Morgannwg yn trechu Caint yn y T20 yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Eddie ByromFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Eddie Byrom sgorio 43 oddi ar 19 pêl ar ddechrau batiad Morgannwg

Llwyddodd Morgannwg i drechu Caint yn y gystadleuaeth 20 pelawd yng Nghaerdydd nos Wener.

Fe wnaeth Caint gyrraedd cyfanswm addawol o 189-6 yn eu 20 pelawd nhw, gyda Tawanda Muyeye yn serennu gyda sgôr o 62.

Ond llwyddodd Morgannwg i gyrraedd y targed hwnnw ac ennill o saith wiced gyda dros ddwy belawd yn weddill, gyda Colin Ingram y prif sgoriwr ar 63 heb fod allan.

Roedd Morgannwg wedi chwarae tair gwaith yn y gystadleuaeth cyn y gêm nos Wener, gan ennill dwy a cholli un.

Pynciau cysylltiedig