Gemau rhagbrofol Euro 2024: Cymru 2-4 Armenia

  • Cyhoeddwyd
Dan James yn dathluFfynhonnell y llun, Michael Zemanek/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Dan James yn dathlu wedi iddo sgorio ym munudau cyntaf y gêm

Roedd yna siom i dîm pêl-droed Cymru nos Wener yng ngemau rhagbrofol Euro 2024 wedi iddyn nhw golli adref yn erbyn Armenia.

Roedd yna gyfnod da i Gymru ar y dechrau ac o fewn llai na 10 munud roedd Daniel James wedi sgorio wedi croesiad ardderchog gan Brennan Johnson - chweched gôl Dan James i Gymru.

Yn sicr roedd Cymru yn hyderus wedi dechrau cystal a Chymru 71 safle yn uwch nag Armenia yn rhestr detholion y byd ond wedi 19 munud roedd yr ymwelwyr yn gyfartal wedi i foli Lucas Zelarayan fynd mewn i'r gôl.

Wedi hanner awr o chwarae sioc a mudandod yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i Armenia sgorio eto - Grant-Leon Mamedova y tro hwn wedi cic nerthol gan y capten Eduard Spertsyan o gryn bellter.

Doedd Cymru ddim am ildio ac roedd Harry Wilson ar dân ond yn annisgwyl Armenia oedd ar y blaen ar yr egwyl o ddwy gôl i un.

Ar ddechrau'r ail hanner roedd yna ddigon o ysbryd cystadleuol yn nhîm Cymru ond y cochion yn methu â sgorio.

Croesawu Brooks

Wedi 66 munud cefnogwyr Armenia oedd yn dathlu eto wedi iddyn nhw sgorio y drydedd gôl.

Digon digalon oedd cefnogwyr Cymru ond roedd yna groeso cynnes i David Brooks wrth iddo gamu i'r cae ar ôl gwella o ganser ac yn fuan wedyn newyddion gwell i Gymru wedi gôl gan Harry Wilson (2-3).

Ond doedd y Cymry ddim yn gorfoleddu am hir wrth i Lucas Zelarayan sgorio ei ail gôl ac roedd yr ymwelwyr ddwy gôl ar y blaen unwaith eto (2-4).

Ffynhonnell y llun, Michael Zemanek/Shutterstock

I roi halen ar y briw roedd yna gerdyn coch i Kieffer Moore - roedd Cymru lawr i 10 dyn ac roedd anhrefn ar y cae.

Doedd yna ddim sgôr pellach i'r naill dîm na'r llall er bod Cymru wedi cael rhediad da ar y bêl.

Roedd hi'n noson siomedig felly i Gymru wedi iddyn nhw ildio pedair gôl adref - y tro cyntaf i hynny ddigwydd ers 2006.

Bydd gêm nesaf Cymru nos Lun a hynny oddi cartref yn ninas arfordirol Samsun yn Nhwrci.

Mae angen gorffen yn y ddau safle uchaf yn y grŵp er mwyn bod yn saff o gyrraedd Euro 2024 yn Yr Almaen.