Arolwg môr i ddatblygu fferm wynt arnofiol ger Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae'r arolwg morol cyntaf wedi dechrau o ddociau Abertawe fel rhan o brosiect i ddatblygu ffermydd gwynt arnofiol oddi ar arfordir de Cymru.
Dywedodd Ystâd y Goron, sy'n ariannu'r prosiect, y bydd y data a gasglwyd yn yr arolwg yn cyflymu'r broses o ddatblygu ffermydd gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd.
Bydd y data sy'n cael ei gasglu yn cael ei ddefnyddio i arolygu patrymau gwynt a thonnau, ac i weld pa fywyd gwyllt morol sydd yn yr ardal i ddeall ble sydd orau i osod y tyrbinau.
Hyd yn hyn mae'r rhan fwyaf o'r ffermydd gwynt ar y môr wedi'u hadeiladu i wely'r môr mewn dyfroedd bas.
Ond mae modd gosod ffermydd gwynt arnofiol mewn dŵr dyfnach lle mae'r gwynt yn fwy cryf, fel oddi ar arfordir Sir Benfro.
Mae'r tyrbinau gwynt yn cael eu gosod ar strwythurau dur enfawr a'u clymu i wely'r môr.
Mae ffermydd gwynt arnofiol hefyd yn peri llai o fygythiad i'r dirwedd, gan na ellir eu gweld o'r tir.
Dywedodd Tim Stiven, arweinydd y sector ynni gwynt ar gyfer Ystâd y Goron fod lansio'r arolwg cyntaf yn Abertawe yn "hynod gyffrous".
"Am y tro cyntaf rydyn ni'n comisiynu cyfres o arolygon o wely'r môr i'n helpu ni i ddeall ble mae'r lleoliadau gorau ar gyfer ffermydd gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd," meddai.
"Hefyd mae Ystâd y Goron yn buddsoddi yn yr arolygon hyn yn gynnar cyn y byddent fel arfer yn cael eu gwneud i gyflymu'r broses.
"Mae cymaint o'r hyn rydyn ni'n ei wneud yma heddiw yn helpu ni i ddod â'r cynlluniau hynny ymlaen mor gyflym ag y gallwn.
"Mae gwynt ar y môr yn llwyddiant enfawr i'r wlad fel y gwelsom yng ngogledd Cymru.
"Mae pob un o'r ffermydd sydd wedi'u hadeiladu hyd yn hyn mewn dŵr bas, ond nawr rydyn ni'n rhedeg allan o ddŵr bas.
"Felly mae angen i ni symud i ddyfroedd dyfnach, a bydd y tyrbinau hyn yn arnofio ar strwythurau fel rigiau olew sydd wedi'u clymu i i wely'r môr.
"Mae'n ein galluogi i archwilio llawer ymhellach i ddyfroedd y Deyrnas Unedig."
Mae gwerth £603m o dir yng Nghymru, gan gynnwys gwely'r môr o amgylch yr arfordir, yn berchen yn swyddogol i'r Brenin, ond mae'n cael ei rhedeg yn annibynnol.
Bwriad yr Ystâd yw prydlesu ardal o'r môr i gwmnïau preifat i greu'r ffermydd gwynt.
Yna fe fydd y data a gasglwyd gan yr arolwg morol yn helpu'r cwmnïau i ddeall strwythur y gwely môr.
Ychwanegodd Tim: "Mae'r datblygwyr hynny angen caniatâd gan Ystâd y Goron i adeiladu'r ffermydd gwynt, ac fel arfer fe fydden nhw'n gwneud y gwaith o arolygu'r ardal.
"Ond rydyn ni'n ei wneud o flaen amser er mwyn i ni allu rhoi'r data iddyn nhw.
"Mae hynny'n golygu y bydd datblygiad y prosiect yn digwydd yn gynt, fel y gallwn ni i gyd elwa o'r ynni adnewyddadwy a'r cyfleoedd economaidd sy'n dod o'r diwydiant newydd hwn."
Data o wely'r môr
Bydd y cwch, sydd â chriw o 30, yn treulio tua 100 o ddiwrnodau ar y môr, gan ddefnyddio synwyryddion arbenigol i gasglu data geoffisegol o wely'r môr.
Fugro, cwmni sy'n arbenigo mewn data geoffisegol, fydd yn casglu'r wybodaeth.
Dywedodd Gerard Ferreira, Rheolwr Fugro yn y DU: "Rydym yn cymryd llongau fel yr un hon, ac yn rhoi'r offer technoleg ddiweddaraf fel y gallwn arolygu gwely'r môr a gwely islaw'r môr i ddarganfod beth yw strwythur y priddoedd, pa fathau o briddoedd ydyn nhw.
"Os oes unrhyw bryderon, bydd y rheiny'n cael eu hystyried gan geoffisegwyr sy'n ei ddehongli ac yn llunio adroddiad.
"Mae'r adroddiad yn hanfodol i'r cwmnïau fel eu bod yn gwybod beth yw'r ffordd orau i ddatblygu'r prosiect.
"Pan rydyn ni'n cynnal yr arolygon allwn ni ddim mynd i lawr i wely'r môr ein hun oherwydd mae'n ddŵr dyfnach, felly rydyn ni'n defnyddio tonnau sain o'r synwyryddion. Bydd y tonnau sain hyn yn adlewyrchu o wely'r môr.
"Bydd y data wedyn yn rhoi syniad i ni o ba fath o wely rydyn ni'n edrych arno, efallai mai halen ydyw, neu gallai fod yn fwd.
"Mae'r cyfan yn dibynnu ar yr hyn y mae angen i'r datblygwyr ei wybod. Rydyn ni'n dangos i'r cleient beth sydd i lawr yno ac yna gallen nhw greu cynllun."