Gohirio streic nyrsys Cymru wedi cynnig trafodaethau
- Cyhoeddwyd
Mae streic gan nyrsys wedi cael ei ohirio yn dilyn cynnig trafodaethau pellach gydag undeb gan Lywodraeth Cymru.
Roedd y streic gan aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN Cymru) yn wreiddiol wedi'i chynllunio ar gyfer 12 ac 13 Gorffennaf.
Mi wnaeth aelodau RCN Cymru wrthod y cynnig tal diweddaraf gan y llywodraeth a chynnal streic ym mis Mehefin.
Cafodd y cynnig hwnnw ei dderbyn gan y rhan fwyaf o undebau iechyd, gyda'r nyrsys felly hefyd yn derbyn y taliadau ychwanegol a gynigwyd er eu bod yn parhau i streicio.
Y cynnig oedd 5% o godiad cyflog i'r staff iechyd perthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, a thaliad un-tro ychwanegol ar gyfer llynedd o rhwng £900 a £1,190.
Mae'r llywodraeth wedi cynnig trafodaethau ymhellach ynglŷn ag elfennau o'r cytundeb nad sy'n ymwneud â thâl.
Dywedodd cyfarwyddwr RCN Cymru, Helen Whyley: "Mae ein streic ym Mehefin yn amlwg wedi bod yn effeithiol gan fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar leisiau aelodau'r RCN ynglŷn â materion sy'n wynebu nyrsio yng Nghymru.
"Mae gweithredu diwydiannol yn parhau i fod yn ddewis olaf i staff nyrsio, ac rwyf wedi clywed straeon am yr aberth personol maent yn ei wneud bob dydd wrth ymladd am ofal diogel i'w cleifion gwnaeth eu gwthio i bleidleisio am streic.
"Rydym yn obeithiol y bydd y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol sylweddol i staff nyrsio'r GIG yng Nghymru a fydd yn gwella telerau ac amodau eu gwaith yn ogystal â'r taliad ychwanegol sydd wedi cael ei dderbyn."
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn falch fod y gweithredu diwydiannol wedi'i ohirio er mwyn trafod "cryfhau elfennau o'r cynnig sydd ddim yn ymwneud â thâl".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd10 Mai 2023
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2023