Ynys Môn: Apêl wedi anafiadau 'catastroffig' i wartheg

  • Cyhoeddwyd
MaenaddwynFfynhonnell y llun, Google Streetview
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gwartheg wedi disgyn i lawr llethr serth ym Maenaddwyn, ger Llannerchymedd

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ar ôl i wartheg ddioddef "anafiadau catastroffig" a marw ar Ynys Môn.

Y gred yw bod ci wedi bod yn rhydd yn yr un cae â'r pedair buwch, oedd yn cario lloi, ym Maenaddwyn, ger Llannerchymedd.

O ganlyniad, mae'r gwartheg wedi disgyn i lawr llethr serth, gan ddioddef anafiadau difrifol.

Digwyddodd rhyw bryd rhwng tua 15:00 ar 23 Awst a 10:00 y bore canlynol.

Dywedodd yr heddlu y byddai'r digwyddiad yn golygu "cost ariannol sylweddol" i'r ffermwr, yn ogystal â'r "effaith emosiynol o ganfod ei stoc mewn amgylchiadau mor frawychus".

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gwybodaeth, neu sy'n gwybod bod eu ci yn rhydd yn y cyfnod ac a allai fod yn gyfrifol, i gysylltu gyda nhw.