Trafod cynllun i godi adeilad talaf Cymru yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
DyluniadFfynhonnell y llun, Scott Brownrigg
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad o sut y byddai'r tŵr 113m o daldra yn edrych wedi'i gwblhau

Bydd cynllun i adeiladu tŵr talaf Cymru yng nghanol Caerdydd yn cael ei drafod gan gynghorwyr y ddinas yr wythnos hon.

Bydd pwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd yn cyfarfod i drafod yr adeilad 35 llawr, a fyddai'n cynnwys 364 o fflatiau, a phafiliwn sy'n adeilad ar wahân.

Byddai'r bloc o fflatiau 113m o daldra wedi'i leoli ar Stryd Wood, ger adeiladau newydd y BBC a Llywodraeth y DU.

Pe bai'n cael ei gymeradwyo, byddai llawr gwaelod y tŵr ar gael ar gyfer siopau a busnesau, a byddai 894 metr sgwâr yn cael ei adael yn wag ar gyfer man cymunedol, a fyddai'n cynnwys "gardd aeaf".

Mae swyddogion cynllunio wedi argymell y cyngor i roi sêl bendith i'r cynlluniau.

Hefyd yn rhan o'r cynllun mae adeilad allanol, sy'n cael ei alw'n "bafiliwn".

Byddai hwn yn cael ei ddefnyddio fel caffi neu fwyty, gan gynnwys seddi tu allan a tho gwyrdd.

Bydd y cynllun yn cael ei drafod gan bwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd ddydd Iau.

Pynciau cysylltiedig