Pum munud gydag Alex Jones
- Cyhoeddwyd
Y cyflwynydd o Rydaman, Alex Jones, yw'r diweddaraf i gymryd rheolaeth o'r slot Sunday Morning with... ar BBC Radio Wales, a hynny am chwech wythnos o fore Sul 6 Medi.
Mae Alex yn wyneb cyfarwydd i nifer fel cyflwynydd The One Show ar BBC One a rhaglenni S4C, felly mae hi wedi hen arfer â chael sgwrs gydag amrywiaeth o westeion. Ond yn wahanol i pan mae hi ar y teledu, mae hi'n edrych ymlaen at gael gwisgo beth fynna hi ar y radio...
Sut mae'n teimlo i gael darlledu bob bore Sul ar BBC Radio Wales?
Dwi wedi cyffroi i fod yn cymryd drosodd ar foreau Sul. Dwi wir yn edrych 'mlaen i gael y cysylltiad arbennig yna gyda chynulleidfa Gymreig, sydd ond yn gallu digwydd ar radio. Bydd 'na lot o hwyl am chwech wythnos.
Beth all pobl ei ddisgwyl o'r rhaglen?
Mae gennyn ni gymaint o syniadau gwahanol, mae hi am fod yn anodd eu gwasgu nhw i gyd mewn i awr a hanner.
Bydd y rhaglen wedi ei hanelu at deuluoedd, gyda gwesteion gwych - rhai ohonyn nhw'n ymuno gyda fi am y rhaglen gyfan. Byddwn ni'n cynnwys brunches gorau Cymru. Bydda i'n sgwrsio gyda Chymry arbennig ac, wrth gwrs, cerddoriaeth wych er mwyn rhoi dechrau iawn i'ch dydd Sul chi.
Beth wyt ti'n edrych ymlaen ato fwyaf?
Dwi'n edrych 'mlaen at gyrraedd yn fy mhijamas a rhannu paned bore Sul gyda Chymru, tra'n parablu. Dyna fy syniad i o nefoedd.
Beth yw dy hoff fath o gerddoriaeth?
Dwi wrth fy modd gyda sioeau cerdd, ond gall y sioe radio yma ddim bod yn Les Mis a Cats am yn ail, neu fyddai Elaine Paige [ar BBC Radio 2] mas o swydd! Bydd cymysgedd o artistiaid newydd a rhai enwog, wedi eu dewis yn ofalus i roi'r rhestr chwarae perffaith i chi ar fore Sul.
Oes gen ti hoff gyflwynydd radio?
Fy hoff gyflwynydd ydi Chris Evans. Mae'n ffrind da, ddysgodd e bopeth i fi yn y dyddiau cynnar.
Beth yw dy hoff beth di am radio?
Dwi'n caru ei fod e mor intimate. Mae'r berthynas sydd gen ti gyda'r gwrandawyr llawer mwy personol a chynnes na phan wyt ti ar y teledu.
Hefyd... does 'na ddim angen colur!
Bydd Alex yn cyflwyno ar BBC Radio Wales am 9.30-11.00 bob bore Sul, yn dechrau ar 6 Medi
Hefyd o ddiddordeb: