'A welest ti'r prynwyr yn nhref Derwen-gam?'

  • Cyhoeddwyd
Derwen-gam
Disgrifiad o’r llun,

Derwen-gam

"A welest ti'r cyfan fy Nghymro di-nam? A welest ti'r prynwyr yn nhref Derwen-gam?"

Dyna eiriau'r cerddor Cleif Harpwood yn un o ganeuon ei fand, Edward H. Dafis, sef 'I'r Dderwen-gam'.

Hanner canrif yn ôl roedd pentref Derwen-gam yng Ngheredigion yn ganolbwynt i brotest genedlaethol pan osodwyd pob un o'r tai ar werth, gan fygwth cymuned o Gymry Cymraeg oedd yn rhentu'r cartrefi.

Roedd Cleif yn un o'r rhai a fu'n protestio yn ôl yn y 1970au, ac a ddaeth yn un o drigolion y pentref wedi iddo lwyddo i brynu un o'r tai adeg arwerthiant 1973.

Yma, mae Cleif yn rhannu'r hanes a'i berthynas yntau â phentref Derwen-gam.

Gweledigaeth Morgan Evans: 'pentre o artisans'

"Fe godwyd y pentre yn wreiddiol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan fab i ffarm Pompren Ddu yn ardal Llanarth, dyn o'r enw Morgan Evans.

"A'r bwriad oedd codi pentre o artisans mewn ffordd - o grefftwyr ac yn y blaen, yn ganolfan fasnachol i'r ardal oedd yn gwerthu a mewnforio deunyddiau ar gyfer y gymuned amaethyddol a hefyd y gymuned forwrol yna hefyd.

"Yn ystod y cyfnod yna pan sefydlwyd y pentre - mi roedd yna efail yn y pentre, teiliwr, crydd, y crefftwyr yma i gyd.

Disgrifiad o’r llun,

Cleif Harpwood

"Ac yng nghanol y pentre, y storws enfawr, y siop enfawr sy'n dal i sefyll yna heddiw. Rhydgwinllanau yw'r enw ar y storws ac yn ddiddorol iawn fe newidiodd Morgan Evans yr enw gwreiddiol, y gymuned fach yma o dai o'r Dderwen-gam i Oakroad, "for commercial reasons" mae'n debyg.

"Tase chi'n mynd i'r storws bryd hynny, byddech chi'n gallu prynu pob math o bethe oedd wedi cael eu mewnforio. Roedd fel chandlery yna i gadw gadw rhaffau a hwyliau ac yn y blaen, y teip yna o beth ynghŷd â deunyddiau amaethyddol.

Ffynhonnell y llun, Casgiad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Taflen gan Morgan Evans, Rhydgwinllanau. Roedd Morgan Evans yn llieinydd, groser a haearnwerthwr ym mhentref Derwen-gam, ger Llanarth. Roedd hefyd yn bregethwr teithiol

"Oedd yna hyd yn oed popty cymunedol yna tu ôl i'r siop, a hefyd oedd yna lyfrgell bach mewn llofft yn un o'r tai.

"Roedd e hefyd yn fan cyfarfod i'r gymuned felly oedd hi yn gymuned ddiwylliedig, agos, clos gyda phawb yn cydweithio â'i gilydd ynghŷd â bod yn ganolfan fasnachol."

'Pan werthon nhw'r pentre, ymhle oeddet ti?'

Gyda marwolaeth Morgan Evans fe etifeddodd ei fab, Daniel, y cyfan ac yntau oedd yn gofalu am y siop hefyd.

Ymhen amser fe etifeddodd wyres Morgan Evans sef Elisabeth Jones y pentref. Roedd hi yn byw yn un o'r tai sef Darfal a thenantiaid yn byw yn y gweddill.

Ar ôl yr ail ryfel byd gadawyd i'r tai ddirywio a bu farw Elisabeth Jones yng Ngorffennaf 1971. Rhannwyd yr etifeddiaeth sef y pentre rhwng deuddeg etifedd ac aethpwyd ati wedyn i roi'r tai ar werth gan ail-leoli'r tenantiaid ym mhentref cyfagos Llwyncelyn.

Disgrifiad o’r llun,

Derwen-gam yn 2023

Roedd Mrs Mei Tomos oedd yn rhedeg y siop gyda'i theulu yn gandryll ac yn pryderu y byddai'r tai'n cael eu troi'n dai haf. Gyda chefnogaeth y bobl leol fe ffurfiwyd Cymdeithas Amddiffyn Derwen-gam. Dyma oedd ganddi i ddweud wrth y Western Mail ar y pryd:

"Bydd Derwen-gam yn troi yn rhyw fath o 'ghost village' cyn bo hir os na wnewn ni rwbeth amdano fo. Os eith y tai yn dai gwylie dwi ddim yn credu y galla i gadw'r siop ar agor.

"Dwi wedi byw yma ers dros 13 o flynyddoedd ac mae wedi bod yn gymdeithas Gymraeg dda.

