Gêm gyfeillgar: Cymru 0-0 De Corea
- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru'n fodlon gyda'u perfformiad wrth sicrhau gêm gyfartal yn erbyn De Corea yng Nghaerdydd nos Iau.
Er y pryderon am faint y dorf cyn y gic gyntaf, roedd dros 13,000 yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i dîm Rob Page baratoi i wynebu Latfia mewn gêm gystadleuol nos Lun.
Ac er iddo ddatgan o flaen llaw y byddai'n "well ganddo beidio â chwarae" y gêm gyfeillgar hon, fe ddewisodd reolwr Cymru dîm cryfach na'r disgwyl.
De Corea welodd y mwyaf o'r bêl ond y tîm cartref gafodd y cyfleon gorau.
Daeth y cyfle cyntaf o bwys i Harry Wilson wedi symudiad gwych gyda 13 munud ar y cloc, ond saethodd yn syth at y gôl geidwad.
Ond daeth cyfleon i'r ymwelwyr hefyd, gyda Son Heung-Min yn ergydio dros y trawst yn yr ail hanner.
Bu bron i Kieffer Moore roi Cymru ar y blaen wedi 65 munud pan beniodd yn erbyn y postyn, gyda Aaron Ramsey yn methu â gwyro'r bel yn yn ol am y gôl wedi iddi adlamu allan.
Ond yr agwedd fwyaf dymunol i Rob Page o flaen gêm lawer bwysicach nos Lun fydd eu bod wedi osgoi anafiadau i chwaraewyr allweddol cyn y daith dyngedfenol i Riga.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2023