Y criw o Wynedd sy'n seiclo rownd Ewrop gyfan

  • Cyhoeddwyd
norwy

Sut fyddai'r her o fynd ar gefn beic o amgylch Ewrop yn apelio i chi? Dyna beth mae criw o Feirionnydd wedi bod yn ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn y dyddiau diwethaf mae'r criw o seiclwyr newydd orffen cymal yn Sgandinafia o'r her sy'n cael enwi'n 'Caderman' - gan seiclo o Trondheim yn Norwy lawr i Gothenburg, Sweden erbyn 1 Gorffennaf.

Her 'Caderman'

Y chwe aelod o dîm Caderman a gymerodd ran eleni oedd Kevin Williams, Gareth King a Gareth Cadwaladr o Ddolgellau, Geraint Rowlands o Dywyn, Owen Peek o Sir Gâr, ac Andy Mitchell - ffrind i Geraint o'u dyddiau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Esboniai Gareth Cadwaladr beth yn union yw her Caderman:

"Pan oedd o'n blentyn yn Nhywyn, Sir Feirionnydd, roedd Geraint Rowlands ym meddwl os bydde modd gwneud treiathlon - o'r môr yn Nhywyn, seiclo i Ddolgellau, a rhedeg i gopa Cader Idris.

"Roedd 'na griw ohonom ni'n cymryd rhan yn y 'treiathlon' answyddogol o ran hwyl bob blwyddyn, a mwynhau noson yng nghwmni hen ffrindiau wedyn!"

Disgrifiad o’r llun,

Gareth Cadwaladr yn seiclo yn Norwy

Ond fe drodd Caderman o fod yn rhywbeth roeddent yn ei wneud am hwyl, i rywbeth mwy pwrpasol, fel dywed Gareth:

"Cafodd Geraint ei daro'n wael gyda lewcemia pan yn 15, ond dwi'n falch dweud y daeth dros y salwch ac mae'n gwbl iach bellach."

Penderfynodd y criw newid her Caderman, gan ganolbwyntio ar y seiclo, gyda'r bwriad o godi arian tuag at achos da a oedd yn agos i galon Geraint.

"Daeth penderfyniad i ddechrau taith seiclo flynyddol. Y syniad ydi bod ni'n seiclo o un ddinas yn Ewrop i un arall, ac yna cychwyn o'r fan yna y flwyddyn ganlynol. A dyna sut y daeth Caderman da ni'n ei wneud heddiw i fodolaeth. Dros y blynyddoedd mae'r her wedi codi bron i £50,000 at elusen Blood Cancer UK.

"Dau oedd ar y trip cynta' - Geraint Rowlands a Gareth King, yn mynd o Gaergybi i Gaerdydd nôl yn 2007. Wedyn os dwi'n cofio'n iawn, fe wnaethon nhw Paris i Monte Carlo cyn llenwi'r bwlch rhwng Caerdydd a Paris."

Seiclo o amgylch Ewrop

Dros y blynyddoedd mae'r criw wedi teithio 6,700 milltir ledled Ewrop - o Iwerddon i Rwsia, o'r Balcan i'r Baltic a mwy yn y canol, cyn cyrraedd Trondheim, Norwy y llynedd mewn un llinell ddi-dor.

Disgrifiad o’r llun,

Y daith yn cyrraedd Ljubjana yn 2013

"Mae'r daith wedi mynd a ni i dipyn o lefydd lle fysa ni byth 'di bod fel arall," meddai Gareth.

"Dwi'n cofio'r criw yn adrodd hanes bod yn Bosnia yn ystod rhai o'r llifogydd gwaetha' yno erioed nôl yn 2014, yn cael lifft ar draws cae llawn landmines yng nghefn pickup oherwydd fod tirlithriad wedi cau'r ffyrdd!

