Gwynedd: Beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
A493Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r A493 rhwng Bryncrug a Llanegryn yn parhau i fod ar gau

Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad angheuol rhwng beic modur a cherbyd yn Sir Feirionnydd fore Llun.

Bu farw'r dyn, a oedd yn gyrru beic modur Suzuki, yn y fan a'r lle wedi'r gwrthdrawiad gyda char Vauxhall Adam gwyn ar yr A493 rhwng Bryncrug a Llanegryn.

Mae'r ffordd yn parhau i fod ar gau wrth i'r ymchwiliad fynd yn ei flaen ac mae'r crwner wedi cael gwybod.

Cafodd yr heddlu eu galw am 09:17 fore Llun, a dywedon nhw fod gyrrwr y car hefyd wedi derbyn mân anafiadau.

Dywedodd y Sarjant Jason Diamond, o Uned Plismona'r Ffyrdd, y bydd y teulu yn derbyn cefnogaeth arbenigol yr heddlu.

"Rwy'n cydymdeimlo'n ddiffuant â theulu'r beiciwr modur," meddai.

Fe apeliodd i'r cyhoedd am wybodaeth.

"Mae'r ffordd yn parhau ar gau tra byddwn yn cynnal ein hymchwiliad cychwynnol a hoffwn ddiolch i'r gymuned leol a modurwyr am eu hamynedd parhaus."

Pynciau cysylltiedig