Canfod 14 o gychod gwenyn gafodd eu dwyn
- Cyhoeddwyd
Mae gwenynwr ar ben ei ddigon wedi i 14 o gychod gwenyn a gafodd eu dwyn ddod i'r fei.
Cafodd y gwenyn a'r cychod - sy'n werth hyd at £11,000 - eu dwyn yn gynharach yn y mis o Fynydd y Garth ger Llangollen yn Sir Ddinbych.
Fe gafon nhw'u darganfod ddydd Mawrth rhyw dair milltir i ffwrdd.
Dywedodd Nathan Egerton Evans, cyd-gyfarwyddwr cwmni West Coast Apiaries, fod y trychfilod a'u cartrefi yn ymddangos "mewn cyflwr go dda".
Eglurodd fod Swyddog Cynorthwyol yr Heddlu yn lleol wedi clywed sibrydion am leoliad y cychod, ond nad yw'r person oedd yn gyfrifol am eu dwyn wedi cael ei ddal eto.
Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru gadarnhau eu bod yn ymchwilio i'r mater.
Angen archwiliad manwl
Mae Mr Evans, o Fachynlleth ym Mhowys, yn rhedeg y cwmni gwenyn gyda'i gyfaill Gruffudd Tomos. Mae ganddyn nhw gychod gwenyn ar draws gogledd Cymru a Sir Amwythig, ond doedden nhw ddim wedi disgwyl gweld y cychod oedd wedi diflannu fyth eto.
"Wrth i'r amser fynd yn ei flaen, ac roedd gennym gymaint o agweddau eraill o'r busnes i ganolbwyntio arnyn nhw, roeddwn i wedi dechrau derbyn yr hyn ddigwyddodd," meddai.
"Ar yr olwg gyntaf, gallwn weld fod y cychod yn dal yn llawn gwenyn, ac mae'r mynedfeydd yn agored felly roedden nhw'n medru bwydo yn lle bynnag yr oedden nhw.
"Fe fydd angen archwiliad mwy manwl, ond hyd yma mae pethau'n edrych mewn cyflwr go dda."
Lladron yn deall yn iawn
Yn y cyfamser mae Mr Evans yn galw ar bobl allai fod â gwybodaeth am y lladron i siarad gyda'r heddlu.
Ychwanegodd fod pwy bynnag oedd yn gyfrifol yn amlwg gyda rhywfaint o ddealltwriaeth o gadw gwenyn.
Meddai: "Yn sicr mae'n cymryd rhywfaint o grebwyll sylfaenol i ddeall sut mae eu symud nhw a phryd i'w symud nhw."
Dywedodd fod dwyn cychod gwenyn yn beth eithaf anarferol, a bod nifer y cychod a gafodd eu dwyn y tro hwn yn gwneud yr achos yn un unigryw.
"Pan fuon ni'n dweud wrth wenynwyr eraill profiadol fod 14 o gychod wedi mynd, doedd yr un ohonyn nhw wedi clywed am y fath beth," meddai.
"Roedd nifer y cychod gafodd eu dwyn yn dipyn o sioc.
"Yn y diwedd mae pob dim yn iawn, ac mae'n dangos sut mae pobl yn y gymuned yma wedi tynnu at ei gilydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2022