Dadorchuddio Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 wedi cael eu dadorchuddio mewn seremoni yn Llanelli.
Cafodd y gadair ei dylunio a'i chreu gan Bedwyn Rees o ardal Hermon, Cynwyl Elfed, tra bo'r goron yn gywaith rhwng trigolion, disgyblion a chrefftwyr Sir Gâr.
Cwmni T Richard Jones Cyf o Betws sy'n cyflwyno'r gadair eleni, a rhoddir y goron gan gwmni teledu Tinopolis.
Cafodd y seremoni ei chynnal yng Ngwesty Parc y Strade nos Wener, gyda'r siaradwr gwadd Huw Edwards yn ymuno â gwirfoddolwyr, staff a chefnogwyr yr Urdd.
Ardal amaethyddol a diwydiannol yr Eisteddfod sydd wedi ysbrydoli'r Gadair, gyda'r dylanwad i'w weld yn siâp y breichiau, y wlanen ar y glustog a dail derwen aur sy'n cynrychioli'r Hen Dderwen - rhan annatod o hanes Caerfyrddin.
Roedd Mr Rees yn awyddus i sicrhau mai deunyddiau lleol oedd yn cael eu defnyddio i greu'r gadair.
"Derw Cymreig yw'r pren. Mae'r gwlân wedi ei wehyddu yn Llanymddyfri gan Haydn Sinclair yn arbennig i'r gadair," meddai.
"Mae'r clustogwaith wedi ei wneud yn Llangadog gan Mick Sheridan, ac yna'r dail derwen aur wedi eu gwneud yn ardal Capel Iwan ger Castell Newydd Emlyn gan Elen Bowen."
Cafodd y goron ei chreu gan grŵp o grefftwyr sydd â chysylltiad gydag ysgolion uwchradd yr ardal - Luned Hughes, Richard Davies ac Endaf Price.
Cafodd disgyblion yr ardal gyfle i rannu syniadau, a phenderfynwyd mai amaeth, diwydiant, traddodiadau lleol ac Afon Tywi fyddai'r flaenoriaeth yn y dyluniad.
Mae Sir Gar yn frith o wahanol ddiwydiannau, gan gynnwys y diwydiant copr a'r diwydiant tun yn Llanelli.
Mae'r ardal yn cael ei alw'n Tinopolis, a gan mai cwmni Tinopolis sydd wedi noddi'r goron penderfynwyd cynnwys tun fel rhan o'r cynllun.
Mae fframwaith cwrwgl, sy'n adnabyddus yn Sir Gâr, wedi ei ddefnyddio ben i waered i greu'r cap, ac arian yn creu'r clymau.
Ar frig y goron mae llinell yn dangos taith y Porthmyn dros fryniau a dyffrynnoedd yr ardal, tra bod llinell trwy'r canol yn adlewyrchu taith Afon Tywi o'i tharddiad uwchlaw Brianne lawr i Lansteffan.
Dewisodd Tinopolis linell o waith William Williams Pantycelyn, "Mae dy eiriau fel gwin", ac mae'r grefftwraig Mari Bennet wedi creu ysgrythur y geiriau hynny yn gywrain o fewn yr afon ar y goron.
Bydd Eisteddfod Sir Gaerfyrddin yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri rhwng 29 Mai a 3 Mehefin, gyda seremoni'r cadeirio ar y dydd Iau a'r coroni ddydd Gwener.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd17 Medi 2022