O'r Tymbl i Tasmania: Hanes Jac Tŷ Isha

  • Cyhoeddwyd
Cerflun Jac Tŷ Isha yn Y Tymbl, Sir Gaerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Cerflun o Jac Tŷ Isha yn Y Tymbl, Sir Gaerfyrddin

Os grwydrwch faes Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin wythnos yma mae'n debygol y clywch chi Drac yr Wythnos Radio Cymru - Jac Tŷ Isha gan Pwdin Reis - yn atseinio hen chwedl o'r ardal.

Yn yr un modd, os edrychwch ym mhentref cyfagos Y Tymbl mae siawns go lew y dewch ar draws cofeb i Jac Tŷ Isha yn ogystal â heol sydd wedi enwi ar ei ôl o yno.

Ond pwy oedd Jac Tŷ Isha? A pham ei fod o'n haeddu cân, cofeb a heol?

Mae Jac Tŷ Isha yn arwr chwedlonol yn Y Tymbl am y rhan a chwaraeodd yng ngwrthryfeloedd mudiad Merched Beca.

John Hughes oedd ei enw iawn a daeth i amlygrwydd pan ddaeth ynghlwm â'r mudiad oedd yn brwydro dros gyfiawnder cymdeithasol yn Ne Cymru yn yr 1840au.

Roedd Jac Tŷ Isha yn un o'r arweinwyr, ac un o'r pethau pennaf oedd yn gyrru'r mudiad oedd bod perchnogion y tir yn codi tâl annheg ar bobl leol i basio trwy giatiau tollau eu pentref eu hunain.

Ffynhonnell y llun, Expired
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymddangosodd y llun hwn o'r terfysg yn yr Illustrated London Press yn 1843

Cafodd Jac Tŷ Isha ei arestio yn 1843 ynghyd â dau arall o Ferched Beca o ganlyniad i'w gwrthryfela, ac yn dilyn tuedd yr amser cawson nhw eu hanfon yr holl ffordd draw i Tasmania fel carcharorion.

'Daeth e byth gytre'

Ysgrifennodd y grŵp Pwdin Reis o Sir Gaerfyrddin y gân fel rhan o ddathliad Eisteddfod yr Urdd ac yn ôl Neil Rosser o'r grŵp, mae chwedl Jac Tŷ Isha a Merched Beca yn adnabyddus iawn yn yr ardal.

"Daeth e byth gytre' i'r Tymbl. Bu e farw yn Tasmania yn briod ac yn dad i ddau o blant," esbonia Neil, wnaeth gyfansoddi'r gân fel rhan o Brosiect 23 yr Eisteddfod, wrth Sara Gibson ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Betsan Evans a Neil Rosser o Pwdin Reis

"O'n i'n meddwl, mae fe'n enw mor grêt - mae jest yr enw yn gwneud cân… ac o'n i'n meddwl baswn i'n cael y plant i chanto Jac Tŷ Isha."

Roedd 150 o ddisgyblion Unedau Anghenion Arbennig Sir Gâr yn rhan o'r prosiect, a ffilmiwyd fideo gerddoriaeth arbennig i gyd-fynd â'r sengl yng nghanolfan yr Egin, Caerfyrddin.

Ffynhonnell y llun, Meinir Mathias
Disgrifiad o’r llun,

Mae Merched Beca wedi dylanwadu ar waith yr artist Meinir Mathias

Chwalu dros 100 tollborth

Tlodi ac anghyfiawnder oedd sbardun protestiadau Merched Beca wnaeth ledaenu ledled ardaloedd gwledig gorllewin Cymru rhwng 1839 a 1843.

Roedd y dynion yn gwisgo dillad menywod fel y byddai neb yn eu hadnabod ac mae'r enw Rebecca yn gysylltiedig ag adnod o'r Beibl.

Efail-wen yn Sir Benfro oedd y tollborth cyntaf i gael ei daro ar 13 Mai 1839. Fe gafodd mwy na 100 o dollbyrth eu chwalu yn y de-orllewin, gyda'r helynt ar ei waethaf yn Sir Gaerfyrddin.

Daeth protestiadau Beca i ben yn 1844, yn bennaf oherwydd gwelliant i gyfreithiau a ostyngodd y tollau.

Bu gwrthryfel Merched Beca yn llwyddiannus yn yr ystyr hwn ac mae cân Pwdin Reis a'i ddathliad yn Eisteddfod Sir Gâr yn profi fod yr hanes yn fyw hyd heddiw.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig