Mabwysiadu: 'Anodd iawn gwybod ble dwi'n perthyn'

  • Cyhoeddwyd
Mimi
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mimi symud i Gymru gyda'i theulu mabwysiedig pan yn dair oed, ac mae hi bellach yn siarad Cymraeg

"Mae'n anodd iawn gwybod ble dwi'n perthyn."

Cafodd Mimi Woods o Rydaman ei mabwysiadu o Wlad Thai yn dair oed.

Dros y blynyddoedd mae hi wedi cael trafferth gyda'i hunaniaeth a theimladau o ddiffyg perthyn, ond mae'n awyddus i eraill wybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain.

Mae'r fenyw 22 oed yn dweud bod mabwysiadu yn "destun tabŵ" sydd "angen cael ei drafod mwy".

'Deall beth rwy'n mynd drwyddo'

Mae Mimi a phobl ifanc eraill o Gymru sydd wedi cael eu mabwysiadu wedi creu podlediad dwyieithog yn trafod eu profiadau.

Mae'r podlediad - Dweud Y Gwir Yn Blaen: Straeon Mabwysiadu - yn cynnwys straeon naw o bobl fabwysiedig rhwng 13 a 26 oed.

"Mae yna lawer yn digwydd yn y byd hwn, ond rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein lleisiau'n cael eu clywed," meddai Mimi.

Mae Mimi wedi cael trafferth gyda'i hiechyd meddwl yn y gorffennol, ond mae siarad â "phobl sy'n deall beth rydw i'n mynd drwyddo" wedi bod yn help mawr.

Mae hi'n dweud bod y podlediad yn gyfle i "helpu pobl eraill hefyd".

Disgrifiad o’r llun,

Mae podlediad Dweud Y Gwir Yn Blaen: Straeon Mabwysiadu yn cynnwys straeon naw o bobl fabwysiedig rhwng 13 a 26 oed

Roedd symud o Wlad Thai i Gymru a thyfu i fyny yma yn golygu bod Mimi nid yn unig wedi delio â "newid diwylliant", ond yn cael trafferth gyda'i hunaniaeth.

"Byddwn yn galw fy hun yn Asiaidd ac mae gen i lawer o gysylltiadau gyda fy niwylliant, ond hefyd gyda Chymru, rydw i wrth fy modd gyda phopeth amdano. Rygbi, cawl... hynny i gyd," meddai.

"Pan ti'n edrych arna i, 'dw i ddim yn edrych fel 'Cymraes', ond 'dw i'n siarad dy iaith di.

"Mae'n anodd iawn gwybod lle rwy'n perthyn, ond rwy'n bendant yn teimlo fy mod yn perthyn i'r grwpiau yma [o bobl wedi eu mabwysiadu]."

Taclo camsyniadau am fabwysiadu

Mae camsyniadau cyffredin ynghylch mabwysiadu yn rhywbeth sy'n cael ei drafod yn y podlediad.

Dywedodd Mimi bod 'na gamsyniad bod "pobl sydd wedi'u mabwysiadu yn blant heriol sy'n tyfu i fyny i fod heb swydd, ac yn cyflawni dim gyda'u bywydau".

"Ond dyw hynny ddim yn wir," meddai.

"Mae gen i ffrindiau a theulu sy'n fy nghefnogi a dwi fel pawb arall, dim ond fy mod wedi cael llawer o drawma yn fy mlynyddoedd cynnar."

Mae Mimi yn credu bod angen i bobl ddysgu mwy am fabwysiadu, fel bod y rhai sy'n cael eu mabwysiadu yn cael eu cefnogi'n well, ac yn gwybod "nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ellie-Rose Griffiths fod recordio'r podlediad wedi gwneud iddi deimlo ei bod hi'n cael ei "deall"

"Byddwn i wedi bod wrth fy modd yn gwrando ar straeon pobl eraill wrth dyfu i fyny," meddai Ellie-Rose Griffiths, 22 oed o Gaerdydd.

Dywedodd, wrth recordio'r podlediad, fod pawb wedi "bownsio oddi ar ei gilydd" ac nad oedd "unrhyw ragfarn o gwbl".

Gwnaeth iddi deimlo ei bod hi'n cael ei "deall".

Dywedodd y fyfyrwraig sy'n astudio i fod yn barafeddyg ei bod yn teimlo'n "ffodus iawn" i gael "rhieni mabwysiadol mor anhygoel, sef fy rhieni - ni fyddwn i'n eu galw'n ddim byd arall".

Dywedodd fod cael eich mabwysiadau yn "rollercoaster go iawn" a bod siarad â phobl yn hollbwysig.

Mae hi nawr eisiau annog pobl arall sydd wedi cael eu mabwysiadu i "rannu eu straeon" oherwydd "mae cymaint i'w ddysgu am fabwysiadu nad yw'n hysbys eisoes".

'Ymdeimlad o beidio â pherthyn'

"Unwaith 'naethon nhw ddechrau siarad am eu profiadau gyda'i gilydd a chefnogi ei gilydd, oeddech chi ddim yn gallu eu hatal nhw," meddai Ruth Letten, rheolwr Connected - gwasanaeth i blant a phobl ifanc gan elusen Adoption UK.

Dywedodd fod llawer o'r rheiny sydd wedi cael eu mabwysiadu yn teimlo eu bod wedi'u "hynysu" a "bod yna ymdeimlad o beidio â pherthyn".

Mynegodd pa mor bwysig yw hi i bobl sydd wedi'u mabwysiadu rannu profiadau i "gadarnhau sut maen nhw'n teimlo, a'u helpu i ddeall nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain a'u bod nhw'n gallu cael cymorth os ydyn nhw ei angen".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ruth Letten fod llawer o'r rheiny sydd wedi cael eu mabwysiadu yn teimlo eu bod wedi'u "hynysu"

Dywedodd Ms Letten fod mabwysiadu wedi newid llawer dros y blynyddoedd.

"Yn hanesyddol, nid oedd unrhyw gefnogaeth, yn enwedig wrth i'r plant ddod yn oedolion," meddai.

"Nawr rydyn ni'n gwybod o brofiad ac ymchwil pa effaith mae mabwysiadu yn ei gael ar eu bywydau.

"Felly mae sicrhau ein bod ni'n gwrando arnyn nhw ac yn ymateb yn rhagweithiol i'w lleisiau a'r hyn maen nhw'n teimlo sy'n bwysig, yn hytrach na dim ond cymryd ein bod ni'n gwybod beth sydd orau."

'Y plentyn yng nhalon popeth'

Ychwanegodd fod "mabwysiadu modern" yn ymwneud â "gosod y plentyn a'r person ifanc yng nghalon popeth", ond yn y gorffennol bod y ffocws wedi tueddu i fod ar "gymorth i rieni mabwysiadol".

Bellach mae plant a phobl ifanc sydd wedi eu mabwysiadu yn cael gwybodaeth a llyfrau hanes bywyd.

Dywedodd fod darpariaethau fel hyn yn eu helpu i "ddeall eu stori, fel y gall ddod yn rhan annatod o bwy ydyn nhw" a "dileu rhai o'r materion sy'n ymwneud â'u hunaniaeth".

Pynciau cysylltiedig