"Ond dwi ddim yn gwbod beth fydd yn digwydd nawr. Bydd y pentref yn siwr o farw os na fydd rhywbeth yn cael ei neud."

Ymweliad cyntaf Cleif â Derwen-gam

Ar y pryd oedd Cleif Harpwood yn aelod o'r band Ac Eraill, a'u cerddoriaeth dan ddylanwad syniadaeth Mudiad Adfer o warchod 'Y Fro Gymraeg' a bod dyfodol cymunedau Cymreig 'Tua'r Gorllewin':

"Wy'n cofio ni yn mynd i weld Nant Gwrtheyrn tua 1972 a wedyn fe dynnwyd ein sylw ni at yr hyn oedd yn digwydd yn y pentre 'ma yng Ngheredigion, ac wrth gwrs ro'n i'n gweld fod 'na fodd achub y pentre yma ar gyfer y Cymry oedd yn byw yna.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Ac Eraill

"Nawr oedd tipyn o gyflwr ar y tai 'ma, doedden nhw ddim cweit yn adfeilion, oedd yna bobl dal yn byw ynddyn nhw ond oedden nhw megis yn perthyn i oes yr arch.

"Dyma ni'n galw hebio pentre Derwen-gam a gweld yr holl arwyddion yna gan yr arwerthwyr yn y ffenestri.

"Wrth ddod allan o'r car a cherdded ar hyd y pentre a'r cyfan glywon ni oedd yr iaith fain a'r arwerthwyr yma yn tywys pobl o ddrws i ddrws.

"O'n i'n gweld yn syth mai dyna fasa tynged y pentre - fasa yna ddim byd yn digwydd felly, dim amddiffyn gan y Gymry lleol."

'Y cyngor yn golchi eu dwylo'

"Beth ddigwyddodd wedyn oedd 'nath Cymdeithas yr Iaith gynnal rali yna a hefydd ddoth Adfer yn rhan bwysig o'r ymgyrch a'r bobl leol fuodd yn ymladd fwyaf dros yr ymgyrch oedd y Tomosiaid o'r siop a'r swyddfa bost yna."

Lluniwyd adroddiad gan Gymdeithas Amddiffyn Derwen-gam yn cynnig cynllun o droi tai Derwen-gam yn dai cyngor, ond yn ôl Cleif, doedd gan y cyngor ddim diddordeb:

"Ymateb y cyngor oedd bo' nhw ddim yn meddwl bod hynny yn bosib achos i ddechre, diffyg carthffosiaeth addas i'r pentre a hefyd nad oedd gan y pentre addoldy a neuadd gymuned.

Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar Eurig Wyn yn darlledu i'r BBC o bentref Derwen-gam, Ceredigion, yn 1973

"Eu barn nhw wedyn oedd y byddai'n well i'r pentre gael ei chyflwyno i'r farchnad breifat a dyma be wedon nhw; 'er tegwch ddemocrataidd i bawb a chanddynt ddiddordeb yn yr eiddo boed estron neu leol.'

"Ac yn fy marn i golchi dwylo oedd hynny a barn llawer o bobl eraill."

'A glywaist ti'r morthwyl a darodd y pren?'

Erbyn 1973 roedd chwech o dai wedi'u gwerthu a thri arall ar fin mynd dan forthwl yr ocsiwniar. Cafwyd arwerthiant yn Neuadd Goffa Aberaeron i werthu tri o'r tai ac roedd Cleif yno gyda bwriad penodol:

"O'ni yna y diwrnod hwnnw, o'n i wedi persawdio fy nhad i fenthyg rwbeth fel £2,500 i fi. Fe holodd hefyd fydde Adfer yn fodlon penodi trydydd person i fidio ar fy rhan i achos doedd e ddim isie i fi golli 'mhen.

"Fel mae'n digwydd i ddechre, oedd yna dri o dai o'n i am fynd ar eu holau nhw. Fe golles i y ddau gyntaf yn syth a wedyn y trydydd ac o'n i yn siomedig dros ben.

Disgrifiad o’r llun,

Derwen-gam heddiw yn 2023

Ar ôl y siom o golli'r tai i brynwr arall, daeth gorfoledd wrth i ddynes o'r enw Mrs Enid Lewis ddod ato yn dilyn y gwerthiant. Daeth Cleif i ddeall mai Mrs. Enid Lewis oedd perchennog newydd y tai oedd yntau wedi gobeithio eu prynu:

"Wedi'r arwerthiant fe ddoth Mrs. Lewis i fyny ata i gydag Emyr Llywelyn a chynnig y ddau dŷ yma mewn un, un tŷ yn y diwedd, a chynnig yr eiddo yma i fi am yr uchafswm oedden ni wedi bidio amdanyn nhw.

"A dyna sut wedyn daeth Minafon a Thegfan i'n meddiant ni fel teulu, ac wrth gwrs, fe dreulion ni nifer o flynyddoedd wedyn yn adfer y tŷ, yn ail adeiladu y tŷ, yn ychwanegu ato ac yn ei foderneiddio fe."