Aberystwyth: Ysgol Penweddig yn dathlu hanner canrif
- Cyhoeddwyd
Mae'r ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf yng Ngheredigion yn dathlu ei phen-blwydd yn hanner cant oed.
Cafodd Ysgol Penweddig ei hagor ym mis Medi 1973 gyda 168 o blant ar y gofrestr.
Penweddig oedd y chweched ysgol uwchradd Gymraeg i gael ei sefydlu'n swyddogol - mae'r prifathro cyntaf Gerald Morgan yn cofio'r cyfnod, a'r ymgyrch i agor ysgol, yn glir.
"Des i fyw i Aberystwyth ym 1963 ac o'n i'n gallu gweld bod angen ysgol. Roedd 'na alw (am addysg Gymraeg) ac roedd 'na wrthwynebiad. Wrth i'r cefnogwyr - y darpar rieni - gryfhau eu gofynion roedd yr elyniaeth yn dyfnhau hefyd.
"Roedd pob math o broffwydoliaethau. Defnyddiwyd geiriau fel 'ghetto' a phroffwydoliaeth o ymladd rhwng plant o'r ddwy ysgol [Penweddig a Penglais, yr ysgol Saesneg]. Ond wnaeth ddim byd fel yna ddigwydd.
"Mae'r syniad o 'ghetto' yn awgrymu gorfodaeth, mater o ddewis oedd e i rieni i ddewis ysgol i'w plant a chafodd neb ei orfodi o fath yn y byd."
'Safle anaddas'
Gerald Morgan oedd y prifathro am 16 o flynyddoedd. Am y ddwy flynedd gyntaf roedd yr ysgol Gymraeg newydd yn rhannu'r safle gydag Ysgol Penglais, yn hen adeilad Ysgol Ardwyn ar Ffordd Dewi.
Yn ôl Mr Morgan roedd y safle yn orlawn ac yn anaddas.
"Roedd 168 o blant (ym mlwyddyn gyntaf Penweddig) os wy'n cofio'n iawn a rhyw ddyrnaid o athrawon. Ro'n ni'n cael help gan athrawon iaith Gymraeg o Ysgol Penglais.
"Buon nhw'n dda iawn wrthon ni - oherwydd roedd rhannu safle mor gyfyng yn anodd iawn. A tae 'na unrhyw ymladd yn mynd i ddigwydd byddai wedi digwydd yr adeg honno, o achos roedd 600 o blant ar safle oedd ddim yn addas ar gyfer 300."
Roedd ysgol gynradd Gymraeg Aberystwyth wedi hen sefydlu ei hun - cafodd ei hagor yn wreiddiol fel ysgol breifat yn 1939.
Ond tra bod addysg gynradd ar gael yn Gymraeg, cyn agor Penweddig, addysg Saesneg yn unig fyddai ar gael pan roedd y plant yn cyrraedd oed uwchradd.
Flwyddyn ar ôl agor Ysgol Penweddig fe newidiodd llywodraeth leol yng Nghymru wrth ffurfio Cyngor Sir Dyfed ym 1974.
Er y newid mawr dywedodd Gerald Morgan bod cyn swyddog addysg yng Ngheredigion a ddaeth yn brif weithredwr Dyfed wedi bod yn gefnogol iawn.
"Roedd (yr ad-drefnu) yn dipyn o hunllef i bawb, roedd yn golygu newid y rheolwyr, roedd penodiadau yn newid oherwydd bod Dyfed yn gyngor gwahanol iawn i'r hen gyngor Ceredigion," meddai.
"Yn 1973 ro'n i eisoes yn rhedeg ysgol uwchradd yn Sir Fôn, ac o'n i'n gyfrifol am honno tan ddiwedd Awst ac ar Medi 1 roedd Penweddig yn dechrau.
"Wrth gwrs roedd paratoi i wneud, a lot o waith yn cael ei wneud gan bobl yn y swyddfa addysg, ac roedd yr arweiniad roddodd John Phillips yn ardderchog."
Arhosodd Penweddig yn yr hen safle yn Ffordd Dewi tan 2001 pan symudodd i adeilad newydd oedd wedi'i adeiladu'n bwrpasol yn Llanbadarn.
Ymhlith y cyn-ddisgyblion adnabyddus mae Aled Haydn Jones sydd nawr yn bennaeth ar orsaf Radio 1, y gantores a'r cerddor Georgia Ruth, cyn-brif weithredwr S4C Owen Evans, yr actores Gwyneth Keyworth, a'r canwr Sam Ebenezer.
Fe fydd rhai - ynghyd â chyn-aelodau staff - yn dychwelyd i'r ysgol y penwythnos hwn i fod yn rhan o'r dathliadau.
Bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn, gan gynnwys arddangosfa o hen luniau a chyfle i hel atgofion, paned a chlonc yng nghwmni'r cyn-brifathro Arwel George ac adloniant gan ddisgyblion presennol.
Yna fe fydd cabaret yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth yng nghwmni cyn-ddisgyblion Georgia Ruth, Sam Ebenezer, Rhys Taylor, Aled Richards ac artistiaid eraill.
Yn cyflwyno'r cabaret bydd yr actor a chyflwynydd Trystan ap Owen.
Dywedodd: "Mae gen i lwyth o atgofion arbennig ym Mhenweddig gyda ffrindiau agos a ni dal i chwerthin ar y storiâu ac atgofion nawr!
"Cystadlu gyda grŵp dawnsio gwerin Penweddig yn Eisteddfod yr Urdd bob blwyddyn dan arweiniad Buddug Thomas ac ennill yn 2006! Cyflwyno yn seremoni'r torch Olympaidd yn 2012 ar ran Penweddig o flaen miloedd yn y Vicarage Field!
"Atgof arall yw cuddio mewn tardis yn yr adran ddrama i neidio allan ar ffrind… ond wedyn troi mas 'nes i neidio allan a dychryn y dirprwy bennaeth Carol Izri… sain siŵr pwy gafodd yr ofn mwyaf!"
Ychwanegodd: "Un o'r athrawon 'nath ysbrydoli fi fwyaf oedd Alexis Barnard (Pennaeth Drama). O'n i wrth fy modd mewn dosbarthiadau drama gyda Miss Barnard, odd hi mor gefnogol a wastad yn annog fi i weithio'n galed a pharhau gyda gyrfa mewn drama a chyfryngau.
"Fi'n ddiolchgar iawn iddi am y gefnogaeth a chyfleodd dros y blynyddoedd a ma' hi dal yn gefnogol i fi nawr!"
O le daw enw'r ysgol?
Enw cantref yn rhan ogleddol yr hyn sy'n cael ei alw'n Geredigion yw Penweddig.
Roedd cantref yn hen ffordd Gymreig o rannu tir yn yr oesoedd canol. Penweddig oedd enw'r ardal rhwng afonydd Dyfi ac Ystwyth. Enw cantrefi eraill Ceredigion oedd Uwch Aeron ac Is Aeron.
Safle oedd yn eiddo i'r cyngor ar Ffordd Dewi oedd cartref gwreiddiol yr ysgol.
Bu yno am 28 o flynyddoedd cyn symud i'w safle presennol yn 2001 - adeilad gafodd ei godi'n bwrpasol yn Llanbadarn Fawr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2020
- Cyhoeddwyd25 Medi 2014
- Cyhoeddwyd25 Medi 2012