Dyn wedi marw ar ôl tân mewn tŷ yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yng Nghaerdydd.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Caswell yn ardal Tredelerch tua 22:40 nos Iau 29 Mehefin.
Fe gafodd dyn 58 oed ei gludo i'r ysbyty ond bu farw yno'n ddiweddarach.
Cafodd menyw a phedwar swyddog heddlu eu trin ar ôl anadlu mwg.
Mae ymholiadau'n parhau i geisio canfod achos y tân.