Disgrifiad o’r llun,

Y criw yng nghanolbwynt daearyddol Ewrop yn Lithwania (Paberzes seniunija)

Un o'r pethau mae Gareth wedi ei werthfawrogi dros y blynyddoedd yw'r golygfeydd arbennig mae wedi eu gweld tra ar gefn ei feic.

"Un o'r uchafbwyntiau i mi oedd dringo fyny'r ddringfa yn Bae Kotor, Montenegro. Roedd hi'n llethol o boeth a'r ddringfa yn parhau am byth, ond roedd y golygfeydd yn arallfydol."

Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa a gafodd Gareth o Fae Kotor, Montenegro

"Dwi'n cofio Geraint a fi yng nghefn y criw wedi i bawb arall ein gadael tra'n dringo yng nghanol 'nunlle yng ngogledd Groeg pan glywsom ni gŵn gwyllt yn cyfarth ac yn nesáu - dwi 'rioed wedi pedlo mor gyflym yn fy mywyd tra'n gweld y cŵn 'ma yn dod o'r coed tuag atom!

"Drwy rhyw wyrth, fel roedden nhw'n cyrraedd y beics, fe gyrhaeddon ni frig y bryn a roedd hi dipyn haws eu gadael nhw y tu ôl i ni wedyn!"

Mae gan Gareth hefyd nifer o straeon difyr a digri am eu teithiau i Fwlgaria, Belarws, Wcráin a gwledydd eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Y tîm yn seiclo drwy Wcráin yn 2018

Seiclo drwy Norwy

Drwy Norwy oedd yr her eleni, ac yma mae Gareth yn olrhain yr hanes.

"'Naethon ni orffen yn Trondheim, Norwy y llynedd, felly fe 'nathon ni seiclo 760 milltir o Trondheim i lawr i Gothenburg, Sweden mewn 8 diwrnod a hanner (rhyw 100 milltir y diwrnod, ond efo lot o ddringo!)."

Disgrifiad o’r llun,

Ar y ffordd i Lillehammer

"Mae yna ambell olygfa da ni wedi gwneud detour i'w weld hefyd - Y Ffordd Iwerydd ger Kristiansund, a'r ddringfa yn Trollstigen (sydd dim ond newydd agor diwedd mis Mai oherwydd tywydd gwael!)."

"Roedd y daith yn epic a bythgofiadwy, a blinedig. O seiclo ar Ffordd yr Iwerydd, i ddringfeydd enwog Trollstigen ble gafodd y rhai dewr o'r criw y cyfle i oeri mymryn wrth neidio i bwll ar frig y ddringfa, a fjord Geiranger (sydd yn edrych fel rhywbeth allan o ffilm Lord of the Rings), a finna'n siŵr mod i am wisgo trwy fy mrêcs ar y ffordd serth i lawr!"

Disgrifiad o’r llun,

Yr enwog Ffordd yr Iwerydd yn Norwy

"Mae Norwy yn wlad hyfryd. Drud, ond hynod o brydferth gyda golygfeydd godidog rownd pob cornel. Dwi'n amau os ydi'r bobl leol yn dod i arfer gyda'r golygfeydd, 'ta yn deffro bob bore ac edrych arnynt mewn syndod - 'fatha ninnau.

"Roedd y tirwedd yn un hegar ar y coesau - unai dringfeydd mawr, hir neu ddegau o glipiau bach serth yn ystod y dydd i'ch blino. Fe ddringon ni gyfanswm o dros 11,000 metr mewn wyth diwrnod (mae awyrennau yn hedfan yn is!)."

Disgrifiad o’r llun,

Gareth Cadwaladr, Andy, Owen, Geraint, Kevin a Gareth King wrth y copa uwchben Geiranger.

"Ar y diwrnod yn y llun uchod fe reidion ni o lefel y môr, i fyny i tua uchder Cader Idris, yn ôl i lawr at y môr, ac yn ôl i fyny bron iawn i'r un uchder eto cyn gorffen yn ôl ar lefel y môr. Y diwrnod wedyn, fe ddringon ni heibio llyn wedi rhewi ac eira arno (yn hwyr ym mis Mehefin!), a roedd rhaid stopio a newid i ddillad cynnes, sych, ar gyfer y tywydd oer.

