T20 Blast: Gwlad yr Haf yn drech na Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Will SmeedFfynhonnell y llun, Huw Evans agency
Disgrifiad o’r llun,

Will Smeed oedd arwr Gwlad yr Haf nos Fercher

Colli o wyth wiced oedd hanes Morgannwg yn erbyn Gwlad yr Haf yng ngêm 20 pelawd y Vitality Blast.

Er gwaethaf perfformiadau batio gwych gan Kiran Carlson [71] a Timm van der Gugten [48], doedd cyfanswm Morgannwg o 171 ddim yn ddigon wrth i'r ymwelwyr ennill gyda 17 pelen yn weddill.

Roedd tair wiced yr un i Craig Overton a Jack Brooks yn drech na ymdrechion batio Morgannwg, cyn i Tom Kohler-Cadmore [62] a Will Smeed [66] arwain Gwlad yr Haf i fuddugoliaeth yng Nghaerdydd.

Yn sgil y canlyniad mae'n debygol y bydd angen i Forgannwg ennill pob un o'r tair gêm sy'n weddill i gyrraedd y rownd nesaf.

Pynciau cysylltiedig