Rybuddion bod rhagor o law trwm a stormydd ar y ffordd

  • Cyhoeddwyd
Rhybuddion dydd SulFfynhonnell y llun, Getty Images/Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Dydd Sul mae rhybudd am stormydd i Gymru gyfan, a rhybudd arall am law trwm yn y canolbarth a'r de

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio fod rhagor o stormydd a glaw trwm yn bosib dros y dyddiau nesaf.

Mae rhybudd melyn am stormydd mewn grym ar gyfer Cymru gyfan rhwng hanner dydd a 21:00 ddydd Sul.

Mae 'na hefyd rybudd am law trwm, sy'n weithredol ar gyfer y canolbarth a'r de rhwng 19:00 nos Sul a 09:00 fore Llun.

Bellach mae rhybudd arall am stormydd mewn grym ar gyfer rhannau helaeth Cymru - pob sir oni bai am Ynys Môn - rhwng hanner dydd a 21:00 ddydd Llun.

Dywedodd Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ddydd Sul eu bod wedi cael adroddiadau o lifogydd llai difrifol mewn rhai mannau yn y canolbarth, ond nad oedd wedi effeithio ar unrhyw adeilad ac nid oedd angen eu gwasanaeth.

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd/SPL
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhybudd oren mewn grym ar gyfer pedair sir ddydd Sadwrn

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai glaw a mellt arwain at lifogydd sydyn, trafferthion ar y ffyrdd a thoriadau mewn cyflenwadau trydan.

Roedd rhybudd oren am stormydd mewn grym ar gyfer pedair sir - Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Powys a Wrecsam - rhwng 17:45 a 21:00 ddydd Sadwrn, a rhybudd melyn ar gyfer gweddill y wlad trwy'r prynhawn.

Dydd Gwener oedd diwrnod twymaf y flwyddyn hyd yma, gyda'r tymheredd yn cyrraedd 29.8C ym Mhorthmadog.

Pynciau cysylltiedig