Ffilm Barbie: Mwy na chwarae plant

  • Cyhoeddwyd
Staff Pontio
Disgrifiad o’r llun,

Mae staff theatr Pontio wedi bod yn gwisgo pinc er mwyn croesawu'r ffilm newydd

Mae cyffro rhyfeddol wedi bod ers i ffilm newydd Barbie gyrraedd sinemâu wythnos ddiwethaf, a chanmoliaeth gan nifer fod y sgript yn hollgynhwysol.

Yn sicr mae Barbie a'r criw yn peintio byd y sgrin fawr yn binc ar hyn o bryd, ond mae'n ymddangos fod y ffilm yn llawer mwy na chwarae plant.

Ers iddi gael ei chyflwyno ar silffoedd siopa dros chwe deg mlynedd yn ôl, mae Barbie wedi cael ei haddoli a'i beirniadu. Y feirniadaeth fwyaf oedd bod y doliau yn hyrwyddo delwedd afrealistig i ferched ifanc.

Ond yn ddiweddar mae cwmni Mattel, wedi creu cyfres o ddoliau newydd cynhwysol mewn ymdrech i fod yn fwy perthnasol i gynulleidfaoedd newydd.

Dywed un sy'n byw gyda chyflwr scoliosis ei bod yn falch fod cwmni Mattel bellach yn sicrhau fod Barbie yn fwy cynhwysol.

Mae'r cyflwr yn golygu bod asgwrn cefn Cadi Dafydd, 25, o Flaenau Ffestiniog, yn crymu ar un ochr.

Yn ddiweddar mae un o ddoliau Barbie yn gwisgo brês cefn er mwyn codi ymwybyddiaeth am y cyflwr.

Mae hynny'n beth da, medd Cadi, gan ei fod yn sicrhau trafodaeth ar y cyflwr ac yn ei "wneud yn fwy derbyniol".

Ffynhonnell y llun, Cadi Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Teimla Cadi Dafydd fod cynrychiolaeth yn bwysig er mwyn i bobl "beidio fod mor hunanfeirniadol"

"Yn enwedig pan fod Barbies yn rhywbeth sydd yn cael eu targedu at gynulleidfa ifanc," meddai.

"Jyst er mwyn cal y gynrychiolaeth yna a dangos i blant eraill sydd efo'r un peth fod o'n rhywbeth i dderbyn, i beidio fod mor hunanfeirniadol.

"Yn tyfu fyny doedd gen i ddim syniad am y cyflwr, ond o gael y drafodaeth yna dwi'n meddwl fod o'n neud byd o les i bobl eraill sydd efo'r un cyflwr, ac i bobl sydd ddim yn ymwybodol ohono fo."

Ychwanegodd: "Os oeddech chi di deud wrtha i ryw dair blynedd yn ôl bydden i'n mynd i watcho Barbie bydden i ddim yn siŵr... achos o'r syniadau sydd ynghlwm â Barbie a'r ffaith bod o'n eitha' cul yn ei gynrychiolaeth.

"So dwi'n meddwl bod y cynnydd yna yn rhywbeth i'w ddathlu yn bendant.

"Y mwya' da chi'n edrych mewn i'r peth [y ffilm] yr amlyca' mae'n dod bod 'na fwy o ddyfnder iddi hi a bod o'n codi lot o gwestiynau am gymdeithas ac am rywiaeth."

'Ffilm bwerus iawn'

Mewn sinemâu ar draws Cymru mae cynulleidfaoedd wedi bod yn tyrru i wylio'r ffilm.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Parrington bod y ffilm i bawb a'i fod am "dderbyn dy hun"

Dywedodd Alun Parrington, sy'n gweithio yn swyddfa docynnau theatr Pontio ym Mangor: "Mae'r sgript a'r stori a'r actio yn cyffwrdd â gymaint o stwff fatha diversity, cymeriadau hoyw, actorion traws ond mae jyst reli am inclusion ac acceptance.

"Mae gymaint mwy na ffilm am toy, mae o jyst am dderbyn dy hun am bwy wyt ti a bod yn hapus."

Disgrifiad o’r llun,

Teimla Annie [dde] fod y ffilm yn ysbrydoledig

Dywedodd Annie, o Borthaethwy, a aeth i wylio'r ffilm er mwyn dathlu ei phen-blwydd yn 15: "Mae'n gwneud i mi deimlo'n dda am fod yn fenyw. Roedd e'n ysbrydoledig iawn."

Bangor a bwrlwm Barbie

Oherwydd y cyfnodau clo a ffrydio ffilmiau ar gynnydd mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol i sinemâu.

Yn ôl Dion Hughes, Cydlynydd Sinema Pontio, Bangor mae llwyddiant y ffilm yma yn allweddol i ffyniant theatrau ffilmiau drwy Gymru.

"Bob nos mae di bod yn lawn dop ma'," dywedodd.

"A hefyd mae'n dangos bod 'na le i sinema dal yn y byd 'ma, achos ers Covid di niferoedd ddim di bod yn wych ar hyd Cymru gyda sinemâu ac mae'n codi calonnau pawb i weld fod pobl yn dod 'nôl."

Pynciau cysylltiedig