Surrey yn drech na Morgannwg yn y T20

  • Cyhoeddwyd
CricedFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth Morgannwg groesawu Surrey i stadiwm SSE Swalec yng Nghaerdydd nos Fercher gyda hyder tîm oedd wedi sicrhau pedair buddugoliaeth yn y bum gêm gyntaf o gemau 20 pelawd y Vitality Blast.

Fe dalodd penderfyniad Surrey i fatio gyntaf ar ei ganfed.

Roedd gan y tîm cartref gryn dasg wedi i'r ymwelwyr orffen eu hugain pelawd gyda 236 o rediadau am ddwy wiced.

Dechreuodd Morgannwg y dasg yn hyderus gyda Sam Northeast yn disgleirio.

Ond araf oedd y rhediadau ac ar ddiwedd y gêm roedd Morgannwg 65 rhediad yn brin o gyfanswm Surrey, 171 am 8 wiced.

Mae Morgannwg bellach yn bedwerydd yn y tabl, a Surrey yn ail.

Morgannwg 171-8 Surrey 236-2.

Pynciau cysylltiedig