Alex Jones a'r her o drosglwyddo'r Gymraeg i'r plant

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Cwestiynau cyflym gydag Alex Jones ar faes Eisteddfod yr Urdd

Mae'n gallu bod yn "anodd iawn i drosglwyddo'r Gymraeg" i blant os nad yw un rhiant yn siarad yr iaith, yn ôl Alex Jones.

Gyda hithau bellach yn byw yn Llundain, dywed cyflwynydd The One Show bod angen "gwneud yr ymdrech" i sicrhau bod yr iaith yn cael ei throsglwyddo i'r genedlaeth nesaf.

Roedd Ms Jones, sy'n enedigol o Sir Gâr, ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri gyda'i theulu ddydd Llun yn ei rôl fel Llywydd y Dydd.

Dywedodd ei bod hi'n awyddus i ddychwelyd er mwyn "dangos beth yw'r digwyddiad unigryw 'ma i 'mhlant i".

Dechreuodd Alex Jones, 46, ei gyrfa gyflwyno ar nifer o raglenni S4C cyn cael ei swydd fel un o gyd-gyflwynwyr The One Show yn 2010.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Owen
Disgrifiad o’r llun,

Alex Jones yw Llywydd y Dydd, dydd Llun yn Eisteddfod yr Urdd eleni

Mae hi bellach yn byw yn Llundain gyda'i gŵr Charlie, sydd o Seland Newydd, a'u tri o blant.

Fel merch o Rydaman, mae'n dweud iddi neidio ar y cyfle i fod yn rhan o Eisteddfod yr Urdd ym mro ei mebyd.

"Fel merch leol sydd 'di cystadlu yn yr eisteddfod erioed, ac wedi cael fy nwyn lan yn agos i fan hyn, mae e'n hollbwysig mod i'n cael y cyfle i ddod 'nôl i ddangos beth yw'r digwyddiad unigryw 'ma i mhlant i," meddai.

"Mae mor anodd disgrifio'r digwyddiad tu allan i Gymru.

"Ni mor lwcus bod ein plant ni i gyd yn cael llwyfan a chyfle i berfformio'n gyhoeddus, neu o ran chwaraeon, neu ddarn o gelf arbennig. S'neb arall gyda'r math yna o gyfle."

'Positif' am y Gymraeg

Dywedodd bod hyd yn oed The One Show wedi rhoi sylw i'r ŵyl, a'i bod yn gobeithio y gall y digwyddiad fod o ddiddordeb ehangach.

"Hyd yn oed i deuluoedd sydd ddim yn siarad Cymraeg, ond falle'n byw yn yr ardal, wrth ddod â'r plant fan hyn dwi'n credu bod e'n cynnig rhyw fath o sbarc," meddai.

"Ac wedyn fyddan nhw moyn deall beth yw Cymreictod, beth yw bod yn rhan o'r gang 'ma sydd mor ffab."

Fel mae'n digwydd, dyma Eisteddfod yr Urdd cyntaf i gael ei chynnal ers i ffigyrau Cyfrifiad 2021 ddangos mai yn Sir Gaerfyrddin oedd y cwymp mwyaf yng nghanran y siaradwyr Cymraeg.

I Alex Jones, oedd yn un o gyflwynwyr cyfres ddiweddar Stori'r Iaith ar S4C, roedd y cwymp yn y ffigyrau'n "drist iawn".

"Ond i fi, pan ddes i 'nôl i 'neud rhaglen am yr iaith, o'n i 'di siomi ar yr ochr orau bod pawb yn ardal Rhydaman... dal yn siarad Cymraeg," meddai.

"Os o chi'n cerdded lawr y stryd, Cymraeg oedd yr iaith o'n i'n clywed.

"Felly falle bod y ffigyrau'n adrodd un stori, ond fi'n credu wrth ddod 'nôl fel rhywun sy'n dod i ymweld erbyn hyn, dwi'n clywed y Gymraeg ym mhob man. Felly dwi'n teimlo'n eitha' positif."

'Fy mhlant yn deall pob gair'

Ond mae'n cyfaddef ei bod hi'n her barhaus i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn siarad yr iaith, hyd yn oed gyda'i phlant ei hun.

"Dwi'n meddwl bod e'n anodd iawn i drosglwyddo'r Gymraeg i blant os nag yw'r ddau riant yn siarad Cymraeg," meddai.

"Ond wedi dweud hynny, roedd Mam a Dad yn siarad Saesneg gyda'i gilydd ac yn siarad Cymraeg 'da ni, ac mae hynny wedi gweithio'n iawn.

"Mae e'n jobyn, ond mae cymaint o adnoddau dyddiau 'ma - mae Cyw yn ffantastig ar S4C, mae digon o lyfrau, ac er bod ni'n byw yn Llundain dwi'n siarad Cymraeg 'da'r plant drwy'r dydd - maen nhw'n ateb yn Saesneg, ond maen nhw'n deall pob gair.

"'Neud yr ymdrech sydd wrth wraidd y peth - mae'n anodd, achos mae codi plant yn anodd, ond mae jyst mor bwysig, hyd yn oed os oes 'chydig bach o eirfa 'da nhw."