni'n gallu gwneud i fanteisio ar y llinell arbennig hyn sydd gyda ni.
"I sicrhau bod gymaint o bobl â phosib, sydd moyn manteisio ar y llinell, yn cael gwneud hynny."
'Wedi'i gytuno â'r trefnwyr'
Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru y bydd pedwar trên boreol a phedwar arall yn y prynhawn yn rhedeg drwy Lanymddyfri yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd.
Bydd capasiti'r gwasanaethau hyn yn cynyddu lle fo'n bosib, a bydd defnydd y trenau'n cael ei fonitro'n agos.
"Mae'r dull hwn wedi'i gytuno ymlaen llaw gyda threfnwyr Eisteddfod yr Urdd yn dilyn ymgynghoriad helaeth ers dechrau'r flwyddyn," meddai llefarydd.
O ba bynnag gyfeiriad fyddwch chi'n teithio mae'r sir yn fôr o liw, ac aelodau gweithgar o'r gymuned wedi rhoi hwb i lawer i ymuno yn yr hwyl.
"O'n i'n mynd amgylch siopau a busnesau i'w hannog nhw ac ateb eu cwestiynau nhw," meddai Carol Dyer o bwyllgor apêl Llanymddyfri.
"Ambell waith o'n i'n gorfod esbonio i bobl beth oedd Eisteddfod yr Urdd achos mae'n rhaid cofio, nid pawb sydd wedi bod i Eisteddfod yr Urdd.
"Mae hyd yn oed y rhai sydd newydd agor busnesau a ddim wedi byw 'ma am gyfnod, maen nhw wedi mynd i fewn i ysbryd yr ŵyl, ac wedi deall yn iawn beth yw Mr Urdd."
Gydag Eisteddfod yr Urdd yn denu tua 90,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, a'r maes o fewn pellter cerdded i'r dref, mae cynghorydd sir a thref Llanymddyfri, Handel Davies, yn gobeithio y bydd pobl yn dychwelyd i'r ardal.
"Ni yn gobeitho bo' pethe fel yr Eisteddfod, bod gymaint o bobl newydd yn dod i'r ardal - dros 100,000 os yw'r tywydd yn ffein, lot o' nhw ddim wedi gweld Llanymddyfri erioed.
"Y bwriad yw bo' nhw'n lico fe, a bo' nhw moyn dod 'nôl yn y dyfodol eto ac eto fel bod y busnesau lleol yn gweld y benefit."
Yn wahanol i'r llynedd, bydd rhaid talu am docyn eleni, gyda phrisiau'n amrywio o £8 i gystadleuwyr, i £18 am docyn oedolyn.
Bydd y prisiau'n codi ar ôl 29 Mai.
O ganlyniad i gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, bydd teuluoedd incwm isel yn gallu hawlio tocynnau am ddim eleni hefyd.
Yn ôl cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Carys Edwards, mae'r Urdd wedi gwneud "ymdrech arbennig" i ystyried sefyllfa ariannol presennol pobl.
"Dwi'n meddwl, yn y diwedd, unwaith gewn ni bobl ar y maes, pan 'dach chi'n meddwl am be' maen nhw'n ei gael am yr arian, mae'n ŵyl anferthol," meddai.
"Mae'r stondinau, y digwyddiadau, mae 'na dri pafiliwn ar y maes, mae bob plentyn nawr, ers llynedd, yn cael mynd ar y llwyfan, felly mae pob un wedi ennill cyn cyrraedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2023