"Un o'r heriau mwyaf oedd gennym oedd penderfynu pa cit i ddod gyda ni wrth edrych ar y rhagolygon tywydd cyn mynd - gan ei bod yn boeth i lawr yn y fjords, ond yn ofnadwy o oer ar y copaon (yn enwedig os doedd dim haul). Gan ein bod yn cario popeth, roedd y cit tywydd oer yn adio pwysau i ni lusgo gyda ni!"

Gweithio fel tîm

Gyda'r tîm yn amrywio o ran gallu a ffitrwydd roedd rhaid gweithio fel tîm ar y daith: "Dwi'n meddwl ei fod yn deg deud bod rhai sydd yn disgwyl ar ben y mynyddoedd am eraill - fi di un o'r rhai olaf fel arfer!

"Mae rhai ohonom yn well am ddeffro a bod yn barod amdani yn y bore, tra mae eraill wedi perffeithio'r gêm o meimio am rhywbeth mewn iaith ddieithr. Ar siwrnai mor hir, mae pawb yn teimlo'n eitha' isel ar adegau gwahanol, a dyna lle mae'n dda cael ffrindiau a'r team effort yna i godi hwyliau unwaith eto.

Disgrifiad o’r llun,

Y tirlun anhygoel yn Norwy

"Roedd y tywydd ar y cyfan ar ein hochr - tymheredd uchel o dros 30C am y dyddiau cyntaf, a ninnau yn chwilota am gysgod o'r haul ar ochr y ffyrdd, cyn cael glaw mân, eira ar ochr ffordd a glaw mawr yn hwyrach ymlaen. Ar Ddydd Gwener, fe gafon ni brynhawn cyfan o reidio i fewn i wynt o 25-40mya fel yr oedden ni'n croesi'r ffin i Norwy.

"Ar ddiwrnod o seiclo 120 milltir, roedd hyn yn sapio pob tamaid o egni o'r coesau. Un mater mecanyddol gawsom ni gyda'r beics... fe gollodd un o'r hogia' ddwy bolt o'r chainrings. Fe lwyddon ni i'w drwsio dros dro - ond yn golygu ein bod rhaid i ni newid ein planiau, i'n galluogi i fynd heibio siop feics.

"Fe lwyddon ni i gyrraedd 15 milltir o'r linell derfyn cyn cael puncture, sydd yn wyrthiol pan yn meddwl fod yna chwech ohonom wedi reidio 760 milltir. Ac yn amlwg, fe ddigwyddodd hyn pan roedd hi'n stido bwrw!"

Disgrifiad o’r llun,

Trwsio puncture yn y glaw mor agos o'r diwedd - 15 milltir o Gothenburg

Ble nesa i Caderman?

"Dwi ddim yn rhy siŵr eto i le'r awn ni y flwyddyn nesaf - teithio lawr drwy Denmarc a'r Almaen dwi'n amau, ond heb wneud dim o'r logistics eto! Dwi'n meddwl ein bod ni i gyd am ddisgwyl i gael y teimlad nôl yn ein penolau a coesau cyn gwneud unrhyw benderfyniad! Y bwriad yn y pen draw yw gorffen y daith ym Mhortiwgal!"

Ond mae gan Gareth ei lygad ar rywle cwbl wahanol hefyd: "Mae un neu ddau ohonom wedi trafod y syniad o Batagonia. Seiclo o Puerto Madryn, drosodd i Drevelin a drosodd i Chile - croesi De America ar feic! Ond mi fyddai hwn yn sialens dipyn anoddach ac angen mwy o baratoi (a chyllid!)."

Disgrifiad o’r llun,

Andy, Kevin, Owen, Geraint, Gareth a Gareth wedi cyrraedd Gothenburg yn wlyb domen.

Pynciau cysylltiedig