Trafnidiaeth Cymru: 'Cynlluniwch cyn teithio' ar ŵyl y banc

  • Cyhoeddwyd
TrenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i wasanaethau Trafnidiaeth Cymru fod yn brysurach na'r arfer dros ŵyl y banc

Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog pobl i gynllunio o flaen llaw wrth deithio dros ŵyl y banc wrth i streiciau effeithio ar wasanaethau trên.

Mae undeb RMT wedi cyhoeddi streiciau ar gyfer 26 Awst a 2 Medi, tra bod Aslef yn bwriadu streicio ar 1 Medi.

Bydd hyn yn effeithio ar wasanaethau Great Western Railway ac Avanti.

Er nad yw'r streiciau'n effeithio'n uniongyrchol ar Drafnidiaeth Cymru maent yn disgwyl i'w gwasanaethau fod yn fwy prysur na'r arfer o ganlyniad.

Ychwanegodd Trafnidiaeth Cymru: "Bydd ein gwasanaethau yn brysur iawn yn enwedig gyda gwahanol ddigwyddiadau gŵyl y banc yn cael eu cynnal ar draws ein rhwydwaith.

Pa wasanaethau fydd yn cael eu heffeithio?

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr o'u gwasanaethau fydd wedi'u heffeithio.

Bydd newidiadau i wasanaethau o Gymru a'r canlynol cyn 07:00 a gyda'r nos - wedi 19:00:

  • Bydd gwasanaethau Cheltenham/Caerloyw yn dechrau ac yn gorffen yn Lydney.

  • Bydd gwasanaethau Birmingham yn dechrau ac yn gorffen yn Birmingham New Street ac ni fyddant yn galw yn Wolverhampton na Birmingham International.

  • Arfordir Gogledd Cymru - bydd gwasanaethau Manceinion yn dechrau ac yn gorffen yng Nghaer. (Dim gwasanaeth rhwng Caer - Manceinion).

  • De Cymru - bydd gwasanaethau Manceinion yn dechrau ac yn gorffen yn Nantwich. (Dim gwasanaethau rhwng Nantwich - Crewe - Manceinion Piccadilly).

  • Ni fydd y gwasanaethau Lerpwl Lime Street - Caer yn rhedeg.

Mae'r amseroedd a nodwyd yn amseroedd bras.

Gwasanaethau wedi'u heffeithio trwy'r dydd:

  • Bydd trenau o dde Cymru i Fanceinion Piccadilly yn galw yn Stockport yn unig (oherwydd pryderon gorlenwi) ac ni fyddant yn galw yn Wilmslow.

  • Bydd trenau Manceinion Piccadilly i Dde Cymru ond yn casglu teithwyr yn Stockport (oherwydd pryderon gorlenwi) a ddim yn galw yn Wilmslow.

  • Ni fydd trenau Arfordir Gogledd Cymru - Manceinion Piccadilly yn galw ym Manceinion Oxford Road na Warrington Bank Quay.

Pynciau cysylltiedig